大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Them芒u ein Ll锚n
'Beibl' i'r sawl sy'n sgwennu
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Them芒u ein Ll锚n - Blas ar them芒u ein llenorion gan Emyr Llywelyn. Lolfa. 拢7.95.


  • Pan welais hysbyseb gan y Lolfa am y llyfr hwn roeddwn am feddu ar gopi ar unwaith a rhuthrais i'w swyddfa gan imi deimlo y buasai ei ddarllen o fudd imi oherwydd fy hoffter o ysgrifennu creadigol.

    Ond yn wir, wedi'i ddarllen - nid llyfr mohono ond perlau o wybodaeth y dylasai pob awdur eu darllen!!

    Clawr y llyfr Mae hi'n gyfrol bwysig arall gan Emyr Llywelyn, sy'n rhoi arweiniad i waith pedwar llenor cyfoes.

    Hefyd, cawn ddetholiadau cynhwysfawr dan them芒u penodol o waith llenorion o Gymru ac o wledydd tramor.

    Fel yr awgryma'r teitl, mae'r llyfr yn trin a thrafod them芒u llenyddiaeth yn gyffredinol ond trwy ganolbwyntio'n arbennig ar bedwar awdur - Caryl Lewis, Mihangel Morgan, Eleri Llewelyn-Morris a Geraint Vaughan Jones.

    Mae'r llyfr wedi'i rannu'n ddwy ran gyda chyfweliadau hynod o ddiddorol gyda'r pedwar awdur yn y rhan gyntaf.

    Gan imi ddarllen nifer o straeon yr awduron roeddwn yn awyddus i ddarganfod sut yr aethant ati i greu'r fath gampweithiau.

    Mwynhau fwyaf
    Er bod y pedwar cyfweliad yn ddiddorol, mae'n rhaid cyfaddef taw un Caryl Lewis a fwynheais fwyaf - o drwch y blewyn meinaf! - gan imi deimlo y gallwn uniaethu'n fwy gyda hi na'r lleill.

    Yn dilyn pob cyfweliad mae detholiad o weithiau'r awduron gyda cwestiynau'n dilyn i brofi'n gallu i sylwi ar amrywiadau llenyddol a them芒u yn y darnau darllen.

    Syniad defnyddiol dros ben.

    Modd i fyw
    Yn yr ail ran mae'r pwyslais ar them芒u, techneg, naratif, plot ac adeiladwaith a chymeriadaeth ond gyda hyd yn oed yn fwy o ddetholiadau o weithiau nifer o awduron.

    Cefais fodd i fyw wrth ddarllen y detholiadau gan imi hefyd ddarganfod llawer am y math o berson yr ydw i.

    Cyn hyn, rwyf wedi bod yn darllen amrywiaeth o lyfrau ar ystod eang o them芒u heb sylweddoli'n iawn pa thema sydd yn fy nghyfareddu i fwyaf - os o gwbwl!!

    Ond drwy ddarllen detholiadau gwrthgyferbyniol ar yr un adeg gwelaf yn glir pa them芒u sydd yn fy ysbrydoli fwyaf i ysgrifennu fy hun.

    Credaf ei bod hi'n syniad gwych gan yr awdur, Emyr Llywelyn, i nodi llyfrau tebyg o ran thema o dan y detholiadau.

    Gallaf ganolbwyntio bellach ar y llyfrau argymhellwyd ar gyfer fy mhersonoliaeth i.

    I bob oed
    Mae Them芒u ein Ll锚n yn cael ei gymeradwyol ar gyfer rhai sy'n astudio Cymraeg Safon A ond fel disgybl fydd yn sefyll arholiadau TGAU eleni ac sy'n mwynhau ysgrifennu straeon byr rwy'n argymell y llyfr i ddisgyblion ysgol uwchradd o unrhyw oedran i baratoi ar gyfer arholiadau.

    Haedda Them芒u ein Ll锚n bob cl么d a chanmoliaeth.

    Mae'n werth ystyried yr awgrymiadau a roddwyd i'r darllenwyr gan yr awduron adnabyddus yn eu cyfweliadau - a'r tro nesaf y byddaf yn mynd ati i ysgrifennu stori fer, bydd Them芒u ein Ll锚n yn Feibl wrth fy ymyl!!!!

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy