大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ffair lyfrau yn nhre'r llyfrau
Eleni mae Cymdeithas Bob Owen yn cynnal ei ffair lyfrau am y tro cyntaf erioed yng Nghaerfyrddin.
Bydd yn Festri Capel Heol Awst, Ebrill 28, 2007.

"Rydym wedi dewis y dref hon gan fod ganddi draddodiad o argraffu a chyhoeddi llyfrau Cymraeg a Chymreig," meddai mel Williams, ysgrifennydd y Gymdeithas.

Cyhoeddi mwy na neb
Dywedodd ei bod yn brif ganolfan cyhoeddi ac argraffu yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif.

Mel Williams "Cyhoeddwyd mwy o lyfrau Cymraeg a Chymreig yn y dref hon na'r holl weisg yng Nghymru a'r gororau gyda'i gilydd," meddai.

"Yma yn 1860 cyhoeddodd gwasg Spurrell y Geiradur Cymraeg /Saesneg mae pob Cymro yn gyfarwydd ag o.

"Gwasg arall oedd un John Ross ac ato ef yr aeth William Williams Pantycelyn gyda llawysgrif Theomemphus i'w chyhoeddi ac yno, hefyd, y cyhoeddwyd Beibl Peter Williams yn 1770.

"Dyma'r Beibl cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru.Yr oedd John Ross yn ddyn o bwys yn y dref ac yn aelod yng Nghapel Heol Awst," meddai Mel Williams.

Llyfr Du Caerfurddin
Dywedodd ei bod addas iawn mai yn festri Capel Heol Awst y cynhelir y ffair gan mai ar y safle hwn y safai'r priordy yn y ddeuddegfed ganrif lle yr ysgrifennwyd rhannau o Lyfr Du Caerfyrddin - un o drysorau cynharaf ein llenyddiaeth.

"Y mae'r enw Heol Awst, neu Lommas Street fel y'i hadnabyddir yn Saesneg, ag arwyddoc芒d hanesyddol a chrefyddol gan mai yn y stryd hon y safai T欧'r Brodyr Llwydion, ac ar y cyntaf o Awst arferent gynnal offeren i ddathlu G诺yl y Cynhaeaf, gan ddosbarthu bara yr un pryd.

"Dyma darddiad yr enw Saesneg, Lommas, neu Loaf-mass, a'r Awst," meddai.

Yr unig un
Ffair lyfrau Cymdeithas Bob Owen yw'r unig un o'i bath yng Nghymru a hithau'n arbenigo mewn llyfrau Cymraeg a Chymreig.

Fe'i hagorir gan Weinidog y Capel, y Parchedig Towyn Jones, gyda stondinwyr a llyfrwerthwyr o bob rhan o Gymru yn arddangos oddeutu 20,000 o lyfrau Cymraeg a Chymreig 芒 channoedd o fapiau, recordiau a phrintiau.. Bydd y Ffair yn agored rhwng deg y bore a phedwar y prynhawn - pris mynediad 拢1.

Y gymdeithas
  • Sefydlwyd Cymdeithas Bob Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi a'r Cylch ym 1976, a dewiswyd yr enw ar 么l y casglwr a hynafiaethydd hynod, Bob Owen, Croesor.

    Golygir cylchgrawn y gymdeithas, Y casglwr gan Mel Williams a olynodd John Roberts Williams, y golygydd cyntaf.

    Rhagor o wybodaeth ar 01678 540 652.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Caerfyrddin yn Lleol i Mi


  • cyfannwch

    Sioned Cwmdwyfran
    Helo bobl! Rwy'n caru llyfrau, dyma pham des i ar y wefan! HAHA! Rwy mor ddoniol Pan rwyf yn darllen rwyn teimlo fy mod yn rhan o'r stori cyffrous. Mae'r cymeriadau yn fy anfon o amgylch taith fy mywyd.



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy