|
Caradog Prichard Barn seiciatrydd am ei fywyd a'i waith
Er i Un Nos Ola leuad weithio fel llenyddiaeth fawr methiant fu un o nofelau mwyaf yr iaith Gymraeg fel therapi ac ymgarthiad i'w hawdur, Caradog Prichard.
Dyna farn y seiciatrydd a'r llenor Harri Paritchard Jones a fu'n trafod bywyd a gwaith Caradog Prichard gyda Dei Tomos ar ei raglen radio, 16 Rhagfyr 2007.
"Fe ddaru o benderfynu sgwennu y nofel fawr yma, Un Nos Ola' Leuad gan feddwl y byddai yn rhyw fath o garthu o'i holl ofidiau. Ond wnaeth hi ddim gweithio fel'na.
"Fe wnaeth hi weithio fel llenyddiaeth fawr ond wnaeth hi ddim gweithio fel catharthis iddo fo," meddai.
Yn trafod gwaith trwy lygad meddyg a seiciatrydd dywedodd Harri Pritchard Jones i brofiadau ei blentyndod frifo ac ysigo Caradog Prichard yn llwyr.
Dywedodd ei fod yn adnabod y teulu.
"Yr oedd mam wedi ei magu efo fo ac roeddwn i hefo fo pan gafodd o'i gadair - wel, yn y Stepney Arms yn Llanelli oeddem ni'n dathlu fwyaf!" meddai.
Fe'i gwahoddwyd gan y teulu i gymryd rhan mewn seminar ym Methesda rai blynyddoedd yn 么l hefyd.
Rhyw fath o ffoi Disgrifiodd ei fywyd cymdeithasol Caradog Prichard, "efo'i sig芒rs a'i frandis a'i ddiod a'i ddillad a'i dei pili pala", fel "rhyw fath o ffoi" oddi wrth dristwch oedd yn waelodol i'w fywyd.
"Achos yr oedd o wedi ei frifo i'r byw a'i sigo, fel mae o'n dweud yn Afal Drwg Adda," meddai.
"Pan wnaeth o sylweddoli beth oedd cyflwr i fam o a fynta'n hogyn ysgol - mae'n si诺r ei fod yn cael ei brocio a theimlo cywilydd am y peth ac yn lle bod yn fachgen eithaf hyderus fe drodd yn fachgen oedd yn llechu ac yn llechwraidd achos yr oedd o jyst wedi chwythu ei blwc," ychwanegodd.
Yn fethiant Is deitl ei hunangofiant yw "Hunangofiant methiant" ac yn 么l Harri Pritchard Jones yr oedd Caradog Prichard yn edrych arno'i hyn fel methiant.
"Achos roedd o'n methu torri'r cwlwm bogail efo'i fam oedd yn Ninbych; wedi bod yn y seilam am flynyddoedd lawer a hyd yn oed pan aeth o oddi yno [Bethesda] i Gaernarfon yn oes aur newyddiaduraeth yng Nghaernarfon ac ymlaen wedyn i Gaerdydd ac wedyn i Lundain.
"Ac yn ystod y rhyfel fe fu yn India bell ac mae'n dweud am ryw ferch yn Kimla, merch hardd ofnadwy ac yntau yn ei ffansio hi faswn i'n meddwl, ac wedyn dyma fo'n teimlo drychiolaeth o'i fam o'i flaen yn ei, wel, yn ei 'sbaddu mewn ffordd," meddai.
Disgrifiodd hwn fel cyfnod o ddianc ac o fethu dianc yn ei hanes.
"Ac hyd yn oed pan fu farw y fam yn y diwedd ac mi gaeth o ysgoloriaeth a dod yn 么l i Fethesda ac fe ddaru o benderfynu sgwennu y nofel fawr yma, Un Nos Ola' Leuad, gan feddwl y byddai yn rhyw fath o'i garthu o'i holl ofidiau.
"Ond wnaeth hi ddim gweithio fel'na. Fe wnaeth hi weithio fel llenyddiaeth fawr ond wnaeth hi ddim gweithio fel catharsis iddo fo," meddai.
Rhan o'r gwir Dywedodd mai "hanner yn hanner" yw'r nofel o safbwynt bod yn wirionedd.
"Wnaeth o ddim lladd ei hun yn y diwedd [fel y cymeriad yn y nofel]. Fe wnaeth drio yn aflwyddiannus pan oedd o ar fin sgwennu'r gerdd i Eisteddfod Dinbych na chafodd ei gwobrwyo achos ei bod hi am ei fam a'i fam yn y seilam bryd hynny - ond wnaeth o ddim diweddu trwy ladd ei hun a wnaeth o ddim gwneud trosedd rhywiol fel yr oedd y dyn yn y nofel wedi gwneud.
"Ond yr oedd o yn teimlo fod ganddo euogrwydd ac hefyd yn teimlo'r cymhlethdod Oedepisaidd yma o fod yn rhy agos at ei fam ac yn methu, methu, torri'r cordyn bogail fel deudodd o."
Bywyd yn galed Ychwanegodd i fywyd fod yn "ddychrynllyd o galed" arno.
"Yr oedd y ddau frawd wedi'i miglo hi o 'na, roedd ei dad wedi cael ei ladd a fo, yn hogyn bach, oedd yn cario'r baich.
"Mae yna ddarn gan Kate Roberts am seilam Dinbych - gyda hen wraig yng nghanol y gwragedd eraill mewn gwyn ond mae yna fodrwy aur ar ei llaw hi sy'n dangos rhyw ddyndod.
"Wel, pan aeth yr hogyn bach yma - yn y nofel ac yn hanes Caradog ei hun - pan aeth o 芒'i fam i'r seilam fe gafodd o becyn bach i ddod adref efo fo ac nid yn unig dillad bob dydd ei fam oedd yn y pecyn ond hyd yn oed ei modrwy briodas hi - yr oedd hi wedi cael ei dadddyneiddio yn llwyr a fo'n hogyn bach oedd yn dal hynna.
"Dim rhyfedd ei fod o'n crio fel mae o'n disgrifio'r peth yn anhygoel yn y nofel," meddai.
Angen cwmni Dywedodd hefyd fod Caradog Prichard yn hoffi cael cwmni ei ffrindiau pan fyddai'n ymweld 芒'i fam yn y seilam.
"John Gwil [John Gwilym Jones y dramodydd] a Tom Parry [Syr Thomas Parry] a Gruffudd Parry [brawd Syr Thomas], yn aml, yn y car [ond] doedden nhw ddim yn mynd i'r ysbyty efo fo . . .
"A Gruff Parry oedd yn dweud wrtha i ryw dro amdanyn nhw ar eu ffordd adref, a Tom Parry yn y tu blaen. Caradog wedi bod efo'i fam ac yn dweud yn sydyn wrth Tom Parry, 'Ti'n gwybod be dwi'n wneud r诺an Tom? Gyrru efo'm llygad ar gau.'
"Hynny ydi, roedd o'n gorfod gwneud rhywbeth hollol wallgof , histerig, dros ben llestri, oherwydd y boen. Dyna'r unig ffordd oedd o'n medru ymdopi rywsut 芒'r boen. Roed y peth yn wallgof."
Ond er ei fod "yn byw ar y terfyn" dywedodd Harri Pritchard Jones nad aeth Caradog Prichard yn wallgof fel y cyfryw.
"Fe aeth i bruddglwyf ond wnaeth o ddim colli ar ei bwyll . . . er mae'n si诺r iddo boeni y gallai o fod wedi mynd [i seilam fel ei fam] a does yna ddim byd gwaeth na meddwl eich bod chi'n mynd i etifeddu yr ing yna,"
Yn ffodus o'i wraig Yn y fath gyflwr dywedodd i Caradog Prichard fod "yn rhyfeddol o lwcus" yn ei wraig, Mattie.
"Yr oedd hi'n amyneddgar ac yn medru deall ei fywyd o ac fe roddodd hi y trysor mawr yn ei fywyd, Mari [eu merch] . . . ac yr oedd o mor falch ac mor ysblennydd yn ei falchder fe fynnodd logi Rolls Royce gwyn i gasglu Mari fach o'r ysbyty a gyrru i lawr y Strand ar ei ffordd adref a sig芒r fawr yn ei geg a Mari yn drysor yn y cefn."
Mor wahanol i Chwalfa Wrth drafod y nofel Un Nos Ola' Leuad ei hun dywedodd Harri Pritchard Jones y bydd yr un mor bwysig a gwaith Joyce yn Iwerddon.
"Mae o wedi trin pethau erchyll yn y nofel fel llofruddiaeth, cam-drin rhywiol a'r holl beth yma gan ei ddyrchafu o yn ysbrydol fel yr oed Doestoefsci yn medru gwneud efo llofrudd ion.
"Mae o'n rhyw allu arbennig wrth gwrs."
Ychwanegodd na ellir ychwaith feddwl am ddau ddarlun mwy gwahanol i'w gilydd o'r gymdeithas chwarelyddol nag un Caradog Prichard ac un T Rowland Hughes yn Chwalfa.
"Yn Chwalfa mae'r Cymry i gyd yn bobl neis. Mae enwau eu tai nhw i gyd yn Gymraeg. Maen nhw i gyd yn mynd i'r capel a'r bobl ddrwg yw'r Saeson neu'r cynffonwyr ac mae'r rheini i gyd yn Eglwyswyr a does dim rhyw, dim afradlondeb, dim diod - dim ond yn y Saeson neu'r bobl ddifreintiedig
"Ond gan Caradog mae Frank Bee Hive a'r athro yn mynd a Jini Fach i'r sied tu 么l i'r ysgol - fedrech chi ddim mynd yn bellach oddi wrth y byd yna.
"Ac roedd y ddau yn bortreadau oedd yn cyfleu gwir rhannol am yr holl sefyllfa," meddai.
Bydd John Ogwen yn darllen Un Nos Ola' Leuad ar 大象传媒 Radio Cymru dros y Nadolig, 2007.
Cysylltiadau Perthnasol
Cyhoeddi Byd a Bywyd Caradog Prichard
Yng Ngolau'r Lleuad - astudiaeth Menna Baines
Oriel yr Enwogion
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|