Cerddi i gerddwyr Eryri Mi fydd Parc Cenedlaethol Eryri yn hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol yr ardal drwy roi darnau o farddoniaeth ar giatiau, camfeydd a meinciau.
Y syniad yw rhoi rheswm arall i gerddwyr ddod i'r ardal sydd wedi ysbrydoli rhai o feirdd mwyaf Cymru gan gynnwys Syr T H Parry-Williams a Hedd Wyn.
Mae'r Parc yn gwahodd pobol i yrru eu hawgrymiadau am gerddi addas i'w harddangos.
"Mi rydyn ni eisiau i bobol fod yn ymwybodol o ddiwylliant yr ardal pan yn mwynhau'r wlad," meddai John Ablitt, pennaeth hamdden a chyfathrebu'r parc.
"Ac mae'r ffaith fod beirdd ac awduron wedi ysgrifennu am yr ardal yn helpu pobol, yn lleol ac yn ymwelwyr, i ddeall fod hon yn ardal wahanol efo diwylliant unigryw ei hun.
"Mae'r olygfa o gopa'r Wyddfa yn ysbrydoli llawer o farddoniaeth ac mae cael gweld beth mae rhai pobol wedi'i ysgrifennu a sut iddyn nhw gael eu hysbrydoli gan y tirwedd yn rhywbeth all fod o fudd i bawb."
Mi fydd y Parc yn casglu'r cerddi dros y gaeaf ac yna mi fyddan nhw'n cael eu gosod drwy'r ardal.
Dylid gyrru unrhyw awgrymiadau i Llinos Angharad, Parc Cenedlaethol Eryri, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL48 6LF neu i Llinos.Angharad@eryri-npa.gov.uk
Cliciwch i ddweud wrthym am eich hoff gerdd chi am wahanol rannau o Gymru gan gynnwys Eryri.