大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hiwmor Ifan Tregaron
Ar gyfer codi'r bore!
  • Adolygiad Dylan Davies o Hiwmor Ifan Tregaron
  • Y Lolfa. 拢3.95.

    Wrth feddwl am ddigrifwyr enwog, mae sawl enw yn dod i'r meddwl yn syth; Jimmy Carr, y Gwyddel, Patrick Kielty, Dai Jones neu Dai Llanilar ac, wrth gwrs, Ifan Tregaron.

    Clawr y llyfr Yng nghyfres Ti'n jocan Y Lolfa mae llyfr Ifan Gruffydd yn awr wedi ei ychwanegu at lyfrau eraill gan ddigrifwyr enwog Cymru fel Lyn Ebeneser a Dai Llanilar.

    O edrych ar y clawr, yr hyn sy'n ein taro'n syth yw taw clawr syml iawn sydd i'r llyfr - 'hiwmor' mewn coch ac enw Ifan Tregaron o dan y teitl a llun o'r digrifwr yn chwerthin gan ei gwneud yn amlwg mai llyfr ysgafn yw hwn.

    Wrth ddarllen y rhagair gwelwn fod Ifan Tregaron yn falch iawn o fod yn Gardi.

    Mae'n egluro hefyd beth yw j么c yn ei farn ef - drama fach gyda dechrau, canol a diwedd da ac yn llawn cymeriadau 'byw'.

    Eto, mae'r rhagair yn rhoi rhyw fath o flas o ysgafnder y llyfr, cyn symud ymlaen.

    Gosodwyd y j么cs dan benawdau yn nhrefn yr wyddor ac ar ambell i ddalen mae yna gart诺n - syniad da, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd ddim yn rhy hoff o ddarllen ac a fyddai'n cael eu temtio i roi'r llyfr o'r neilltu heb ei ddarllen o weld dim ond print.

    Mae gan Ifan j么c am bron bopeth gan gynnwys anifeiliaid, organ, hanes, chwaraeon, Cymry a Saeson - hyd yn oed g诺r a gwraig.

    Mae ambell i j么c yn gallu mynd o dan y croen. Mewn eraill, y tu 么l i'r digrifwch mae yna wirionedd neu neges ddifrifol.

    Siomedig, fodd bynnag, yw'r enghraifft o 'sgript' Idwal yn y llyfr. Er imi ddisgwyl chwerthin cymaint y byddai nghorff yn cael dolur dim ond ambell i chwerthiniad bach fu yna!

    Eto, pan welaf Ifan yn actio Idwal ar y teledu mae'n dweud y 'sgript' mor hawdd ac mor ddifrifol rwy'n dal i chwerthin wedi iddo gerdded bant o'r llwyfan.

    Nid yw'n edifar gen i brynu'r llyfr yma.
    Yn wahanol iawn i nifer o lyfrau Cymraeg mae'n ysgafn ac yn hawdd i'w ddarllen.

    Ond nid yw'n llyfr i'w ddarllen cyn mynd i'r gwely ond yn un i'w ddarllen wrth godi - fel bo gw锚n ar eich hwyneb cyn mentro allan i'r byd go iawn!

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Tregaron - Lleol i Mi


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy