|
Problem Prifysgol gan Dafydd Glyn Jones Adolygiad o Problem Prifysgol a Phapurau Eraill gan Dafydd Glyn Jones. Gwasg Carreg Gwalch. 拢6.
Mae clawr y llyfr hwn wedi ei gynllunio i wneud iddo beidio ag edrych fel casgliad o 'bapurau' sychion yn trafod helyntion addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru.
Dydi'r clawr, sy'n adlewyrchiad o'r llun enwog hwnnw o Clarke Gable yn cusanu ei Scarlett O'Hara ar bosteri Gone With the Wind ddim yn gwneud cam 芒'r cynnwys mewn gwirionedd.
Efallai na pherthyn holl ddrama Gone With the Wind i'r stori sydd gan Dafydd Glyn Jones i'w dweud ond y mae yn epig yr un mor hirfaith, yr un mor drofaus.
Ymhell o fod yn sych A'r gair olaf a fyddai'n dod i feddwl rhywun wrth s么n am ei ddull ef o sgwennu ydi "sych" gan ei fod yn trafod pwnc a allai fod yn drymaidd gydag arabedd, gwreiddioldeb, ffraethineb ac eironi.
Clamp o beltan Fis Gorffennaf eleni rhoddodd Gweinidog Addysg y Cynulliad, Jane Davidson, yr hyn a alwodd Gwilym Owen yn "glamp o beltan" i Brifysgol Cymru trwy ddweud na fyddai hi'n rhoi ceiniog yn ychwanegol tuag at gynnal gwaith corff gyda'r enw syber, Bwrdd Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg, Prifysgol Cymru.
Er mai cyd-ddigwyddiad oedd hi i lyfr Dafydd Glyn Jones ymddangos o fewn rhyw ddeufis wedyn y mae'n ymwneud yn llwyr a diffygion addysg Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru a gweithgarwch y Bwrdd nad yw Jane am roi rhagor o arian iddo.
Ac i fynd yn 么l at Gone With the Wind ymateb y rhan fwyaf oedd, er mawr ofid, "A dweud y gwir iti 'nghariad, dydw i'n malio dim dam."
Wedi bod yn malio Ond y mae Dyfed Glyn Jones wedi bod yn malio ers blynyddoedd lawer a man cychwyn y gyfrol hon ydi papur a gyflwynodd i gynhadledd yn dwyn y teitl clodwiw, Y Gymraeg 16+ - Y Ffordd Ymlaen?, fis Ionawr 1998.
Dyna pryd y daeth Coleg Tatws Llaeth yn enw bachog am Goleg Ffederal Cymraeg.
Y 'papur' hwnnw yw man cychwyn y gyfrol hon a dilynir y stori wedyn trwy gyfrwng papurau ac erthyglau eraill a gyhoeddwyd gan Dafydd Glyn Jones dros y blynyddoedd mewn gwahanol gylchgronau Barn a'r Traethodydd yn bennaf.
Ymestyn yn 么l Ond mae hanes ceisio cael addysg deilwng trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru yn un sy'n ymestyn yn 么l yn lawer pellach na Ionawr 1998.
Ddiwedd y saithdegau yr oedd Undeb Myfyrwyr Cymru yn s么n am rinweddau "Coleg Ffederal Cymraeg" ac yr oedd darpariaeth Gymraeg ein prifysgol yn un o bynciau trafod mawr Alwyn D. Rees pan yn olygydd Barn yn y chwech a'r saith degau. Ym 1951 "pasiodd Llys y Brifysgol, ar gynnig y Dr Gwynfor Evans, y dylid archwilio ffyrdd o sefydlu coleg Cymraeg".
Ond er cyn hwyed y frwydr ac er mor anrhydeddus yr amcan yr oedd Dafydd Glyn Jones yn gorfod cyfaddef yn Y Traethodydd fis Ionawr 2001; "Yr ydym wedi colli brwydr y Gymraeg yn y Brifysgol, ei cholli'n racs, a'i cholli drwy beidio 芒'i hymladd yn fwy nag am unrhyw reswm arall."
Gerbron y Cynulliad Aeth ef 芒'r frwydr gerbron un o bwyllgorau'n Cynulliad a chael ei wawdio'n ddidrugaredd gan aelodau Llafur y pwyllgor hwnnw a'i gyhuddo o fod yn wamal.
Dyna pryd y dywedodd ein harbenigwr cenedlaethol ar hwyaid ungoes, " . . . o'n i jyst yn ei ddarllen e ac yn chwerthin! O'n i ddim yn gwybod bod cymeriade o'r fath hyn ar gael gyda ni mwyach" dyfyniad sy'n cael ei gynnwys yn y llyfr hwn.
Go brin y byddai neb am wadu nad yw'r gwr a fu'n sbardun i gyhoeddiadau fel Miriman pan yn fyfyriwr yn gymeriad ond go brin mai Rhodri Morgan yw'r un i'w gael yn eisiau am hynny!
Diwrnod duach Er cyn ddued y diwrnod hwnnw gerbron y Cynulliad dywed Dyfed Glyn Jones mai Ionawr 29, 1999, oedd un duaf oll "saga'r Coleg Ffederal Cymraeg" gan mai ar y diwrnod hwnnw "y penderfynodd Bwrdd y Brifysgol ar ddysgu trwy'r Gymraeg droi'r syniad heibio, ar 么l pasio o'i blaid mewn egwyddor rai misoedd ynghynt."
Meddai am hynny: "Nid wyf am ddechrau dweud y drefn, oherwydd gwn na allaf byth wneud cyfiawnder 芒'r dicter yr wyf yn ei deimlo tuag at 'rai pobl yng Nghymru'."
Ymdriniaeth wreiddiol Nid gwamalu y mae rhywun wrth awgrymu mai tua'r unig beth da i ddod o'r holl hanes trist, yr holl dindroi gan is-ganghelloriau a chynghorau y gwahanol golegau, yw y casgliad hwn o erthyglau gan Dyfed Glyn Jones.
Beth bynnag eich barn am ragoriaethau, ymarferoldeb a diffygion addysg trwy gyfrwng y Gymraeg mae'n amhosib peidio 芒 chynhesu at ei ymdriniaeth ef o bwnc sydd wedi haeddu mwy o chwarae teg nac a gafodd.
Yn ychwanegol at y 'papurau prifysgol' mae dwy bennod olaf - amherthnasol ar un wedd - Trem ar Hanes y Diwylliant Cymraeg ac hefyd gynnwys darlith a draddodwyd i Gylch Llenyddol Caernarfon a Gwyrfai ac i Gymdeithas Lenyddol Bro Goronwy dair blynedd yn 么l, Pwy yw'r Llenorion Cymraeg? - sy'n werth pris y llyfr ynddi'i hun! Glyn Evans
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|