Daeth yn agos i 300 o bobl i Neuadd Ogwen, Bethesda, nos Wener, Gorffennaf 11, 2008, ar gyfer cyhoeddi llyfr diweddaraf J Elwyn Hughes, 'Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad' - cyfrol sy'n datgelu pwy yw'r bobl go iawn y tu 么l i gymeriadau nofel Caradog Prichard. Ac yn y gynulleidfa yr oed rhai o ddisgynyddion neu berthnasau y bobl hynny. Cyhoeddwn yma luniau o'r noson. Cyhoeddir y gyfrol gan Barddas.