| |
|
|
|
|
|
|
|
Cyfieithu - oes yna ormod? Cwyno fod cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yn wastraff
Bu'r ddadl a yw hi werth cyfiithu llyfrau o'r Saesneg i'r Gymraeg yn bwnc trafod ar Taro'r Post ar 大象传媒 Radio Cymru.
Disgrifwyd yr arfer fel gwastraff amser ac adnoddau gan yr awdur a'r darlldwr Lyn Ebenezer sydd o'r farn y byddai'n fwy buddiol defnyddio'r arian i drosi llyfrau Cymraeg i ieithoedd eraill.
Y Gymraeg mewn ieithoedd eraill "Fy ngwyn fawr i yw pam na allwn ni gyfieithu llyfrau Cymraeg i'r Saesneg. Byddai hynny yn gwneud llawer mwy o synnwyr [gan y byddai'n] golygu y gallai pobl ddi-Gymraeg, Saeson yn arbennig, weld pa ddiwylliant sydd da ni yng Nghymru .
"Mae e'n d芒n ar fy nghroen i fod rhyw rwts fel Harry Potter yn cael ei gyfieithu i'r Gymreg a mae da ni awdur llyfrau plant mwya'r byd yn T Llew Jones pan nad yw stwff Llew yn cael ei gyfieithu i'r Saesneg fel bod y byd tu allan yn dod yn ymwybodol ohono fe," meddai wrth Dylan Jones ar Taro'r Post Tachwedd 7, 2008.
Ychwanegodd nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad cyhoeddi cyfieithiadau o ieithoedd ar wah芒n i'r Saesneg i'r Gymraeg a chanmolodd gyfieithiad newydd o lyfrau tin Tin sydd yn y siopau ar gyfer y Nadolig.
'Yng ngysgod y Saesneg' "Rydym yn byw yng nghysgod y Saesneg a ydym ni'n hoffi hynny neu beidio ac yn cael ein boddi gan Saesneg yn y papurau newydd bob dydd . . . mae teledu yn ein boddi ni pryd a ydym ni'n hoffi hynny neu beidio," meddai.
"Y cyfan ydw i'n ofyn yw, oes yna unrhyw un yng Nghymru sydd ddim yn gallu darllen Saesneg? Dwi ddim yn meddwl bod," meddai gan ychwanegu mai dewis unrhyw ddarllenydd fyddai darllen y gwreiddiol, beth bynnag, nid cyfieithiad.
"Mae synnwyr yn dweud wrthych chi os gallwch chi ddarllen llyfr yn yr iaith wreiddiol boed hi'n Saesneg , Ffrangeg, Sbaeneg yr ydych chi'n mynd i ddarllen yn yr iaith honno gan fod unrhyw gyfieithiad yn mynd i golli rhywbeth," meddai.
'Cyfieithu yn ehangu'r ddarpariaeth' Ond dadleuai Richard Owen o Gyngor Llyfrau Cymru fod y cyfieithu yn "gwneud llawer i ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer darllenwyr Cymraeg".
"A dyna'n prif waith ni fel Cyngor Llyfrau; ydi ceisio darparu deunydd mor amrywiol a phosibl a chymaint o ddeunydd ag y gallwn ni efo'r adnoddau sydd gennym ni ar gyfer darllenwyr Cymraeg . . . mae'n bosib cael cymaint o amrywiaeth ag sy'n bosibl," meddai.
Ychwanegodd; yn achos plant bach nad yw'n wir eu bod yn gallu darllen llyfrau Saesneg yn yr iaith wreiddiol a bod hynny'n cyfiawnhau troi o'r iaith honno i'r Gymraeg.
"Felly dydw i ddim yn gweld y gall neb ddadlau nad ydych chi'n eangu'r ddarpariaeth ar eu cyfer nhw. . . . a manteisio ar gael straeon da [o'r Saesneg] a lluniau gwych iawn. A'r plant yn gweld deunydd Cymraeg gwirioneddol raenus cystal ag unrhyw beth yn Saesneg.
"Ac iddyn nhw llyfr Cymraeg ydi o."
'Pethau ail law' Gan fynd 芒'i ddadl ymhellach yngl欧n a chyfieithu dadleuai Lyn Ebenezer fod dylunwyr Cymru yn "colli mas" hefyd.
"Ydi pethau ail law yn ddigon da i blant Cymru?" holodd.
"Nid yn unig rydym ni'n cyfieithu llyfrau o'r Saesneg i'r Gymraeg rydym ni'n cyfieithu caneuon, rydym ni'n efelychu rhaglenni , cenedl ail law ydym ni erbyn hyn," meddai.
'Ni ellir anwybydu'r Saesneg' Ond dywedodd Richard Owen na allai ef weld y byddai gwaharddiad llwyr ar gyfieithu yn gwneud unrhyw les i'r ddarpariaeth Gymraeg.
Mae gwario ar waith gwreiddiol "ond rydym yn gallu ehangu'r ddarpariaeth trwy gyfieithu deunydd rhagorol o wledydd eraill," meddai gan nodi y gellid cynhyrchu wyth naw cyfieithiad am bris gwneud gwaith gwreiddiol.
"Allwch chi ddim anwybyddu'r holl ddeunydd Saesneg sydd ar gael," meddai.
Cysylltiadau Perthnasol
Gair, Sain a Llun gan Lyn Ebenezer
Holi Lyn Ebenezer
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|