大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Stori'r Ditectif yn claddu hunllefau
Adolygiad o Cwmtec, nofel ddiweddara' Gareth Miles, gan Catrin Jones.
Wrth agor tudalennau Cwmtec, nofel gan Gareth Miles, disgwyl nofel dditectif oeddwn i. Mae'r clawr yn datgan mai stori am Ymchwilydd Annibynnol yng Nghwm Rhondda sydd rhwng y cloriau.

Ond mae Cwmtec yn llawer mwy na hynny ac mae sawl dimensiwn i'r nofel.

Yn y rhagair mae'r Awdur yn egluro sut y daeth y nofel i fodolaeth.

Cefndir y nofel
Ym mharti Nadolig un o gwmn茂au teledu Caerdydd roedd cynhyrchydd wedi s么n wrtho fod S4C yn chwilio am gyfres dditectif.

Wedi cryn bendroni mae'n galw yn rhai o swyddfeydd cyfreithwyr un o drefi'r cymoedd. Yno mae'n holi am ymchwilwyr annibynnol a allai fod o gymorth iddo. A dyma sut y daeth yr Awdur i adnabod Dewi Jones.

Bu Dewi Jones yn ei gynghori ac wedi sawl cyfarfod roedd yr Awdur wedi llunio braslun ar gyfer cyfres dditectif.

Ofer fu'r ymdrech gyda Dewi yn fwy siomedig na'r Awdur. A dyma a ysgogodd Dewi i adrodd ei stori ei hun.

Hanes Dewi yn gweithio fel ymchwilydd annibynnol yng Nghwm Rhondda a'r ardaloedd cyfagos sydd yma. Mae'n disgrifio'r gwaith a'r anturiaethau a ddaw yn sgil hynny wrth iddo ymchwilio i bob math o weithgareddau.

Cyn ymgartrefu yng Nghwm Rhondda bu Dewi yn swyddog yn yr Heddlu Milwrol Brenhinol gan wasanaethu yn Yr Almaen, Hong Kong a Gogledd Iwerddon.

Mae i'w waith yn y lleoedd hyn ran bwysig yn y nofel hefyd a gwelwn sut y bu i'w brofiadau yng Ngogledd Iwerddon ddryllio ei briodas ac effeithio arno gymaint fel na all fyw 'bywyd normal' wedi hynny.

Effaith trais ar gyflwr meddyliol
A dyma gryfder y nofel yn fy marn i. Nid hanes ei waith fel ymchwilydd yn Y Rhondda ond ei gyflwr meddyliol ef ac effaith trais a rhyfel ar bobol, boed yn filwr neu'n berson cyffredin.

Mae s么n yn y newyddion o bryd i'w gilydd am gyn filwyr yn dioddef yn seicolegol ac emosiynol wedi iddyn nhw fod yn gweithio mewn rhyfeloedd gyda'r s么n mwyaf am y rhai fu yn y Gwlff.

Mae'n anodd dychmygu sut beth yw ceisio dygymod 芒 phrofiadau o'r fath. Ond llwyddodd Cwmtec i wneud i mi ddeall yn well sut y gall profiadau o'r fath effeithio ar bobol am gyfnod maith.

Mae'n rhaid dweud fod strwythur y nofel yn gweithio'n arbennig o dda er mwyn cyfleu'r neges.

Ar y dechrau mae'r rhagair gan yr Awdur yn nodi'r cefndir ac yna mae'r nofel ei hun sy'n adrodd hanes Dewi yn Y Rhondda. Wedi hynny mae'r Cysylltair, 么l nodyn gan yr Awdur yn trafod cyflwr Dewi a sut y bu iddo anfon hanes ei fywyd iddo tra'n cael ei drin mewn clinig i gyn filwyr. A dyna yw'r Gyffes a geir i gloi. Mae Dewi yma yn adrodd hanes ei fywyd i gyd o'i blentyndod i'r presennol ac mae hyn eto yn galluogi i ni ddeall yn well beth yn union a arweiniodd at ei gyflwr seicolegol.

A dyna yw Cwmtec - nofel am gyn filwr yn ceisio dygymod 芒 bywyd unwaith eto gan geisio dod i delerau 芒'r gorffennol a chladdu'r hunllefau sy'n ei boeni'n barhaus.

Ffuglen
Ond mae dimensiwn arall i'r nofel hefyd sydd yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy arbennig. Mae'n rhaid cofio mai ffuglen ydyw o'r dechrau i'r diwedd ac mai dychmygol felly yw'r cymeriadau i gyd gan gynnwys yr Awdur. Mae'r Awdur felly yn gymeriad hollbwysig yn y nofel ac yn gyfrwng sydd yn pontio'r darllenydd 芒 phrif gymeriad y nofel gan ein galluogi i'w ddeall yn well.

Er fy mod ychydig yn siomedig nad yw'r stori yn un wir mae hyn yn fy marn i'n codi'r nofel i lefel uwch. Nid dim ond hanes cyn filwr sydd yma ond nofel sydd yn codi cwestiynau ynglyn 芒'r berthynas ddyrys rhwng yr awdur, y darllenydd a'r gwaith.

Holi Gareth Miles


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy