|
Diwrnod y Llyfr 2006 Rhestr o ddigwyddiadau
Lansio'r Diwrnod yng Nghastell Brychan gyda Brecwast Scrabble -
Cyfle i staff y Cyngor Llyfrau hogi eu meddyliau a defnyddio cyfeirlyfrau wrth chwarae a brecwasta! Gweithgaredd plygeiniol ym mhencadlys y Cyngor Llyfrau i lansio'r Diwrnod.
Lansio cannoedd o fal诺ns y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru -
10.30 bore Diwrnod y Llyfr. Malachy Doyle yn darllen stor茂au yn yr yurt.
Llyfr y Flwyddyn 2006 -
Cyhoeddir rhestr hir Llyfr y Flwyddyn a Book of the Year fin nos ar Ddiwrnod y Llyfr, yn adeilad newydd y Senedd. Trefnir y digwyddiad gan yr Academi. Gwneir y cyhoeddiad yn y gogledd yn Llyfrgell Wrecsam ar yr un pryd. Bydd actorion yn perfformio darnau o'r gweithiau.
Darlith Diwrnod y Llyfr 2006 -
Yr Athro Dai Smith, golygydd y gyfres Library of Wales fydd yn traddodi darlith flynyddol Diwrnod y Llyfr, a hynny yng Nghanolfan Mileniwm Cymru nos Fawrth, Chwefror 28. Cadeirydd y noson fydd Jane Davidson AC, Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes.
Gair ar led -
Lansiwyd y cynllun ar rhaglen Wedi 7 nos Lun, Chwefror 6, gyda chymorth Iolo Williams. Argraffwyd mwy na 125,000 o gardiau post arbennig, a nod yr ymgyrch yw cael pobl sy'n mwynhau llyfrau i rannu eu ffefrynnau gyda'u ffrindiau ymhell ac agos a'u hannog nhw i'w darllen hefyd. Bydd y cardiau post i'w cael mewn llyfrgelloedd a siopau llyfrau ar hyd a lled Cymru.
Eleni, am y tro cyntaf, mae'r cynllun wedi ei ymestyn i gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, ac mae taflen o weithgaredd yn seiliedig ar y cardiau post wedi ei anfon i'r ysgolion. Mae'r cynllun wedi profi'n boblogaidd iawn, gyda degau o ysgolion yn gofyn am gyflenwad pellach o'r cardiau rhad ac am ddim. Bydd miloedd o'r cardiau post yma'n cael eu defnyddio gan ysgolion ar hyd a lled Cymru fel rhan o'u gweithgaredd ar Ddiwrnod y Llyfr.
Stori Sydyn -
Cynllun newydd sbon sy'n ceisio darparu ffuglen a llyfrau difyr ar gyfer marchnad newydd o ddarpar ddarllenwyr. Mae'r llyfrau yma wedi eu anelu at y miloedd o oedolion sydd heb gael eu temtio i ddarllen llyfrau hyd yn hyn.
Yng Nghymru, mae'r cynllun yn ffrwyth partneriaeth rhwng y Cyngor Llyfrau a'r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, gyda chefnogaeth Lywodraeth y Cynulliad. Bydd 2 deitl Cymraeg, nofelau gan Geraint Vaughan Jones a Meleri Wyn James, ar gael ar gyfer Diwrnod y Llyfr, a dau teitl Cymraeg pellach a dau teitl Saesneg o Gymru yn cael eu lansio ddiwedd Mai.
Taith Awduron -
Deg awdur ac un darlunydd llyfrau plant yn cynnal dau ddeg un sesiwn mewn siopau llyfrau ac ysgolion ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys Anwen Francis, Caryl Lewis, Morgan Tomos, Martin Morgan, Mei Mac, Ruth Morgan, Chris Glynn, Phil Carradice, Jenny Sullivan ac Anne Lewis.
Stafelloedd Sgwrsio Ar-lein Caryl Lewis ac Owen Sheers -
Bydd cyfle i holi Caryl Lewis am ei gwaith mewn sesiwn sgwrsio ar-lein ddydd Iau, 2 Mawrth 2006, rhwng 11 y bore a hanner dydd; ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru www.cllc.org.uk/diwrnodyllyfr, adran Digwyddiadau, neu ar wefan 大象传媒 Cymru'r Byd bbc.co.uk/cymru/llyfrau.
Gellir anfon cwestiynau ymlaen llaw trwy e-bostio .
Bydd cyfle hefyd i holi Owen Sheers am ei waith mewn sesiwn debyg rhwng 2 a 3 o'r gloch y prynhawn hwnnw. Ewch i wefan Cyngor Llyfrau Cymru www.cllc.org.uk/diwrnodyllyfr, i'r adran Digwyddiadau, neu galwch heibio i wefan 大象传媒 Wales bbc.co.uk/wales. Anfonwch eich cwestiynau ymlaen llaw trwy e-bostio delyth.humphreys@cllc.org.uk.
Cefnogaeth Enwogion -
Mae nifer o enwogion o Gymru - Katherine Jenkins, Iolo Williams, Sarra Elgan a Gethin Jones - wedi datgan eu cefnogaeth i'r diwrnod trwy gytuno i gael tynnu eu lluniau ar gyfer posteri hyrwyddo.
Croesair yn y Papurau Bro -
Bydd degau o bapurau bro yn cyhoeddi croesair arbennig yn seiliedig ar lyfrau yn rhifynnau misoedd cyntaf 2006.
Llyfrau ar gyfer Elusennau -
Mae cannoedd o aelodau o Ferched y Wawr a Sefydliad y Merched yn casglu llyfrau ar gyfer siopau'r elusennau canlynol - Barnardo, Y Groes Goch, Tenovus, Ty Gobaith yng Nghymru, Oxfam, Ty Hafan, Byddin yr Iachawdwriaeth, Ymchwil Cancr Cymru, Sefydliad Prydeinig y Galon, R.S.P.C.A. ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Adran Celfyddydau Cymunedol Gwynedd -
Bydd aelodau o glwb ieuenctid T镁 Cegin, Maesgeirchen yn creu 'Murlyfr' unigryw ar gyfer Canolfa'n Byw'n Iach, Maesgeirchen.
Ar nos Wener Mawrth 3 bydd plant a phobl ifanc rhwng 12 a 18 oed yn cymryd rhan mewn gweithdy rapio yng nghwmni Martin xxxx. Yma bydd cyfle iddynt gyfansoddi rap newydd am fywyd ar y stad, a'i berfformio'n fyw o flaen eu cyfeillion ar ddiwedd y sesiwn.
Yn ystod yr wythnosau canlynol bydd y plant yn mynd ati i greu 'Murlyfr' arbennig i ddogfennu eu rap newydd, ar un o waliau'r Ganolfan. Bydd gweithiwr prosiect Cymunedau'n Gyntaf, Andrew Davies, yn arwain gweithdai graffiti ble bydd cyfle i'r ieuenctid ddefnyddio paent chwistrell i greu murlun graffiti i gofnodi'r rap.
Lansiadau -
Bydd gwasg Y Lolfa yn lansio 'Ffrwd, Cywilydd a Chelwyddau' yng Nghanolfan y Chapter, Caerdydd, yng nghwmni'r awdur Llwyd Owen, Fflur Dafydd a'r cyflwynydd radio a theledu Huw Evans, a hefyd yn lansio 'Geiriau Gwynfor', gol. Peter Hughes Griffiths, yng Nghynhadledd Plaid Cymru, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin.
Bydd Gwasg Carreg Gwalch yn lansio'r nofel 'Glas', ym Mhontyberem, 2 Mawrth.
Bydd ABC-Clio Santa Barbara a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn lansio 'An Encyclopedia of Celtic Hisitory and Culture' gol. J.T. Koch, yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 2 Mawrth.
Gweithgareddau Mewn Ysgolion, Llyfrgelloedd a lleoliadau eraill
Awdurdod Llyfrgell Gwynedd
Bydd tocyn euraid yn cael ei roi mewn llyfr yn un o lyfrgelloedd Gwynedd bob dydd rhwng 27 Chwefror a 3 Mawrth. Bydd y sawl a ddaw o hyd i'r tocyn yn ennill 拢100. Bydd hefyd cwis ar gyfer plant, ar gael ymhob un o lyfrgelloedd Gwynedd, a noson ar gyfer merched yn unig yn Llyfrgell Caernarfon gyda'r awduron Bethan Gwanas, Beca Brown a Nia Medi.
Aberystwyth
Amgueddfa Ceredigion -
Bydd sesiynau darllen storiau arswyd i blant ac oedolion i ddathlu Diwrnod y Llyfr, yn cael eu cynnal drwy'r dydd ac i mewn i'r nos yn y Coliseum, Amgueddfa Ceredigion. Cystadleuaeth ysgrifennu stori ar gyfer plant ac oedolion. Am ragor o fanylion ymweler 芒'r wefan - http://museum.ceredigion.gov.uk
Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Pen-y-bont ar Ogwr -
Targedu'r staff (7,000+ ohonynt) drwy raghysbysu Diwrnod y Llyfr ar wefan y llyfrgell; e-bostio'r staff; negeseuon ar gefn y slip cyflog; arddangosfeydd llyfrau; gofyn i'r Prif Weithredwr ac uwch-swyddogion y Cyngor ynghyd 芒 rhai Cynghorwyr i nodi eu hoff lyfrau i'w cyhoeddi ar wefan y Cyngor.
Awdurdod Llyfrgell Blaenau Gwent -
Lansio 30 o fal冒ns gydag adolygiadau llyfrau ynghlwm wrthynt. Yr adolygiad a deithiodd bellaf, ac a ddychwelwyd, yn ennill gwobr o 拢10 i'r disgybl.
Awdurdod Addysg Bro Morgannwg -
Cynnal Cystadleuaeth Llyfrau ar gyfer ysgolion yng Nghanolfan y Celfyddydau Sain Dunwyd.
Awdurdod Addysg Sir Ddinbych -
Ysgol Emmanuel, y Rhyl, yn y broses o sefydlu cysylltiadau rhyngwladol gydag ysgolion o wledydd, ac i ddathlu Diwrnod y Llyfr, maent yn bwriadu anfon llyfrau o ddiddordeb Cymreig i'r ysgolion hynny.
Awdurdod Addysg Sir Gaerfyrddin -
Gwahodd y storiwraig Mary Medlicott i gynnal gweithgarwch yn ystod y dydd; gobeithio trefnu gweithgarwch yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.
Awdurdod Addysg Conwy -
Cystadleuaeth i greu cyflwyniad electronig ar lyfr plant sydd mewn print ar hyn o bryd. Bydd y gystadleuaeth yn agored i bob ysgol gynradd i gystadlu trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Gwobr: camera digidol neu camcorder digidol i'r ysgol fuddugol.
Awdurdod Addysg Sir y Fflint -
Gobeithir trefnu i'r awdur Frank Cottrell Boyce ymweld ag ysgolion ar y cyd, i gyflwyno ei waith i ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6.
Awdurdod Addysg Penfro -
Yr awdures Nicola Davies i weithio mewn dwy ysgol i greu llyfr gwybodaeth electronig am byped, a ellir ei roi wedyn ar Grid Dysgu Cyngor Sir Penfro.
Awdurdod Addysg Pen-y-Bont ar Ogwr -
Gweithdai mewn llyfrgell leol ar gyfer disgyblion i'w galluogi i greu stibedi 'comic'.
Awdurdod Llyfrgell Caerdydd -
Trefnu noson ar gyfer Grwpiau Darllen Gaerdydd, gan wahodd yr awdur Bernard Knight i gymryd rhan. Sesiwn i blant yn Llyfrgell Grangetown gyda'r awdur llyfrau plant poblogaidd, Narinder Dhami.
Dysgu Cymunedol a Llyfrgelloedd Casnewydd -
Trefnu gweithgareddau'n gysylltiedig 芒 llyfrau yn eu llyfrgelloedd i'r ysgolion cyfagos; anfon e-gardiau at ffrindiau a chydweithwyr i argymell llyfrau; helpu'r rhai sydd ag anawsterau darllen drwy eu dewis o lyfrau 'Stori Sydyn'.
Gwasanaeth Llyfrgell Merthyr Tudful -
Prynu 10 llyfr fel gwobrau ar gyfer cystadleuaeth ddwyieithog i blant. Prynu 25-30 o lyfrau Saesneg o ddiddordeb Cymreig ar gyfer y staff ac aelodau Cadwyn Lyfrau Merthyr Tudful er mwyn iddynt gael paratoi sylwadau arnynt. Rhoddir y sylwadau hynny ar y We.
Gwasanaeth Llyfrgell Torfaen -
Gofyn i'r darllenwyr nodi eu hoff lyfrau ffuglen mewn chydweithrediad a'r prosiect lleol Co-Star, ac o'r rhestr a gesglir, prynu'r rhai mwyaf poblogaidd. Lansio'r casgliad wedyn ar Ddiwrnod y Llyfr a gellir hyrwyddo'r casgliad wedyn ar Co-Star, fel y gellid defnyddio'r wybodaeth mewn gwahanol fannau yn Nhorfaen.
Awdurdod Addysg Conwy -
Creu cyflwyniad electronig o ryw 3-5 munud, a ysbrydolwyd gan lyfr plant sy'n adlewyrchu'r dimension Cymreig.
Detholiad o Ysgolion a Chylchoedd Meithrin Unigol -
Ysgol Gynradd Bronant
Sleepover Cl冒b Cysgu C诺l.
Cylch Meithrin Pontgarreg -
Y plant i greu llyfr yn seiliedig ar stori Noa; gwahodd y ficer a'r rhieni i wylio'r plant yn ail-greu'r stori, ac yna i ddilyn fe fydd parti i'r holl anifeiliaid.
Ysgol Gyfun Treforys -
Llyfrgell yr Ysgol: Cwis 'Who Wants to be a Millionaire' yn seiliedig ar lyfrau sydd i'w cael o lyfrgell yr ysgol - tocyn llyfrau fel gwobr gyntaf.
Abertawe
Ysgol Gyfun G诺yr -
Gweithgaredd Pont Stori gydag ysgolion cynradd lleol; Staff - cystadleuaeth 'Pwy Sy'n Darllen Pa Lyfr?'; gwisg anffurfiol i holl ddisgyblion yr ysgol - pawb i wneud cyfraniad tuag at Book Aid International; disgyblion blynyddoedd 7 a 8 - gwisgo fel hoff gymeriad o lyfr; disgyblion Blwyddyn 12 yn ymweld ag Ysgol Gynradd Y Login Fach i ddarllen i ddisgyblion Blwyddyn 6.
Ystradgynlais
Ysgol Gymraeg Ynyscedwyn -
B-dag yn cynnal gweithgareddau i lansio cystadleuaeth ar-lein 'Crisial y Pharo' yn Ysgol Gymraeg Ynyscedwyn, Ystradgynlais, a bydd yr awdur Aled O. Richards yno i ddarllen rhan o'r llyfr. Bydd cyfle yn ogystal i ennill pecyn arbennig a fydd yn cynnwys copi o'r llyfr a chopi o'r g锚m newydd.
Treorci
Ysgol Gyfun Treorci -
Llyfrgell yr Ysgol: Wal o Ddail yn y Llyfrgell - y plant i dynnu deilen i lawr ac ysgrifennu teitl eu hoff lyfr ynghyd a disgrifiad byr arni. Cwis y 'Weakest Link' yn ystod amser cinio.
Trelai, Caerdydd
Ysgol Uwchradd Glyn Derw -
Aros a darllen; myfyrwyr y 6ed i ddarllen mewn ysbyty/cartre henoed; cwis llyfrau; cystadleuaeth staff - 'Pwy Sy'n Darllen Pa Lyfr?'
Y Rhyl -
Ysgol Uwchradd Gatholig Blessed Edward Jones
Aros a darllen; cystadleuaeth ysgrifennu stori; defnyddio taflen wasanaeth CA3 Diwrnod y Llyfr; defnyddio taflen weithgaredd a chardiau post rhad ac am ddim Gair ar Led; gweithgaredd Pont Stori gydag ysgolion cynradd lleol; dylunio cloriau neu nodau llyfrau; deg ucha'r dosbarth; myfyrwyr y 6ed i ddarllen mewn ysbyty/cartre henoed; creu papur newydd yn seiliedig ar lyfr; cwis llyfrau; cynnal sesiynau trafod llyfrau yn yr awr ginio; creu proffiliau awdur.
Y Trallwng
Ysgol Feithrin a Babanod Oldford -
Defnyddio taflenni gwasanaeth CA1 a CA2 Diwrnod y Llyfr; ffair lyfrau; defnyddio taflen weithgaredd a chardiau post rhad ac am dim Gair ar Led; defnyddio taflenni gweithgaredd yn seiliedig ar bosteri cerddi Diwrnod y Llyfr; gofyn i rieni ddod i'r ysgol i helpu plant gyda'u darllen; gwahodd stor茂wr neu lyfrgellydd i adrodd stori. Bydd ystafelloedd yr ysgol yn cael eu troi'n ystafelloedd darllen ar Ddiwrnod y Llyfr.
Cwmbr芒n
Ysgol Gyfun Llantarnam -
Trwcio/ffeirio llyfrau; aros a darllen' cystadleuaeth ysgrifennu stori; defnyddio taflen wasanaeth CA3 Diwrnod y Llyfr; dylunio cloriau neu nodau llyfrau; gweithgareddau'n seiliedig ar gynllun cardiau post Gair ar Led; sesiwn stori ar 么l ysgol gyda diod a bisgedi.
Llyfrgell yr Ysgol: Darllen stor茂au iasol ac arswydus yng ngolau cannwyll yn y Clwb ar 么l ysgol.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|