Yn y rhith fro
Sion Jobbins yn dod o hyd i fro Gymraeg ar y We
Os oedd 2004 yn flwyddyn lwyddiannus i'r we Gymraeg, mae un o brif wefeistri Cymru yn darogan y bydd 2005 yn un well byth. Yn 么l Nic Dafis, gwefeistr y fforwm drafod eiconig, , bu'r ddwy flynedd, diwethaf - a'r llynedd yn enwedig - yn llwyddiant mawr ond mae dal llawer o waith i'w wneud.
Pobl y gwrando
Ac ymysg y rhwydwaith ar-lein ifanc, mae barn Nic Dafis yn farn mae pobl yn gwrando arni.
Nid gormodiaeth fyddai dweud i maes-e fod yn sbardun ar gyfer creu s卯n gwe Gymraeg, ac i nifer o we-borwyr ifainc Cymraeg, maes-e yw prif ffocws y Rhith-fro.
Mae gan maes-e dros 1,200 o aelodau.
Dydy hi ddim yn costio ceiniog i ymaelodi 芒'r fforwm nac i anfon neges a dim ond i rywun beidio ag enllibio neu sarhau yna caiff fwy neu lai unrhyw neges ei harddangos ar y maes.
Ac mae'r negeseuon yno'n amrywiol a'r pynciau'n ymestyn o fwyd a diod i'r S卯n Roc Gymraeg, o chwaraeon i adolygiadau llyfrau a rhaglenni teledu gan ennyn trafodaeth frwd a di-flewyn-ar-dafod - rhinwedd sydd mor brin yn y Gymru Gymraeg.
Dyfeisgarwch a hiwmor
Ac os yw unrhyw un yn meddwl fod traddodiad llysenwau Cymreig wedi marw gyda'r ceffyl gwedd, yna does ond eisiau bwrw golwg ar enwau rhai o'r cyfranwyr i weld fod dyfeisgarwch a hiwmor (heb s么n am destun doethuriaeth gyfan ar ystyr Freudaidd rhai ohonynt) yn fyw ac yn iach.
Cymaint yw llwyddiant maes-e ers ei sefydlu yn Awst 2002 fel bod bellach dros 135,000 o negeseuon yno.
Ond mae s么n am bwysigrwydd maes-e yn unig fel fforwm drafod fel s么n am bwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn unig oherwydd seremoniau'r coroni a'r cadeirio.
Gwir lwyddiant maes-e yw ei fod yn fan cwrdd ar gyfer cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc (a ddim cweit mor ifanc) i greu gwe fannau uniaith Gymraeg heb na sybsidi na sensoriaeth. Dyma a olygir gan y Rhith-fro neu'r S卯n We Gymraeg. Unwaith eto, mae Nic Dafis ymhlith yr arloeswyr neu 'drist-ddynion', chwedl yntau, sydd wedi mynd ati i gyfieithu systemau gwe ac i greu mudiad cyffrous, hwyliog, diddorol ac optimistaidd yn y Gymraeg.
Does dim sefydliad fel y cyfryw ond rhwydwaith o flogiau, fforymau a gwefannau annibynnol gyda'r ddolen o fod yn uniaith Gymraeg.
I nifer o'r gwefanwyr, mae unieithrwydd ar-lein yn hollbwysig ac mae'r cynnyrch yn chwa o awyr iach.
Blogiau gorau
Fel pe na byddai bugeilio maes-e yn ddigon o waith, mae Nic Dafis hefyd yn gyfrifol am un o'r blogiau Cymraeg gorau (os nad Y blog gorau yn y Gymraeg) sef .
Math o ddyddiadur, neu lyfr lloffion personol, yw blog a chyfle i'r awdur daro ar y sgrin unrhyw beth sy'n codi ei ffansi. Mae myfyrdodau morfablog yn amrywio o ffilmiau i ieithoedd, tra bo yn rhoi gogwydd Iddewig a Llundeinig yn y Gymraeg a bellach (yn rhannol am fod Nic Dafis wedi cyfieithu testun meddalwedd rhydd blog phpBB i'r Gymraeg) mae dwsinau o flogiau Cymraeg o'u cymharu 芒 llond dwrn flwyddyn yn 么l.
'Mae 600,000 o siaradwyr Cymraeg, ac mae ganddo ni rhyw 50 o flogiau Cymraeg, sy'n wych o beth. Ond mae 300,000 o siaradwyr Islandeg ac mae ganddyn nhw rhyw 5,000 o flogiau. Dyw pobl ddim yn sylweddoli pa mor hawdd yw sefydlu gwefan neu flog.
Dy'n ni wedi profi nad oes angen mynd drwy'r hwpiau arferol o sicrhau cyllid cyn dechrau gwefan Gymraeg. Yr unig beth sy'n stopio rhywun ydy chi eich hun,' meddai'r dyn sydd yn ei ffurf gig a gwaed yn byw yn Llangrannog yng Ngheredigion.
Iach a blasus
O'r gwe fannau uniaith Gymraeg newydd sydd wedi eu sefydlu dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf mae'r amrywiaeth yn iach a blasus. Mae yn trafod y S卯n Roc Gymraeg gyda'r hiwmor a'r difrifoldeb mae'n ei haeddu tra bo yn fforwm ar gyfer rhai sy'n magu plant (ac am rannu'r pleser a'r boen).
Mae yn cynnig taith o bentrefi'r fro honno, tra bo yn dod 芒 Chymry cariadus at ei gilydd, a'r yn eu gwahanu.
Ac un o'r datblygiadau mwyaf uchelgeisiol diweddar yw sefydlu fersiwn Cymraeg o'r gwyddoniadur rhydd ar-lein, - cyfle i bobl ddarllen a chyfrannu erthyglau ar unrhyw bwnc dan haul.
'Ewch ati i greu . . .'
Neges y dyn a sefydlodd faes-e a morfablog er mwyn gwella ei Gymraeg yw; 'Ewch ati i greu eich gwefan eich hun - mae'n haws nag a fyddech yn disgwyl.'
Hoff wefannau Cymraeg Nic Dafis:
Hoff flogiau Cymraeg Nic Dafis: