| |
|
|
|
|
|
|
|
Dal Hi Hunllef a hwyl
Adolygiad Carys Mair Davies o Dal Hi gan Caryl Lewis. Lolfa. 拢7.99.
Wrth bori rhwng silffoedd fy siop lyfrau leol daliodd y nofel Dal Hi! gan Caryl Lewis fy sylw.
O edrych ar y clawr deniadol ac apelgar penderfynais fod stori werth chweil rhwng y cloriau hyn - ac ni chefais fy siomi!
Nid oes cyflwyniad ffurfiol o'r cymeriadau ar ddechrau'r nofel; yn wir, nid yw'n amlwg o safbwynt pwy mae'r stori yn cael ei hadrodd ond mae'n cychwyn gyda brawddeg agoriadol drawiadol iawn!
Wedi imi ddeall mai stori am griw o ferched sy'n cystadlu mewn cystadleuaeth tynnu rhaff yw hi roeddwn wedi fy machu.
O safbwynt Heledd (Hels i'w ffrindiau) y cawn y stori. Mae hi a'i ffrindiau yn wynebu treialon bywyd gan gynnwys cecru cariadon, cwympo mas rhwng cyfeillion a bradychu.
Mae'r nofel yn dechrau ar y cae - ble arall?! - lle mae'r merched wrthi'n brysur yn ymarfer tynnu rhaff gyda'r hyfforddwr, Les, yn gweiddi nerth esgyrn ei ben arnynt a hwythau bron ag yml芒dd.
Maes o law, daw yr hyfforddwr haerllug 芒'r ymarfer i ben (o'r diwedd!) - ond yn hwyr (fel arfer!) a dyma baratoadau'r noson yn mynd 芒 bryd y ffrindiau.
Ceir darlun deublyg iawn o'r merched - yn gras ac yn galed wrth dynnu rhaff ond yn fenywaidd ac yn hwyliog wrth dynnu dynion, meddwi a mwynhau.
Yn dilyn yr anrhydedd o ennill un bencampwriaeth tynnu rhaff daw hunllef i ran ffrind gorau Heledd wrth i fam Nerys farw yn dilyn salwch.
Nid yw Heledd yn gwybod sut mae ymdopi 芒'r cyfrifoldeb o sicrhau nad yw ei ffrind yn suddo dan y don.
Wrth geisio helpu 'Ner' i ddygymod 芒 marwolaeth ei mam mae Heledd hefyd yn cael ei hysgwyd ei hun wrth i Si么n, ei phartner, ei gadael i fynd i Awstralia.
Er taw o safbwynt Heledd yr adroddir y stori, bywyd Nerys sydd dan y chwyddwydr.
A'r stori yn dod i'w therfyn a chorwyntoedd bywydau'r merched fel pe'n cilio, dyma Si么n yn glanio ar stepen drws Heledd gan erfyn am faddeuant. Wel, rhaid i rywbeth gorddi'r dyfroedd yn 'does?!
Felly, beth mae Heledd i'w wneud? Maddau i Si么n a'i groesawu 芒 breichiau agored ynteu cau'r drws yn glep yn ei wyneb ac aros efo Deian ei phartner newydd?
Mae'r stori'n gorffen yn benagored a Charyl Lewis yn gadael i'r darllenwyr ddod i gasgliad.
Yn fy marn i, bydd Heledd yn gadael Deian gan wneud iawn am yr amser a gollodd efo Si么n! Ond pwy a 诺yr?
Er bod y cynnwys yn delio 芒 materion dwys mae yma ddoniolwch hefyd.
Ni fuaswn yn ei hargymell i unrhyw un dan 13 oherwydd yr iaith anweddus.
Fe'i sgrifennwyd mewn hwnteg sy'n clecian ond yn gwbl ddealladwy i gogs!
Nid yw'r arddull yn farddonol nac yn goeth iawn ond mae hi yn llifo ac yn fwrlwm o gyffelybiaethau, trosiadau ac yn y blaen.
Nid nofel i'r gwan ei galon mo hon a hithau'n edrych y tu 么l i ddrysau caeedig y cymeriadau.
Mae Caryl Lewis wedi sylwi ac wedi deall digon i greu criw o ferched credadwy iawn.
Nofel dreiddgar sy'n delio ben-ben 芒 phroblemau .
Mae Caryl Lewis yn prysur ddod yn un o fy hoff awduron.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|