| |
|
|
|
|
|
|
|
Mair Wynn Hughes Sgwrs gydag enillydd Gwobr Mary Vaughan Jones
Cadw ei gwaith ar ei chof yr oedd un o awduron prysuraf Cymru pan ddechreuodd hi lunio straeon.
A dywedodd mai sylw gan ddisgybl yn yr ysgol nad oedd yn ailadrodd ei straeon yr un ffordd bob tro a'i sbardunodd i roi ei straeon i lawr ar bapur.
Yr oedd Mair Wynn Hughes yn siarad ar Raglen Dei Tomos ar 大象传媒 Radio Cymru rai dyddiau cyn derbyn Gwobr Mary Vaughan Jones 2007.
Fe'i dyfarnwyd iddi am ei chyfraniad maith i faes llyfrau plant a hithau wedi cyhoeddi dros 80 o lyfrau yn amrywio o rai i'r plant lleiaf i nofelau hanes sy'n cael eu darllen gan oedolion yn ogystal 芒 phlant.
Stori cyn mynd adref
"Roeddwn i'n dechrau dysgu yn y Pumdegau," meddai wrth Dei Tomos, "a'r adeg honno roeddwn i yn dweud stori wrth y plant (pump i saith oed) cyn mynd adra.
"Ond prin iawn oedd y llyfrau yn y Gymraeg ar gyfer dweud stori felly mi wnes i ddechrau dyfeisio rhyw gymeriadau bach a dweud stori amdanyn nhw - ond y drwg oedd doeddwn i ddim yn sgrifennu y straeon yna i lawr ond yn eu hadeiladu wrth eu dweud ac felly ddim yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd.
"Ac felly yr ydw i yn sgrifennu o hyd, dydw i ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd mewn stori pan ydw i'n cychwyn," meddai.
Dywedodd y bydd yn wynebu "wal frics" ar adegau a gorfod mynd "i lanhau ffenest neu smwddio" er mwyn cael ei meddwl yn glir.
Wedi anghofio Dywedodd mai bachgen yn ei dosbarth - Derfel - a'i gorfododd i ddechrau rhoi ei straeon ar bapur:
"Fe fyddai'r plant yn gofyn am stori eto, ond y drwg oedd os nad ydych wedi sgwennu pethau i lawr yr ydych wedi anghofio rhediad y stori a chyn gynted ag y byddwn i wedi agor fy ngheg fe fyddai Derfel yn rhoi ei law i fyny a dweud Plis Miss nid felna wnaethoch chi deud hi tro dwytha.
"Wedyn bu'n rhaid imi ddechrau eu sgrifennu nhw'i lawr ac wedi dechrau sgrifennu a gweld y stori yn tyfu ar bapur ac yn enwedig wedi cael cyhoeddi [roedd yn deimlad braf]."
Ychwanegodd fod y balchder o gael llyfr mewn print yn parhau hyd heddiw a bod yna bleser arbennig mewn cael cop茂au cyntaf o'i llyfrau oddi wrth y cyhoeddwyr.
Darllen ar yr aelwyd Er yn byw ar Ynys M么n yn awr, un o Eifionydd yw Mair Wynn Hughes ac wedi ei magu ar aelwyd lle'r oedd llawer o ddarllen.
Dywedodd ei bod yn cofio'r teulu cyfan "a'u trwyn mewn llyfrau" yn darllen yng ngolau lamp olew pan oedd hi'n blentyn.
"Yr oedd darllen ar hyd y blynyddoedd wedi chwarae rhan bwysig iawn yn fy mywyd i," meddai.
Darllenau "bob peth" allai hi gael gafael arno gan gynnwys llyfrau cowbois yr oedd ei thad yn eu darllen!
Byddai hefyd yn cael benthyg llyfrau gan weinidog ym Mryncir.
"Fy hoff lyfr Cymraeg oedd Nansi'r Ditectif," meddai.
Ond ychwanegodd nad oedd yn ystyried sgrifennu ei hun ar y pryd.
"Ond yr oedd Mam yn ysgrifennu llawer ac yn cystadlu llawer ar straeon byrion mewn steddfodau bach a phan oeddwn i'n h欧n fyddwn i byth yn cystadlu ar goginio a gwnio ond fe fyddwn i'n cystadlu ar sgrifennu rhyw stori fach," meddai gan ddweud iddi ennill unwaith neu ddwy hefyd.
Nid yn unig cafodd anogaeth yn yr ysgol i sgrifennu ond gallodd fanteisio hefyd ar y ffaith fod John Gwilym Jones yn gefnder i'w mam ac yn edrych ar ei gwaith "ac yn pigo ar y gwallau yn y Gymtraeg ."
"Ond yr oedd o'n falch iawn dwi'n meddwl o ngweld i yn sgrifennu," meddai wrth Dei Tomos.
Mynd yn athrawes Wedi'r Coleg Normal a mynd yn athrawes y dechreuodd lunio straeon ar gyfer y plant dan ei gofal.
Mae rhai o'r llyfrau a sgrifennodd wedi golygu cryn waith ymchwil - yn aml, i feysydd oedd yn ddieithr iddi cyn cychwyn ar y gwaith.
Ond mae mwy i sgrifennu nac ymchwil:
"Hyd yn oed ar 么l gwneud y gwaith ymchwil beth sy'n anodd iawn ydi dod a naws y cyfnod yr ydych chi'n s么n amdano fo - a'ch bod chi'n rhoi y plentyn, pan mae o'n darllen, yn y cyfnod i hunan".
Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd didol a dethol ffeithiau yn hytrach na chynnwys popeth a gasglwyd yn ystod yr ymhwil.
Cymeriadau gyntaf Ychwanegodd mai'r cymeriadau yn hytrach na'r stori sy'n dod gyntaf iddi.
"Ac fe fyddaf yn treulio tipyn o amser yn meddwl am y cymeriadau ac yn eu portreadu yn fy meddwl [ond] fyddai ddim yn sgrifennu rhestr [o nodweddion y cymeriadau fel mae rhai awduron yn gwneud] ond fe fyddaf yn meddwl a throi a throsi [am y cymeriad]," meddai.
Chwalodd hefyd y syniad mai gwaith unig yw sgrifennu:
"Pan oeddwn i'n dechrau sgrifennu roeddwn i'n meddwl mai rhywbeth digon unig oedd bod yn awdur ond mae yna rwydwaith o gefnogaeth i awduron - mae yna gefnogaeth gan y Cyngor Llyfrau, mae yna gefnogaeth gan y gweisg," meddai.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|