| |
|
|
|
|
|
|
|
Ac Yna Clywodd S诺n y M么r Nofel well na'i chlawr!
Adolygiad Carys Mair Davies o Ac yna Clywodd s诺n y M么r gan Alun Jones. Gomer. 拢8.99.
Clawr tywyll, diflas a
theitl sy'n cyfleu yr un anobaith sydd i'r llyfr hwn.
Ni fu'r
broliant ychwaith yn fodd i chwalu fy argraffiadau cyntaf - er gwaethaf canmoliaeth brenhinoedd llenyddiaeth fel Islwyn
Ffowc Elis a John Rowlands.
Felly, pam darllen y llyfr? Yn syml, oherwydd ei fod yn rhan orfodol o faes llafur
fy arholiadau TGAU Cymraeg.
Nid oeddwn yn disgwyl ei fwynhau o gwbwl
ac mae'n rhaid cyfaddef na wnes i ganolbwyntio rhyw lawer yn y gwersi!!!
Wedi fy nghyfareddu Ond wedi inni fel dosbarth ddarllen y prolog a'r penodau cyntaf ni
allwn roi'r llyfr i lawr.
Roeddwn wedi fy nghyfareddu gan hud a
lledrith y plot, y cymeriadau a'r them芒u.
Erbyn hyn, 芒'r dosbarth wedi
darllen hyd at bennod chwech gallaf ddweud fod y llyfr yn
haeddu sylw manwl pawb o'r dechrau i'r diwedd!
Mae Ac Yna Clywodd S诺n y M么r gan Alun Jones yn nofel sy'n llawn
dirgelwch ac antur.
Er nad oes prif gymeriad mae'n llawn o gymeriadau cryfion sy'n hollbwysig i undod y
digwyddiadau.
Hoff gymeriad Fy hoff gymeriad yw Meredydd sy'n cael ei gyhuddo o dreisio Bethan
Gwastad Hir.
Er i lys ei gael yn ddieuog ni wyddom a
gyflawnodd y weithred ai peidio gan fod y nofel yn dangos dwy
ochr hollol wahanol i bersonoliaethau Meredydd a Bethan.
Mae hwn yn ddirgelwch
sy'n peri gofid mawr i'r darllenydd oherwydd na wyddom beth i'w wneud o Meredydd.
Cawn ddarllen am ei helyntion ers ei brofi'n ddieuog - yn bennaf dan law Huw Gwastad Hir, brawd Bethan. Nid
yw'n ymddangos y bydd ei fywyd yr un fath byth eto.
Mae e'n
anobeithio ar 么l dod allan o ganolfan gadw Risley gyda phob diwrnod yn gopi
diflas o'r un cynt.
Hynny yw, nes iddo gwrdd ag Einir.
Yn ei chwmni hi mae amser yn hedfan ac yntau'n canfod bywyd gwerth chweil unwaith eto.
Dyn amheus Ond tua'r un amser ag y mae bywyd yn troi'n felys iddo mae'n sylwi ar ddyn
dieithr, amheus, yn stelcian o gwmpas ei d欧 ac yn sydyn
iawn mae Meredydd yn darganfod ei hun dros ei ben a'i glustiau mewn
dirgelwch sy'n ymestyn yn 么l pum mlynedd.
Pwy yw'r dyn amheus ?
Sut y bydd Meredydd yn delio 芒'r sefyllfa?
Rhaid darllen campwaith Alun Jones!
Er mai gogleddol yw tafodiaith y nofel mae'n ddigon dealladwy i hwntws
hefyd. Mae symlrwydd a naturioldeb arddull yr awdur yn berffaith ar gyfer y cynnwys.
Darlunnir cymuned
glos y gall y darllenydd uniaethu 芒 hi.
Er nad yw'r stori yn un anodd ei dilyn rhaid bod yn eithaf effro eich meddwl i gadw ar y blaen i'r rhibidir锚s o
ddigwyddiadau.
Darllen rhagor Mwynheais y llyfr yn fawr iawn ac rwy'n gwybod y byddaf yn darllen
rhagor o waith Alun Jones yn y dyfodol agos.
Er nad wyf yn hollol si诺r os yw'r
plot yn gydnaws 芒 bywyd bob dydd mae'r cyfle i gael eich tynnu i mewn i
fywyd sy'n llawn lliw a llun, antur a dirgelwch, yn brofiad llesmeiriol.
Dwi'n argymell Ac Yna Clywodd S诺n y M么r i unrhyw un - boed yn ddeg oed
neu'n ddeg ar hugain! Llyfr a hanner sy'n haeddu'r amser, y lle a'r
拢8.99 a dalais amdano.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|