Adolygiad John Stevenson o Cynhaeaf Hanner Canrif - Gwleidyddiaeth Gymreig 1945-2006 gan Gwilym Prys Davies. Gomer. 拢8.99.
Y perygl oedd mai troednodyn yn y llyfrau am hanes gwleidyddol y Gymru gyfoes fyddai Gwilym Prys Davies.
Fo oedd yr ymgeisydd Llafur yn etholaeth Caerfyrddin pan lwyddodd Gwynfor Evans i gipio'r sedd oddi ar y Blaid Lafur yn yr isetholiad hanesyddol hwnnw yn 1966.
Ond wrth ddarllen ac yna ail ddarllen, y gyfrol werthfawr hon o eiddo'r Arglwydd Prys Davies mae'n amlwg fod yma wleidydd o alluoedd a chyraeddiadau arbennig iawn.
Un o'r achlysuron mwyaf pleserus i mi yn ystod fy nghyfnod yn Ohebydd Seneddol 大象传媒 Cymru yn San Steffan, oedd y cyfle i gael cinio gyda Gwilym Prys Davies.
Nid gwleidydd ar fainc flaen y Blaid Lafur mohono, er iddo fod yn gyn Lefarydd Llafur ar faterion yn ymwneud a Gogledd Iwerddon.
Uchel ei barch
Erbyn i mi ddod i'w nabod, roedd o'n aelod uchel ei barch ar feinciau cefn T欧'r Arglwyddi.
Ond mi fyddai cael treulio awr yn ei gwmni dros ginio, i un fel fi sydd a diddordeb dwfn nid yn unig mewn gwleidyddiaeth gyfoes ond hefyd yn hanes gwleidyddol Cymru, yn bleser ac yn fraint.
Cyfreithiwr ydi Gwilym Prys Davies o ran galwedigaeth ac mae ei ddiddordeb a'i alluoedd yn cynnwys medru llunio deddfwriaeth ymarferol sydd yn mynd i weithio.
Mae hi'n grefft wleidyddol arbennig i allu plethu argyhoeddiad, egwyddor ynghyd a'r ymarferol, o fewn yr un plisgyn deddfwriaethol.
Dyna oedd natur ei swydd, er enghraifft, yn Ymgynghorydd Arbennig yn y Swyddfa Gymreig ac mae'r hyn mae o'n ddatgelu am ei waith gyda Cledwyn Hughes ac yna John Morris, yn wirioneddol ddifyr a dadlennol.
Dyma ei ddadansoddiad o John Morris:
"Heb iddo gael y cyfle i weithredu'n gadarnhaol, ni fynnai ymh茅l yn llwyr 芒 gwleidyddiaeth gan dueddu i gilio'n 么l at ei waith ar y Bar. Mentraf awgrymu mai'r elfen hon yn ei gymeriad yw cryfder pennaf John Morris, mewn un ystyr, a hanfod y llwyddiant a ddaeth i'w ran."
Cyfraniad gwerthfawr
Mae'r gyfrol hon yn gyfraniad gwerthfawr a phwysig, nid yn unig i'n gwybodaeth ond ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth y datblygiadau cyfansoddiadol welwyd yng Nghymry, ers yr Ail Ryfel Byd.
Mae na duedd - a gwir berygl - i wleidyddion a newyddiadurwyr gwleidyddol Cymreig fynd i gredu fod gwleidyddiaeth Cymru wedi dod i stop gyda'r Ddeddf Uno ac yna ail gychwyn gyda'r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999.
Camsyniad enbyd fyddai credu hynny ac mae'r gyfrol hon yn tanseilio persbectif felly yn llwyr.
Mae Gwilym Prys Davies yn datgelu fod y gwaith o gael corff datganoledig i Gymru yn fater oedd o wir bwys yn San Steffan a hynny i wleidyddion Cymreig yn mhob un o'r pleidiau.
Camsyniad arall yn y Gymru wleidyddol, ydi camddeall beth yn union ydi datganoli.
Tydi datganoli ddim gyfystyr ac annibyniaeth na hunan lywodraeth.
Mewn trefn ddatganoledig fel yr un Gymreig, mae sofraniaeth yn dal gyda'r Senedd yn San Steffan. Mantais o'r mwyaf ydi gwybod sut i ddefnyddio'r drefn Seneddol yn San Steffan, er lles deddfwriaeth Gymreig.
Mae'n amlwg i Gwilym Prys Davies fod yn giamstar ar y grefft honno a phrawf o hynny oedd ei lwyddiant yn ennill y "Cymal Iaith" yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.
Llywodraeth ac iaith
Mae dwy thema yn gweu drwy yrfa hir Gwylim Prys Davies.
Diogelu parhad yr iaith Gymraeg drwy bwyso am statws cyfreithiol iddi.
Dywed yn ei ragair mai "gorfoledd oedd gweld ar derfyn y ganrif wireddu gobeithion a grisialwyd gan yr arloeswyr ar ei ddechrau".
Ond mae'n rhy ddiymhongar i osod ei hun yng nghategori "yr arloeswyr" er mai dyna yn ddiamau ydi o.
Er nad ydi Gwilym Prys Davies yn ei ddweud o yn mae o'n sicr yn awgrymu yn weddol amlwg, mai camsyniad ydi dehongli safbwynt gwleidyddion Llafur y de ddwyrain tuag at ddatganoli fel un "deinasoraidd".
Os ydi deddfwriaeth Gymreig i fynd drwy'r Senedd, mae'n rhaid cael cydweithrediad aelodau seneddol ac aelodau Llafur y de ddwyrain. Cydweithio 芒 thir canol, dyna natur y broses wleidyddol i'r dyn yma, er mwyn cael y maen egwyddorol i'r wal.
Wythnos yn 么l, cyhoeddodd Cymdeithas Cledwyn, gr诺p ymgyrchu o fewn y Blaid Lafur yng Nghymru gafodd ei sefydlu i hybu agenda Gymreig eu maniffesto i geisio Cymreigio'r Blaid.
Yr eironi yw fod llawer o'r hyn sydd yn y ddogfen honno wedi ei ddweud gan Gwilym Prys Davies, Cledwyn Hughes, John Morris a Goronwy Roberts, ddegawdau yn 么l ond bod y ceffylau blaen yn y Blaid Lafur unai yn gwrthod neu'n methu gweithredu.
George Thomas
Mae rhai o'r pytiau mwyaf blasus yn y gyfrol hon i'w cael yn nadansoddiad Gwylim Prys Davies o rai o ffigurau amlwg ei blaid ers yr Ail Ryfel Byd.
George Thomas er enghraifft:
"Bu'n gymwynaswr 芒'r gwan a'r anghenus a'r oedrannus a'r methedig. Ac eto, er cystal yr holl weithgarwch daionus hwn, medrai'r funud nesaf droi i fod yn ddyn bychan a milain.
"Hawdd iawn oedd pechu yn ei erbyn - ac ni faddeuai'n hawdd i'r rhai a droseddodd yn ei erbyn. Roedd yn deyrngar i'r carn ac yn was bach i Wilson. Roedd yn elyn milain i'r cenedlaetholwyr Cymreig ac yn wrthwynebydd ffyrnig i bob amlygiad o ddeffroad yr ymwybod cenedlaethol yng Nghymru. Tueddwyd i'w gymryd yn llawer rhy ysgafn gan ei gyd-wleidyddion. Camgymeriad oedd hynny. Roedd yn wleidydd medrus a chanddo gyfrwystra'r cadno."
Beth arall sydd angen ei ddweud am y g诺r o Donypandy?
Defnyddiol
Dau beth defnyddiol tu hwnt yn y gyfrol yw y mynegai a'r troednodiadau trylwyr. Beth all fod yn fwy rhwystredig na darllen cymaint o lyfrau Cymreg ffeithiol sy'n cael eu cyhoeddi heb fynegai na nodiadau.
Oes, mae na siom yn y gyfrol hefyd.
Roedd Gwilym Prys Davies yn aelod o Fudiad y Gweirniaethwyr. Mae'r Mudiad gafodd ei sefydlu wedi'r Ail Ryfel Byd wedi hen chwythu ei blwc ac mi fyddai wedi bod yn hynod werthfawr clywed mwy o'i hanes.
A'i gormod yw gobeithio yn cawn gyfrol arall gan Arglwydd Prys Davies yn ymdrin a'r Gweriniaethwyr?
Cyfreithiwr ydi Gwilym Prys Davies; gwaith cyfreithiwr ydi pwyso a mesur y dystiolaeth yn ddiduedd a gwrthrychol ac er y gellid gofyn, tybed a oedd o yn rhy agos i'r cymeriadau a digwyddiadau mae o'n s么n amdanynt i fod yn gwbwl wrthrychol y mae hon yn gyfrol gwir bwysig i unrhyw un sy'n ymddiddori yn y Gymru gyfoes a'i hanes.