大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Atgof a Cherdd
Adolygiad o Atgof a Cherdd gan y diweddar J. R. Jones. Lolfa. 拢5.95.




Dirgelwch y bardd cadeiriol
Y stori orau yn y gyfrol hon o atgofion gan un o gewrir byd eisteddfodol ac un o feirdd enwocaf Ceredigion, ydi honno amdano'n beirniadu mewn rhyw eisteddfod "nid anenwog".

Clawr y llyfrEr bod y gadair yn cael ei chynnig am waith gan rywun nad oedd wedi ennill cadair o'r blaen yr oedd yr ymgais orau a dderbyniodd yn y gystadleuaeth yn cynnwys cyfres o sonedau eithriadol o grefftus.

Ond er gwaethaf pob amheuaeth am yr ymgais doedd dim cyfiawnhad dros atal y wobr ond dwysaodd y dirgelwch ynglyn 芒'r ymgais a'r ymgeisydd ddiwrnod yr eisteddfod ei hun "dyn pen moel tua thrigain oed mewn siwt a fu rhywdro yn nefi blw, yn gwisgo tei Iwnion Jac a rhes o fedalau rhyfel ar draws ei frest".

Erbyn seremoni'r cadeirio dywed J. R. Jones fod y dyn nad oedd neb yn ei adnabod yn y rhes flaen ac yn ysu am gael ei draed ar y llwyfan hyd yn oed cyn i'r seremoni gychwyn.

"Wedi cyhoeddi ffugenw'r bardd buddugol, galwyd arno i godi ar ei draed. Nid oedd angen neb i'w gyrchu gan ei fod yn sefyll wrth risiau'r llwyfan. Llamodd i fyny, cyhoeddwyd ei enw, enw hollol ddiarth, ac aed drwy'r seremoni ar frys.

"Cyn iddo ymadael, euthum ato i'w longyfarch ond roedd yn rhy brin ei Gymraeg i gynnal sgwrs, a digon diamynedd ei atebion cwta i gwestiwn neu ddau cyffredinol ac yn Saesneg y siaradai.

"Mae'n amheus gen i a fu erioed mewn eisteddfod ac rwy'n siwr nad oedd ganddo'r syniad lleiaf ynghylch seremoni cadeirio bardd.

"Diflannodd i'r nos hefo'i gadair ac ni chlywais ddim ymhellach am ei gampau eisteddfodol.

"Roedd y gerdd yn eiddo'r pwyllgor a gwn fod llawer un craff wedi'i darllen ar 么l hynny, pob un yn cydnabod ei bod yn gerdd dda, gwaith hen law."

Ond ni fu J. R. Jones ddim nes at ddatrys y dirgelwch.

Dirgelwch arall
Nid y bardd cadeiriol hwn yw'r unig ddyn sy'n destun dirgelwch yn y gyfrol hon.

Er ei fod yn gwybod enw 'cyfaill' y byddai'n ei gyfarfod bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol dywed i bwy'n union oedd Tawe Griffiths o Lundain barhau'n ddirgelwch pur iddo wedill ei oes.

Cyfarfu'r ddau gyntaf yn y Y Rhyl, 1953, ac fe fuon nhw'n rhyw how gyd-steddfota yn Ystradgynlais y flwyddyn wedyn ac ym Mhwllheli y flwyddyn ar 么l honno gyda'r Llundeiniwr yn cyrraedd Pwllheli mewn anferth o Lagonda y cysgodd bardd y Goron, W. J. Gruffydd, y nos ynddo.

Ond arbenigrwydd pennaf y cyfaill o Lundain oedd arwain cymanfaoedd canu byrfyfyr gan gynnwys un a ddenodd dyrfa o dros bum mil o gwmpas cofeb Caradog yn Aberd芒r.

Ond yn fwy na hynny mae'n ddirgelwch llwyr!

Diferu o straeon
Mae'r gyfrol yn diferu o straeon am blentyndod yr awdur yng nghefn gwlad Ceredigion ei yrfa gydar Cyngor Llyfrau, yn Aberystwyth ac yn fwy na dim am ddigwyddiadau eisteddfodol lle bu'n gystadleuydd, yn feirniad ac yn arweinydd.

Mae llawer o s么n am arferion a chymeriadau cefn gwlad er y bydd ambell un o'r straeon yn gyffredin i ardaloedd eraill fel yr un am hen ffermwr yn ceisio stopio'i gar trwy weiddi "W锚, w锚" yn nyddiau cynnar moduro.

Weithiau cynhwysir gwybodaeth sy'n ddibwys o safbwynt y rhan fwyaf o ddarllenwyr fel yr helynt gyda chais cynllunio i godi byngalo.

Ar y llaw arall, mae'r cipolwg a gawn o'r newid a fu yng nghefn gwlad yn gofnod pwysig ond yn ymdebygu i'r hyn a gawn mewn degau o gofiannau eraill tebyg yn y Gymraeg.

Mae'r gyfrol yn cloi gyda cherddi gan J R nas cyhoeddwyd or blaen.

Cyflwynir y gyfrol gan Alun Creunant Davies, cyn bennaeth Cyngor Llyfrau Cymru a hwylusodd gyhoeddi'r gyfrol hon yn dilyn marwolaeth J R Jones yn Awst 2002.

Mae'n fawr ei edmygedd ohono:

"Cyhoeddodd," meddai, "bum cyfrol o farddoniaeth, yn ogystal 芒 nifer fawr o erthyglau mewn gwahanol gylchgronau, a phrawf o safon ei waith ysgrifenedig oedd ei lwyddiannau mewn eisteddfodau ar hyd a lled Cymru gan ennill dros 40 o gadeiriau a thair coron, a dod yn ail am goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol."

A phwysleisia ei fod yn s么n am gyrraeddiadau gwr na chafod addysg uwchradd ond a ymr么dd i'w addysgu a'i ddiwyllio ei hun.

Cofleidio'r salaf
Yn addas iawn, mae J R Jones ei hun yn cloi ei gyfrol gydag ap锚l am ddychwelyd at hen werthoedd.

"Rwy'n teimlo siom ein bod fel cenedl yn barod i gofleidio diwylliant gwaelaf y Saeson a'r Americanwyr. Gwan a di-chwaeth yw cynnwys llawer o'n rhaglenni ar y cyfryngau ac aeth diota'n rhemp. Cawsom ein rhybuddio gan Emrys ap Iwan, 'Os mynnwch ddynwared y genedl nesaf atoch, dynwaredwch hi yn y pethau mae hi yn rhagori arnoch.' Ni wrandawsom arno, a heddiw rydym yn gorfod talu'r pris.

"Diolch fod nifer dda o'n pobl ifanc o hyd yn cyflawni gwaith rhagorol," meddai.
gan Glyn Evans


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy