|
Llyfrau prin ar ocsiwn Pum mil o lyfrau i borthi'r darllenwyr
Daeth yn benwythnos Ffair Lyfrau Cymdeithas Bob Owen yn Y Bala unwaith eto.
Daeth yn benwythnos Ffair Lyfrau Cymdeithas Bob Owen yn Y Bala unwaith eto.
Cynhelir ffair 2008 ar Fedi 20 yn Ysgol y Berwyn o 10 o'r gloch y bore tan bedwar y prynhawn.
Yn y prynhawn, bydd Ocsiwn gyda'n agos i 100 o eitemau amrywiol yn cael eu cynnig.
Yn eu plith bydd cerdd Gwenallt - Cwm yr Eglwys yn ei lawysgrifen ei hun, llyfrau Gwerthfawr fel Mona Antiqua Restorata - An Archaelogical Discourse on the Antiquities, Natural and Historical, of the Isle of Anglesey gan Henry Rowlands 1723 gyda phris cadw o 拢250, Cambrobrytannicae Cymraecaeue Linguae Institutiones neu Eiriadur Sion Dafydd Rhys 1592, gwerth oddeutu 拢1,400; Cambria Depicta - A Tour Through North Wales 1816 拢12,000, Tours in Wales 1778 , Thomas Pennant (拢450); Archaelogia Britannica, Edward Llwyd 1707; llythyrau cyhoeddi diwrnod cyntaf (first day issue) ee Cynan 1895 - 1970 wedi'i nodi yn yr Eisteddfod yn Rhydaman; Llun mawr o Salem mewn ffr芒m.
"Mae'r darlun Salem, sydd wedi cael ei baentio gan Curnow Vosper yn dathlu ei gant oed eleni a bydd yna gystadlu brwd amdano. Gellir gweld y gwreiddiol yng Ngaleri y Fonesig Lever yn Port Sunlight," meddai Mel Williams, Golygydd Y Casglwr, newyddiadur Cymdeithas Bob Owen, a threfnydd y ffair.
Ychwanegodd Mr Williams y bydd tua 30 o fyrddau gwerthu eleni gyda rhyw 5,000 o lyfrau Cymraeg a Chymreig ar werth.
"Ceir stondinwyr newydd bob blwyddyn ac mae hynny'n arwydd o boblogrwydd y ffair flynyddol hon," meddai.
Sefydlwyd Cymdeithas Bob Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberteifi yn 1976 a'i henwi ar 么l y llyfrbryf Bob Owen, Croesor. Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf cylchgrawn y gymdeithas fis Mawrth 1977 dan olygyddiaeth John Roberts Williams.
Erbyn hyn mae dros 1,000 o aelodau.
"Ac ar gyfartaledd mae 30 o aelodau newydd yn ymuno bob blwyddyn," meddai Mr Williams a ddywedodd y cynhelir y Gymdeithas yn hollol ddi-grant ers blynyddoedd.
Y t芒l aelodaeth yw 拢10 y flwyddyn.
I gysylltu 芒 Mel Williams Cliciwch
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|