|
Gwyddoniadur Cymru Cawr o lyfr yn awr ar gael
Mae Gwyddoniadur Cymru wedi ei gyhoeddi - ddydd olaf mis Ionawr 2008.
Holi Menna Baines - Cliciwch YMA. Clipiau sain.
Ffeithiau Gwyddoniadurol a ffeithiau o'r Gwyddoniadur - Cliciwch YMA
Adolygiad William Owen - Cliciwch YMA
Yn dilyn y siom o orfod gohirio'r cyhoeddi fis Tachwedd 2007 ar gyfer marchnad y Nadolig yr oedd y gyfrol 1,112 tudalen ac un Saesneg gyfatebol yn y siopau ar gyfer mis Chwefror 2008 gyda derbyniad yn Senedd y Cynulliad Chwefror 1.
Yn costio 拢65 ni welwyd erioed o'r blaen gyfrol debyg iddi hi yn yr iaith Gymraeg yn orlawn o wybodaeth m芒n a mawr am Gymru a'i phobl.
Cyfrannodd 400 o arbenigwyr wybodaeth yn amrywio o 50 o eiriau i hyd at 700 o eiriau mewn hyd. Costiodd y fenter gyfan 拢300,000 i gyd a chafwyd grant o 拢20,000 gan Gyngor y Celfyddydau.
Gwnaeth y cyhoeddwyr eu gorau roi'r wedd orau posib ar y methiant anffodus i gyhoeddi mewn pryd fis Tachwedd trwy ddweud i Feibl Cymraeg 1588 fod un mlynedd ar hugain yn hwyr!
Rhestrir hefyd ar wefan y gyfrol brosiectau mawrion eraill nas cwblhawyd mewn pryd gan gynnwys;
Pont Menai - pum mlynedd yn hwyr - a Chanolfan y Mileniwm, Caerdydd, 14 mis.
Ond "Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig - dim ond dau fis yn hwyr!" medden nhw.
Cynllun ar y cyd, yn costio 拢300,000, rhwng Yr Academi a Gwasg Prifysgol Cymru yw'r Gwyddoniadur gydag arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae un gyfrol Gymraeg ac un arall yn y Saesneg - y naill wedi ei golygu gan Menna Baines a Pheredur Lynch a'r llall gan Nigel Jenkins a'r Hanesydd y Dr John Davies yn olygydd cyffredinol.
"Problemau anrhagweladwy yng nghamau olaf y gwaith o gynhyrchu'r llyfr" gafodd y bai am y methiant i gyhoeddi'r cyfrolau 拢65 yr un ar Dachwedd 14.
Mae hynny drosodd nawr a'r llyfr wedi ei gludo ar long o Malta lle cafodd ei argraffu yn y brifddinas, Valeta.
Yn gyfrol mor uchelgeisiol dywedodd llefarydd mai'r dewis oedd rhwng Malta a'r Dwyrain Pell.
Meddai Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi, "Tra bo'r oedi yn anffodus ac yn siom i bawb sydd wedi bod ynghlwm 芒'r prosiect, gobeithiwn y bydd pobl yn deall nad ar chwarae bach y mae cyhoeddi llyfr o'r pwysigrwydd a'r maintioli hwn.
"Ar 么l degawd o waith ysgrifennu, ymchwilio a golygu manwl, mae'n hollbwysig fod digon o amser yn cael ei neilltuo i sicrhau fod y ddwy gyfrol mor fanwl gywir ag sy'n bosib i gyrraedd y safonau golygyddol uchaf; wedi'r cyfan, rhaid i'r gyfrol sefyll am genedlaethau i ddod."
Deng mlynedd o waith Dechreuodd prosiect Gwyddoniadur Cymru yr Academi ddeng mlynedd yn 么l i ateb y diffyg nad oedd un gyfrol gynhwysfawr ar gael "yn cwmpasu'n grwn" ein holl ddiwylliant.
Yr oedd hyn, meddid, "yn ddiffyg amlwg ar daith Cymru tuag at hunan ymwybyddiaeth."
Gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru trwy'r Loteri Genedlaethol y penodwyd John Davies, yn olygydd cyffredinol a Menna Baines, Nigel Jenkins ac yn nes ymlaen atyn nhw, Peredur Lynch, yn olygyddion yn comisiynu llu o arbenigwyr i ddarparu'r testun.
Buan y trodd gwaith oedd i gymryd tair blynedd yn orchwyl deng mlynedd a'r angen yn codi i ychwanegu pethau newydd oedd yn dod i fodolaeth tra'r oedd y llyfr yn cael ei gwblhau yn ychwanegu at yr her.
Cyffwrdd popeth Mae'r gyfrol orffenedig yn cynnwys holl amrediad bywyd Cymru o David Lloyd George i weithio glo, o Lyfr Du Caerfyrddin i'r gwahaniaeth rhwng gogs a hwntws, o gawl cennin i'r Academi Gymreig - y cyfan yn ffrwyth cydweithrediad pob math o gyrff yn amrywio o golegau prifysgol i'r 大象传媒.
"O du'r golygyddion y daeth y gwir ymroddiad, wrth gwrs. Gweithiodd pob un ohonynt oriau lawer dros ben yr oriau cyflogedig, bu pob un yn drylwyr o ran chwilota am ffeithiau, cysoni testunau ac ymchwil gefndir," meddir ar wefan y Gwyddoniadur.
Nid oes amheuaeth na fydd hon yn gyfrol boblogaidd, er gwaethaf ei phris o 拢65, a than gynllun archebu o flaen llaw archebwyd 4,500 o gop茂au yn fuan iawn.
Gyda dyddiad y cyhoeddi yn dynesu dywedodd Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru, Ashley Drake, "Mae hwn yn amser hynod o bwysig a chyffrous yn hanes y Gwyddoniadur. Rwy'n hapus iawn ein bod wedi gwasgu'r botwm 'argraffu' o'r diwedd ar un o'r cyhoeddiadau mwyaf cyffrous yn hanes Cymru ac mae'n wych gweld y tudalennau yn hedfan oddi ar y wasg argraffu."
Hyrwyddo'r llyfr Bydd y pedwar golygydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar hyd a lled Cymru i gyd-fynd 芒'r cyhoeddi:
31 Ionawr. John Davies yn:
Caban, Pontcanna, Caerdydd, 10.30-11.30 y bore,
Siop y Felin,Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, 12.30-1.30 y pnawn a
Siop y Bont, Pontypridd, 2.30-3.30 y pnawn.
Nigel Jenkins yn:
Llyfrau'r Ddraig, Llanelli, 10.15-11.15 y bore,
T-Hwnt, Caerfyrddin, 12.30-1.30 y pnawn a
Siop y Pentan, Caerfyrddin, 2.00-3.00 y pnawn.
Menna Baines yn:
Ll锚n Ll欧n, Pwllheli, 10.30-11.30 y bore,
Palas Print, Caernarfon, 12.30-1.30 y pnawn a
Siop Pendref, Bangor, 2.30-3.30 y pnawn.
Peredur Lynch yn:
Siop Clwyd, Dinbych, 11 y bore - 12 y pnawn a
Siop y Morfa, Rhyl, 1.00-2.00 y pnawn.
Gwener 1 Chwefror
5.30 yr hwyr yn y Senedd, Bae Caerdydd bydd. Dathliad ffurfiol yng nghwmni'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Golygyddion a Gwasg Prifysgol Cymru.
Sadwrn 2 Chwefror
10 y bore - 3 y prynhawn Rhifyn Saesneg yn cyrraedd siop lyfrau Borders, yr Ais, Caerdydd.
Ffeithiau Gwyddoniadurol a ffeithiau o'r Gwyddoniadur - Cliciwch YMA
Llinell Archebu Gwyddoniadur - Gwasg Prifysgol Cymru
029 2055 7451.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|