| |
|
|
|
|
|
|
|
Marion Eames Marw un o'n nofelwyr hanes mwyaf blaenllaw
Ym marwolaeth Marion Eames collodd Cymru un o'i phrif nofelwyr hanes.
Daeth i amlygrwydd yn 1969 gyda'i nofel Y Stafell Ddirgel yn ymwneud ag erledigaeth y Crynwyr yn ardal Dolgellau, Meirionnydd a'u mudo i'r Unol Daleithiau.
Fe'i dilynwyd ymhen tair blynedd gan Y Rhandir Mwyn yn dilyn hynt y Crynwyr yn ymsefydlu yn y Wlad Newydd dan arweiniad William Penn ym Mhensylfania.
Addaswyd y ddwy nofel ar gyfer y teledu gan y 大象传媒 ac fe'u cyfieithwyd i'r Saesneg yn y Saithdegau.
Yn 1982 sgrifennodd nofel i gydfynd a gweithgareddau i nodi saith canmlwyddiant lladd Llywelyn Ein Llyw Olaf, Y Gaeaf Sydd Unig.
Meddai Derec Llwyd Morgan:
Yn talu teyrnged i Marion Eames ar Post Pnawn ar 大象传媒 Radio Cymru gosododd Derec Llwyd Morgan hi "yn rheng flaen" nofelwyr Cymru.
"Yr oedd triniaeth Marion Eames o'r cyfnod [yn Y Stafell Ddirgel a'r Rhandir Mwyn] yn ofnadwy o gyfoethog . . . ac yr oedd hi'n adnabod crefyddolder a bodolrwydd ei phobl ac fe ystytrir y nofelau o'r dechrau yn weithiau pwysig," meddai.
Ac wedi i'r ddwy nofel gael eu haddasu ar gyfer y teledu daeth i sylw cynulleidfa eangach fyth meddai.
"Ar ddau gam megis yr oedd Marion Eames yn rheng flaenaf nofelwyr ei gwlad," meddai.
Ei gwlad yn bwysig "Yr oedd ei gwlad hi, ei hen hanes a'i gwleidyddiaeth gyfoes, yn bwysig ofnadwy i Marion Eames," meddai.
Cyfeiriodd hefyd at ei nofel I Hela Cnau am rai a ymfudodd o Gymru, eto, ond i Benbedw y tro hwn, yn oes Victoria.
"Ac eto mae ei hoff Sir Feirionnydd hi yma yn amlwg - ac rwy'n pwysleisio Sir Feirionnydd achos yn Nolgellau y magwyd Marion Eames ac i Ddolgellau y dewisodd hi fynd i fyw ar 么l ymddeol - ond ym Mhenbedw y'i ganed hi a does dim amheuaeth iddi weithio profiad teuluol ac astudiaeth bersonol yn ddychmygus dda [i'r nofel]," meddai.
Gwahanol eto Disgrifiodd nofel arall, Seren Gaeth fel un "wahanol eto" yn ymwneud 芒 hanes priodas fer Morfudd Llwyn Owain y cerddor ag Ernest Jones, cofiannydd Sigmund Freud.
Ond ychwanegodd bod rhywfaint ohoni hi ei hun yn y nofel hon hefyd.
"Oherwydd yr oedd hi yn gerddgar ac yn eu hieuenctid wedi astudio'r piano a'r delyn yn ysgol Y Guildhall yn Llundain. Ond yn wahanol i Hanna yn y nofel nid gydag academydd y priododd Marian Eames ond gyda newyddiadurwr, g诺r bonheddig, hyfryd, o'r enw Griffith Williams."
Nofelydd hanes nad oedd yn dda mewn Hanes!
Cysylltiadau Perthnasol
Nofelydd hanes nad oedd yn dda mewn Hanes!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|