| |
|
|
|
|
|
|
|
Y Gemydd Croeso i nofel newydd Caryl Lewis
Adolygiad Carys Mair Davies o Y Gemydd gan Caryl Lewis. Lolfa. 拢7.95.
Mae'n rhaid bod pob copa walltog sy'n mwynhau darllen yn y Gymraeg wedi clywed am Caryl Lewis a hithau'n un o'r prif awduron cyfoes ar gyfer pobl ifanc.
Eisoes darparodd straeon dirdynnol fel Martha, Jac a Sianco a Dal Hi!.
Y ddiweddaraf o'i llyfrau y cefais y pleser o'i darllen yw ei nofel newydd, Y Gemydd ac unwaith eto mae'n stori sy'n gafael mewn modd brawychus.
Stori yw am gymeriadau brith sy'n byw ar gyrion cymdeithas a'r prif gymeriad, Mair, yn crafu byw trwy drin a gwerthu gemau a chlirio tai - nes y daw ar draws gem sy'n trawsnewid ei bywyd yn llwyr.
Nid oes plot cymhleth, cymeriadau bythgofiadwy na darluniau anhygoel yn perthyn i'r Gemydd. Yn wir, mae'n eithaf syml.
Ond y mae hefyd yn nofel glyfar tu hwnt yn uniaethu 芒 threialon bywyd bob dydd.
Mae'n nofel sy'n siarad gyda'r mwyafrif ohonom nad ydym yn byw bywyd swreal, llawn cyffro.
Bod yn gredadwy Gwendid llawer o awduron yw eu bod yn creu straeon sy'n llawn digwyddiadau sy'n chwyldroi bywydau a'u newid o un eithaf i'r llall.
Mae'r digwyddiadau y cyfeiriaf atynt yn rhoi plot penigamp ond maent hefyd yn tanseilio'r hyn sy'n gredadwy. Mae Y Gemydd, fodd bynnag, yn wahanol.
Mae hon hefyd yn nofel rymus llawn symbolaeth ac yn gweithio ar sawl lefel.
Mae gan Caryl Lewis ddawn arbennig i greu cymeriadau dwys, diddorol, a'u gosod mewn lleoliad credadwy.
Ochr yn ochr 芒'i dawn dweud mae'r defnydd o dafodiaith Ceredigion. Mae hynny a'r holl waith ymchwil sy'n mynd i mewn i'w gwaith yn cynnig nofel aeddfed, grefftus i unrhyw ddarllenwr ei mwynhau.
Ond wedi darllen Y Gemydd mae'n rhaid imi gyfaddef nad dyma fy hoff lyfr gan Caryl Lewis.
Ni chefais fy swyno gymaint ganddi 芒 gweithiau fel Martha, Jac a Sianco er enghraifft.
Ni theimlaf fod yr un swyn rhwng cloriau hon ag oedd yn ei nofelau cyntaf.
Ond wedi dweud hynny 'roedd y prif gymeriad, Mair, yn dangos elfennau dirdynnol o gynildeb a dwyster nas gwelwyd o'r blaen ac rwy'n argymell Y Gemydd a'ch hannog i'w ddarllen.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi Gweler Gwales :
"Nofel sy'n cyfleu unigrwydd dirdynnol gyda phortreadau grymus o gymeriadau sy'n gweithio mewn marchnad sydd ar fin cau. Dilynir argyfwng Mair, sy'n gwneud bywoliaeth o drin gemau a chlirio tai, nes y daw un gem i drawsnewid ei bywyd yn llwyr..."
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Caryl Lewis
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|