| |
|
|
|
|
|
|
|
Euog Byd dieithr i ymgolli ynddo
Adolygiad Carys Mair Davies o Euog gan Llion Iwan. Gomer.
"Ydi'r pris yn rhy ddrud bellach? . . ."
Mae Dafydd Smith mewn cell, wedi ei ddedfrydu i oes o garchar am lofruddio'i gariad. Aeth ei fywyd i gyd ar chw芒l ond, gyda chyn lleied i'w golli, nid yw Dafydd yn fodlon derbyn y bai am drosedd rhywun arall - yn enwedig gan fod y llofrudd go iawn yn dal 芒'i draed yn rhydd.
Ond am ba hyd? Wrth i'r rhwyd ddechrau cau am Louis Cypher, sef y Casglwr dieflig, o'r diwedd, pwy fydd yn llwyddo i'w ddal e gyntaf?
Ai'r eithafwyr ffasgaidd sydd eisiau defnyddio'r Casglwr a'i gyfrinach iasol i'w dibenion eu hunain?
Ai MI5, o dan arweiniad y Cyrnol a hen 'ffrind' Dafydd, y Lladdwr? Ynteu Dafydd ei hun, sy'n fodlon aberthu popeth dros y gwir?
Beth yw gwir werth rhyddid, a phwy sy'n fodlon talu'r pris?
Trydedd nofel Euog yw trydedd nofel Llion Iwan am Dafydd Smith - a'r olaf yn anffodus - ac yn ddilyniant i Lladdwr a Casglwr.
Mae'n meddu ar yr un hud iasoer 芒'r ddwy arall.
Credaf ei bod hi'n hanfodol darllen y ddwy arall cyn darllen hon gan y byddai'n gwbwl amhosibl gwneud pen rheswm o'r plot gan fod cymaint o gyfeiriadau at gymeriadau a chefndir y ddwy nofel gyntaf.
Gyda'r Casglwr wedi gorffen yn benagored yr oeddwn ar bigau'r drain i ddarganfod beth ddigwyddodd nesaf i Dafydd Smith, yr arwr.
Disgwyliwn nofel yn llawn tensiynau, drama, peryglon, casineb a dianc er mwyn achub bywydau - ac ni chefais fy siomi!!
Cyllyll a gynnau Fel yr wyf yn si诺r eich bod wedi sylweddoli mae Euog a'r llyfrau eraill yn mynd a ni i fyd dieithr a dyrys gyda'u s么n am MI5 a llofruddion lluosog ac er bod yn well gen i yn gyffredinol nofelau am fyd cyfarwydd y gallaf uniaethu ag ef yr oedd yn braf cael fy mwrw i fyd dychmygol o gyllyll a gynnau am unwaith!!!
Yn enwedig byd o gyllyll a gynnau a gr毛wyd mor gelfydd.
Dyma nofel sy'n haeddu sylw pawb!! Mae'n rhaid bod crefft hynod ac ymdrech annisgrifiadwy yn mynd i mewn i gampwaith o'r fath - fel naddu darn o bren yn gain - ac mae Llion Iwan yn rhagori ar ein disgwyliadau.
Gorfod ailddarllen Buaswn yn cymeradwyo Casglwr i unrhyw un o unrhyw oedran ond mae'n rhaid eich rhybuddio bod y stori yn symud yn gyflym iawn! Anodd iawn dal i fyny 芒'r digwyddiadau.
Bu'n rhaid i mi ail ddarllen rhannau o'r nofel sawl gwaith er mwyn deall yn iawn beth oedd yn digwydd.
Ond cefais fodd i fyw wrth ddarllen Euog ac ni allwn roi'r llyfr i lawr o gwbwl. Bu'n rhaid ei orffen mewn noswaith!!
Yn fy marn i, mae Euog yn well na Lladdwr - ond rwy'n dal i roi Casglwr ar y brig!
Er yn siomedig fod straeon Dafydd Smith wedi dirwyn i ben rhaid imi ganmol Llion Iwan am y modd y daeth 芒'r cyfan i ben gyda chlec fythgofiadwy.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiadau eraill Cynllun Papurau Bro
Adolygiad Glyn Jones o Euog
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|