| |
|
|
|
|
|
|
|
Clywed Cynghanedd Clywed Cynghanedd cwrs cerdd dafod gan Myrddin ap Dafydd. Gwasg Carreg Gwalch. 拢6.50.
Peth naturiol ydi'r gynghanedd, nid rhyw dric neu g锚m a gafodd ei dyfeisio.
Mae cynghanedd i'w chlywed yn rhai o ddywediadau cyffredin ein sgwrs bob dydd fel cinio cynnar, gwerthu gwartheg neu un gwirion yn ei gwrw.
Yn hynny o beth mae pawb yn gynganeddwr a gall hynny fod yn galondid i bob un sy'n mynd i'r afael a gwerslyfr cynganeddu poblogaidd Myrddin ap Dafydd.
Mae'r llyfr wedi ei seilio ar gwrs cynganeddu a gynhaliwyd ganddo ar y radio rai blynyddoedd yn 么l. Mae'n amlwg iddo fod yn gwrs poblogaidd gan mai argraffiad newydd yw hwn o lyfr a gyhoeddwyd gyntaf ym 1994.
Cynnwys y gyfrol 13 o wersi a phennod estynedig ar reolau cerdd dafod wedi ei hychwanegu ar gyfer yr argraffiad hwn.
Un o ryfeddodau'r iaith Mae cyflwyniad sy'n ymdrin a a natur y gynghanedd ac yno yr eglura Myrddin ap Dafydd mai un o ryfeddodau naturiol yr iaith ydi'r gynghanedd yn hytrach na rhywbeth clyfar a ddyfeiswyd gan ddyn.
"Yn yr ysgol, mewn ymryson neu dalwrn y beirdd neu wrth drafod cerdd y gadair, mae tuedd inni weithiau s么n am y gynghanedd a'r mesurau caeth a'r rheolau . . . fel petai'r cyfan yn rhyw gyfrwng sydd wedi'i ddyfeisio. Rhyw fath o g锚m gyda geiriau. Ond dydi hynny ddim yn wir nid cael ei chreu a wnaeth y gynghanedd ond cael ei chanfod. Mae'n rhan gynhenid o'r iaith Gymraeg, yn perthyn i batrymau plethiad ein geiriau."
Dyna pam y mae cynganeddion fel hwre rwan, wsti be yn ddistaw bach, diwrnod dyrnu neu hanner o lager a leim yn cynganeddu heb ymdrech o gwbwl ar ran siaradwr.
Creu rheolau Felly nid proses o greu rheolau er mwyn sefydlu system ac i wneud i rwybeth ddigwydd fu hi ond mater o lunio rheolau i reoleiddio rhywbeth a ddigwyddai beth bynnag.
"Yr hyn ddigwyddodd oedd bod gwahanol feirdd wedi sylwi ar y gynghanedd naturiol oedd yn digwydd mewn gwahanol glymiadau o eiriau ac wedi mynd i'r afael 芒 hi oherwydd ei harddwch a'i hud.
"Aethan ati i wisgo pob math o ddillad drud a thlysau crand am y prydferthwch naturiol hwn oedd yn yr iaith," meddai.
"Drwy hyn i gyd, ffurfiwyd system gaeth o gynganeddu geiriau a phedwar mesur ar hugain. Mae'n unigryw drwy'r byd i gyd. A'r rhyfeddod pennaf yw bod modd canu'n llyfn a syml ar gerdd dafod," ychwanega.
Mae'n pwysleisio hefyd mai barddoniaeth i'r glust yw barddoniaeth gynganeddol.
"Os nad yw cynghanedd yn gweithio i'r glust dydi hi ddim yn gweithio o gwbwl," meddai.
Prydydd a bardd Mae'n gwahaniaethu hefyd rhwng y gallu i gynganeddu a'r gallu i farddoni.
Prydydd, meddai, yw'r sawl sydd wedi dysgu'r grefft o greu cynganeddion ond dydi prydydd ddim o anghenraid yn fardd.
"Mae bardd ar y llaw arall . . . wedi meistroli ei grefft i'r fath raddau fel nad ydym yn sylwi arni. Mae'n ein codi i'w entrychion ei hun.
"Mae modd dysgu unrhyw un i fod yn brydydd ond mae bardd yn cael ei awen o rywle arall," eglura.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|