| |
|
|
|
|
|
|
|
Gwenynen Bigog gan Meleri Wyn James Adolygiad Ian Edwards o Gwenynen Bigog gan Meleri Wyn James. Gomer. 拢6.99.
Ydi gwyddoniaeth yn gwneud gormod dros gleifion sy'n ddifrifol wael ac yn gwybod eu bod nhw'n marw?
Dyma gwestiwn canolog nofel Meleri Wyn James, Gwenynen Bigog.
Dywedodd mai'r profiad o weld ei thad yn dioddef a marw o ganser y llynedd a'i sbardunodd i'w sgrifennu.
Ni all y prif gymeriad, Rhiannon, sy'n dioddef sglerosis ymledol - MS (multiple sclerosis)- weld na symud ond mae hi'n dal i allu clywed popeth gan gynnwys holl gyfrinachau'r teulu.
Un o'r cyfrinachau hynny sy'n arwain at ei llofruddiaeth ar ddiwrnod priodas ei merch, Sera.
Stori ddirgelwch yw Gwenynen Bigog a gyhoeddir gan Wasg Gomer gyda'r awdur yn defnyddio 么l-fflachiadau i ddatguddio'n raddol gyfrinachau'r cymeriadau.
Mae'n codi cwestiynau pigog, a yw'r proffesiwn meddygol yn gyffredinol yn gwneud gormod i gadw pobol sy'n wael ofnadwy yn fyw.
"Er hynny nid nofel drist a diobaith yw hon gan fod yna ddigon o hiwmor a chyffro ynddi hefyd," meddai'r cyhoeddwyr.
Hi oedd Nofel Mis Awst Cyngor Llyfrau Cymru.
Dyma sylwadau Ian Edwards amdani: Ar rai adegau rhaid cyfaddef fod darllen Gwenynen Bigog, nofel ddiweddaraf Meleri Wyn James, yn brofiad hynod voyeuraidd.
Mae'r awdur ifanc o Aberystwyth wedi llwyddo i ddod a'i darllenwyr i mewn i fywyd teulu sy'n cael ei rwygo'n ddarnau gan salwch MS (Sglerosis Ymledol) mewn ffordd mor effeithiol mae'n anodd peidio 芒 theimlo eich bod yn ymyrryd a'u preifatrwydd.
Efallai bod y radd yma o realaeth yn ganlyniad uniongyrchol i brofiad yr awdur yn gweld ei thad yn marw o ganser y llynedd.
Ond mae yna lawer iawn mwy na hynny i'r nofel ddirgelwch anarferol hon gyda chyfres o gyfrinachau o orffennol amheus yn arwain at lofruddiaeth ar ddiwrnod priodas.
Wrth ddarllen y nofel cefais y teimlad fod y salwch sy'n cadw'r prif gymeriad, Rhiannon, yn gaeth i'w gwely yn fwythair am y teimlad o fod yn gaeth i deulu.
Daw hyn drosodd orau yn yr olygfa lle mae Rhiannon yn cael ei chau allan o'r teulu wedi genedigaeth ei merch.
Ond er bod y nofel hon yn un bwerus iawn ac yn codi cwestiynau am natur cariad teuluol ac ynglyn 芒'r proffesiwn meddygol a dulliau o ofalu am gleifion nad oes gwella iddyn nhw y mae rhywbeth yn eisiau.
Y brif broblem yw'r defnydd o 么l-fflachiadau ar gyfer dweud y stori.
Er bod hyn ar y naill law yn ffordd anarferol o ddweud y stori gall hefyd roi'r argraff o fyfyriwr uchelgeisiol yn ceisio dangos ei hun mewn dosbarth sgrifennu creadigol.
Beth yw eich barn chi?
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|