|
G诺yl y Gelli Rhian Price yng Ng诺yl y Gelli 2007
Ew, mae'r 诺yl 'ma wedi tyfu ers i mi fod yma ddwytha!
Mae'n deg nodi mai ar hen safle'r digwyddiad o amgylch yr ysgol gynradd roedd hynny, ryw bum mlynedd yn 么l, ac fe symudodd yr 诺yl i gyrion y dre' wedi hynny.
O'r herwydd, mae 'na fwy o ddigwyddiadau, a mwy o gyfleoedd i drafod llyfra a gwrando ar lenorion a ffigyrau cyhoeddus, a da o beth yw hynny.
Mae rhai'n barnu'r 诺yl am fod yn rhy Seisnig. Yn sicr, mae literati Llundain yn amlwg iawn ac yn hawdd i'w nabod, yn enwedig y dynion yn eu siwtiau hufen a'u hetiau Panama.
"It's just like Henley-on-Thames, dahling," meddai un ddynes oedd yn amlwg ddim yn hanu o ardal Y Gelli.
Ond mi roedd 'na thipyn o Gymraeg i'w gweld ar y safle, a digon o Gymry Cymraeg yn mwynhau'r arlwy. Roedd criw go lew wedi teithio o'r gogledd - gan gynnwys tua dwsin o aelodau Clwb Darllen Caernarfon.
"Dwi ar fy ffordd i weld yr Hairy Bikers!" meddai un. "A'r pnawn 'ma 'da ni'n mynd i'r dre i siopa."
Chwerthin blewog
Es innau i weld y motobeicwyr blewog hefyd, a chael llond bol o chwerthin yng nghwmni Simon King a Dave Myers, y ddau walltog a barfog o ogledd ddwyrain Lloegr sy'n gwirioni ar goginio.
Mae'r ddau'n dal i'w chael hi'n anodd credu fod y 大象传媒 wedi cytuno i roi miliwn o bunnau iddyn nhw deithio'r byd - ar eu motobeics - a chreu rhaglen deledu am ddulliau paratoi bwyd mewn gwahanol wledydd.
Tasan nhw'n edrych yn gas i'ch cyfeiriad, bysan nhw'n codi ofn mawr arnoch, ond mae'r ddau mor siriol ac agos-atoch-chi, does dim peryg o hynny.
"Roedd 'na amheuaeth 'mod i'n cael hartan pan oeddan ni yn India," meddai Simon.
"O, do! Roedd hynny mor ddoniol!" atebodd Dave, heb arlliw o gydymdeimlad.
"Dwi'n cofio dim, blaw am gael panig wrth fynd heibio llun o'r Fam Teresa yn yr ysbyty...."
Heriwr twyllwyr
Go brin y byddai'r Hairy Bikers yn codi ofn ar Roger Cook, y newyddiadurwr a fentrodd ei fywyd sawl tro wrth herio twyllwyr ar eu tomen eu hunain ac ymchwilio'n gudd i weithredoedd terfysgwyr, pedoffiliaid, yr IRA a'r Maffia yn Rwsia.
"Rydach chi'n foi nobl - a fyddai eich gyrfa wedi dilyn yr un trywydd tasa chi wedi bod yn llai o gorffolaeth?" oedd cwestiwn cyntaf cyfarwyddwr G诺yl y Gelli, Peter Florence, iddo. Chwarddodd y dyn sy'n enwog am roi ei droed yn y drws.
"Ydach chi erioed wedi teimlo ofn?" gofynnodd Florence wedyn. "Os ydach chi'n gadael i chi'ch hun deimlo ofn, wnewch chi ddim byd," atebodd. Y llall.
"Rydw i wedi teimlo ofn wedi'r digwyddiad yn aml a gofyn i fi fy hun, be goblyn ydw i wedi neud r诺an?"
O edrych yn 么l ar ei yrfa, yr hyn sy'n ei foddhau fwyaf yw achosion arweiniodd at newid deddf gwlad, yn enwedig rhai'n ymwneud 芒 masnach pornograffi plant.
"Mae'n braf gweld newid yn y ddeddf, yn enwedig ar 么l cael beirniadaeth am fod yn sensational, "meddai.
"Wedi'r rhaglenni cyntaf un, mynnodd y papurau newydd nad oedd pornograffi plant yn broblem."
Criced Major
Un arall sydd wedi ymdrin 芒 phroblemau mawr cymdeithasol yw'r cyn Brif Weinidog Ceidwadol, John Major.
Ond rhywbeth llawer agosach at ei galon oedd testun ei sgwrs yn Y Gelli - criced.
Cyhoeddodd lyfr am wreiddiau'r gamp ac fe fyddai wedi hoffi chwarae'r g锚m yn broffesiynol.
"Dau beth a'm rhwystrodd. Yn gyntaf, cefais anaf mewn damwain car. Yn ail, doeddwn i ddim digon da!"
"Os nad oedd yn bosib i mi chwarae criced, waeth i mi fentro i wleidyddiaeth ..."
Does gen i ddim diddordeb mewn criced ond ro'n i am glywed ei ymatebion i gwestiynau mwy gwleidyddol o'r llawr.
Dywedodd sylfaenydd y Loteri Genedlaethol ym Mhrydain ei fod yn siomedig gyda'r bwriad i neilltuo cymaint o arian loteri at gynnal Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain, a hynny ar draul prosiectau celfyddydol, treftadaeth a chwaraeon ymhob rhan o'r wlad.
Roedd 'na ganmoliaeth hefyd i Brif Weinidog Awstralia, John Howard, am ddangos arweiniad pendant yn atal t卯m criced y wlad honno rhag chwarae yn Zimbabwe.
"Fe ddylen ninnau fod wedi gwneud yr un peth ddwy flynedd yn 么l," meddai.
Pla o blismyn
Ni ofynnodd neb am air o gyngor ganddo i'r darpar Brif Weinidog, Gordon Brown, oedd yn teithio i'r Gelli tua'r un adeg ag yr oedd Mr Major yn gadael.
Roedd y c诺n synhwyro'n cylchu un o'r pebyll yn arwydd pendant fod Rhywun Pwysig ar ei ffordd, ac o fewn dim roedd y lle'n bla o blismyn a swyddogion diogelwch na fyddai hyd yn oed Roger Cook yn dadlau 芒 nhw.
Cafodd Mr Brown ei smyglo rywsut i'r babell ar gyfer rhaglen deledu Sky ond roedd yn rhaid iddo ddod allan rywsut ac roedden ni'r newyddiadurwyr yn aros amdano.
Bid si诺r, fe ddaeth i'r amlwg ond doedd o ddim am dorri gair efo ni ond i gadarnhau ei fod o'n falch o ddod i'r Gelli. Doedd dim modd ei gyfweld.
"Mae'n rhaid iddo adael yn syth. Mae ganddo gyfarfod hustings yn Sheffield fory," meddai un o'i swyddogion.
Camodd yr entourage yn benderfynol tua'r stafell werdd ac mi ffeindiais fy hun yng nghanol sgrym gyfryngol gyntaf fy ngyrfa! Rhyfeddais ar allu'r ffotograffwyr a'r dynion camera i redeg tuag at yn 么l i drio cael y lluniau gorau bosib.
Cyffro ar y maes
Erbyn hyn, roedd 'na gyffro ar y maes wedi i bobol ddeall fod olynydd Tony Blair wedi cyrraedd.
Un oedd yn aros yn eiddgar i'w weld oedd y cyn Aelod Seneddol Ceidwadol, Edwina Currie.
Cytunodd imi dynnu ei llun ac fe fynegodd farn am y sefyllfa wleidyddol yng Nghymru.
"Fydd hi'n anodd ar lywodraeth leiafrifol Rhodri," meddai - roedd hynny, wrth reswm, cyn tro pedol diweddara'r Democratiaid Rhyddfrydol!
Roedd y cyn weinidog a gafodd wy ar ei hwyneb wedi'r sgandal salmonela yn hynod gl锚n. Serch hynny, wnes i ddim meiddio gofyn a welodd hi John Major ynghynt ...
Yn annisgwyl iawn, gwta bum munud cyn cychwyn prif sesiwn y Canghellor, cefais docyn a sedd flaen, bron a bod.
Roedd Mr Brown yn Y Gelli i hyrwyddo'i lyfr Courage, sy'n cynnwys portreadau o unigolion y mae'n eu hedmygu - pobol fel Nelson Mandela, arweinydd yr ymgyrch dros ddemocratiaeth yn Burma, Aung San Suu Kiy, ac Edith Cavell, y nyrs a gafodd ei dienyddio gan y Nats茂aid am helpu milwyr y gynghrair ffoi o wlad Belg.
Cafodd gymeradwyaeth hael ac mewn cyfnod o awr cyfeiriodd at y rhyfel yn Irac, dileu tlodi plant, a'r angen i'r Llywodraeth ymgynghori mwy a'r cyhoedd.
Ond roedd llawer o'r gynulleidfa yna i gael golwg agosach ar y dyn sydd ar fin rheoli Prydain, dyn sy'n ymddangos yn ddifrifol a digarisma.
Yn sicr, fe chwarddodd y gynulleidfa sawl tro, ac fe gafwyd sawl cip difyr ar ei lencyndod.
Ond a gynhesodd y gynulleidfa ato, o'i weld yn y cnawd?
"Roedd hi'n braf ei glywed yn siarad am awr gyfan, yn hytrach na chael soundbites fel ar y teledu," meddai un. "Ond mae o'n mynd i gymryd mwy nag un perfformiad i mi benderfynu'n derfynol."
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|