Nofel gwerth dyfalbarhau a hi
Adolygiad Carys Mair Davies o Ffydd Gobaith Cariad gan Llwyd Owen. Lolfa. 拢7.95.
Dyma nofel lesmeiriol wedi'i hysgrifennu gan blot feistr heb ei ail!!
Mae Alun Brady, dyn ar drothwy ei 30 oed, wedi byw bywyd tawel, di-nod a chysgodol yng nghartref crand ei rieni yn un o faestrefi mwyaf cefnog Caerdydd.
Ond, pan ddaw Patrick, ei dad-cu direidus, i fyw - ac i farw - yng nghartref Alun a'i rieni dyma ddechrau newidiadau enfawr ym mywyd y dyn ifanc.
Mae Ffydd, Gobaith, Cariad gan Llwyd Owen yn llawn cymeriadau lliwgar, plotio gwreiddiol a diweddglo cofiadwy - sylfaen pob nofel rymus.
Mae hefyd yn esblygiad naturiol o nofel gyntaf yr awdur, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau.
Wedi ei hysgrifennu yn gyfan gwbl trwy lygaid Alun Brady, mae'r nofel yn ddirdynnol gyda datblygiadau annisgwyl ac anhygoel. Yn archwilio them芒u cyfoes mae'n nofel am undonedd bywyd a'r pethau bach - a mawr - sy'n tarfu ar y tawelwch.
Er bod y cymeriadau sydd i'w canfod yn y nofel yn rhai lliwgar a chofiadwy nid yw yr un ohonynt yn hoffus iawn; ond pe byddwn yn gorfod dewis hoff gymeriad, buaswn yn dewis rhieni Alun Brady.
Dewisaf hwy am iddynt neilltuo eu bywydau i ofalu am dad-cu'r nofel; gweithred hollol anhunanol sy'n amlygu'r ffaith eu bod yn Gristnogion sy'n dilyn Gair Duw.
Nid oes lle blaenllaw iddynt yn natblygiad plot y nofel - ond mae eu cymeriadau llym hwy yn rhoi syniad i'r darllenwr sut mae magwraeth Alun wedi effeithio ar ei bresennol a'i ddyfodol.
Dim ond un gwendid sydd yna, a hynny ar y dechrau gyda'r agoriad yn llawer rhy dreiddgar ac felly mewn peryg o wneud i'r darllenwyr roi'r gorau iddi heb gyrraedd yr ail bennod.
Dyna wnes i a bu'n agos i flwyddyn cyn imi ailgydio - ac rwy'n sobor o falch imi wneud hynny!
Ni fuaswn yn argymell y nofel hon i bobl o dan 14 oed oherwydd ei iaith anweddus - ar bron bob dalen.
Ni fuaswn yn ei hargymell ychwaith ond i bobl sy'n gwir fwynhau darllen deunydd Cymraeg gan fod angen treiddio'n ddwfn a darllen llawer rhwng y llinellau.
Bu'n rhaid i mi yn 16 oed roi dau gynnig ar ei darllen i'w deall yn iawn.
Ond rwy'n erfyn arnoch i ddarllen y nofel sy'n haeddiannol o bob canmoliaeth ac yn un o'r nofelau gorau yn y Gymraeg!
Edrychaf ymlaen yn awr at ddarllen nofel gyntaf Llwyd Owen, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi