|
Rhaid i Bopeth Newid Hanes dau fywyd
Adolygiad Glyn Jones o Rhaid i Bopeth Newid gan Grahame Davies. Gomer. 拢7.99
"Dychanwr heb ei ail," meddai John Gruffudd Jones am Grahame Davies - ac ni ddywedodd neb hi gystal.
Hon yw ei nofel gyntaf ac nid hen grachach ddi-hid Caerdydd yn unig sy'n ei chael hi yma ond pawb.
Y cyfryngis, y gwleidyddion, yr ymgyrchwyr iaith, y Cristnogion, y Ffasgwyr, y Sosialwyr a phawb dan haul.
Dadrith yw'r thema fawr.
Dadrithiad dwy ferch yn y ddynoliaeth, yn eu cymunedau ac ynddynt eu hunain a'u hysfa i newid y byd er gwell.
Dwy stori sydd yma - sypreis, sypreis - wedi eu gweu yn grefftus drwy'i gilydd. Y gyntaf yn stori wir yn seiliedig ar waith ymchwil a wnaeth yr awdur gogyfer ei ddoethuriaeth. Waeth lladd dau aderyn efo'r un garreg ddim!
Simone Weil, yr ymgyrchwraig eiconig, yw'r prif gymeriad, ac mae'n amlwg bod gan yr awdur gryn edmygedd ohoni, a llun neu ddau ohoni tan ei obennydd synnwn i ddim.
Sosialaeth a brawdoliaeth Iddewes ddisglair ydyw yn byw yn y Ffrainc ansefydlog honno rhwng y ddau ryfel byd ac fel pob arwres mae hi geiniog yn fyr o bunt.
Yn cas谩u ei hun am fod yn Iddewes ac yn ferch mae'n cyfnewid ei gyrfa academaidd am waith ffatri er mwyn uniaethu 芒'r tlodion ac yn mynd i'r Almaen, de Ffrainc, Sbaen a Llundain i ymladd dros sosialaeth a brawdoliaeth.
Pe na bai'r stori'n wir fe'i condemniwn fel talp o afrealaeth; ond mae yn wir a hynny sy'n anhygoel.
Mae'n werth darllen y nofel yn unswydd er mwyn clywed beth ddywed y ferch ryfeddol hon nesaf.
Stori ddychmygol Dychmygol yw'r ail stori; hanes Meinwen Jones, 'Iesu Grist Cymru' sy'n uchel ei chloch dros yr iaith, y wlad, heddwch a chymuned.
Mynycha bob cyfarfod, protest a chyfweliad ac mae'n fodlon aberthu unrhyw beth dros 'Yr Achos'.
Mae hi wedi darllen gwaith Simone Weil ac yn benderfynol o ddilyn ei harwres mewn cam a gweithred - tan ddiwedd y nofel hynny ydi.
Dibynnu'n llwyr ar wleidyddiaeth Mae'r nofel yn drewi o wleidyddiaeth a'r naratif, gwaetha'r modd yn dibynnu'n llwyr ar ddaliadau gwleidyddol y cymeriadau.
Perffaith os ymddiddorwch yn y byd gwleidyddol ond os nad, peidiwch 芒 thrafferthu i ddiffodd y teledu.
Ond nid dau fwnci o'r Cynulliad yn dadlau pa liw i beintio wal y neuadd sir sydd yma. I'r gwrthwyneb, mae'r sylwadau yn rhai treiddgar a chwyldroadol am y gwerthoedd sydd gennym fel Cymry yn yr unfed ganrif ar hugain.
Mae'r nofel yn gwneud ichi feddwl. Dyma ei phennaf ragoriaeth.
Fawr o ddigwyddiadau Prin yw'r digwyddiadau gwirioneddol gyffrous yn y nofel gan fod yn well gan Grahame Davies gyhoeddi ei efengyl o bulpud ei stydi.
Wn i ddim sawl gwaith yn y nofel y mae Meinwen ar ryw banel neu raglen yn dadwrdd am argyfwng y Gymraeg - ond pan eir a hi i'r carchar am falu ffenestri arwerthwyr tai wrth alw am ddeddf eiddo i Gymru, cwta baragraff a neilltuir.
Gallesid fod wedi s么n am galedi bywyd carchar ond y cyfan a glywn yw Meinwen eistedd ar ei gwely a chael gweledigaeth fawr.
Anodd credu sut y gall awdur fod mor ddi-chwaeth gyda golygfa mor greadigol o'i flaen.
Dau ddimensiwn sydd i'r cymeriadau, bron bob un, yn enwedig Meinwen.
Nid oes ganddi na theulu, gwaith na chefndir. Mae fel petai wedi dod o Afallon bell yn unswydd er mwyn rhyddhau'r Gymraeg o ormes Lloegr.
Ond er y gwawdio, mwynheais y nofel hon a hynny'n bennaf am ei bod yn cynnig rhywbeth gwahanol.
Nid ein llusgo'n ddyfnach i gwteri'r Gymru gyfoes fel cymaint o'n nofelau diweddar a wnaiff hon ond mynd 芒 ni ar daith ysgytwol drwy Ewrop gythryblus y Tridegau, a synnwn i fawr na ddysgid mwy am hanes, athroniaeth a gwleidyddiaeth o'i darllen nac a ddysgir mewn unrhyw ysgol.
Ein gorfodi Dyma'r unig nofel Gymraeg i mi ei darllen sy'n ein gorfodi i edrych ar ein sefyllfa yng Nghymru mewn cyd-destun Ewropeaidd.
Mae'r iaith yn syml, yr arddull yn blaen diaddurn a'r cyfan yn codi mewn crescendo tua'r diwedd.
Marw'n ifanc Bu farw Simone Weil yn ddynes ifanc yn yr ysbyty am iddi osod helpu eraill gyfuwch a'i bywyd ei hun. Ar y funud olaf mae Meinwen hithau yn tynnu'n groes i'w harwres gan weld mewn fflach o weledigaeth nad dewr yw aberthu bywyd tros unrhyw achos ond, yn hytrach, twpdra a ffolineb.
Gorffen y nofel ar nodyn gobeithiol. Am y tro cyntaf erioed mae Meinwen yn ennill dadl deledu gan adael hyder ei gelynion yn deilchion.
Mae deddf eiddo ar fin cael ei chyflwyno a hynny, credwch neu beidio, o ganlyniad i ymdrechion Tori cefnog - nid yr ymgyrchwyr iaith!
Ac fel yr olygfa olaf un ar ddiwedd ffilm dda, mae Meinwen a Dewi, ei chyd- brotestiwr, yn cusanu. Am wreiddiol!
Mae'r neges yn gwbl amlwg: Mae gennym ddau ddewis, bod fel Meinwen a byw a phrofi cariad a hapusrwydd neu ynteu bod fel Simone Weil yn aberthu a marw a chael nofelau, traethodau doethuriaeth ac astudiaethau academaidd wedi eu hysgrifennu amdanom. Dewis anodd, onid yw?
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Gwyn Griffiths
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|