Beirniad a llenor yn peltio iaith anweddus
Clip sain i wrando arno isod:
Mae beirniad llenyddol amlwg wedi ymosod yn hallt ar lenorion sy'n rhy barod i ddefnyddio rhegfeydd a "iaith fudr" yn eu gwaith.
"Tristwch i lawer yw gweld label ar ambell gyfrol gyfredol yn yr iaith Gymraeg yn ein rhybuddio fod yr iaith ynddi yn anweddus, ac yn wir mae cyfrolau o'r fath wedi cael canmoliaeth gan lawer," meddai'r Prifardd John Gruffydd Jones yn ei golofn olygyddol fel golygydd Y Goleuad, papur newydd wythnosol yr Eglwys Bresbyteraidd.
Iaith fudr
Yn feirniad sawl tro yn yr Eisteddfod Genedlaethol dywedodd Mr Jones hefyd:
"Nid trwy ddefnyddio iaith fudr, a dyna'r gair cywir - mae achub yr iaith Gymraeg, ac mae a wnelo'r dirywiad crefyddol lawer 芒'r duedd anffodus yna," meddai.
Cafodd gyfle i amddiffyn ei safbwynt ar raglen radio Wythnos Gwilym Owen ddydd Llun 29 Hydref 2007, gyda llenor a phrifardd arall, Aled Jones Williams, a gyhuddwyd yn y gorffennol am ddefnyddio iaith anweddus yn ei waith, yn ymuno 芒'r drafodaeth.
Eglurodd John Gruffydd Jones:
"Ofn ydw i ein bod ni yn rhyw fath o osod safon i bwy bynnag sy'n ailddechrau sgwennu o'r newydd.
"Pobl ifainc yn gweld awduron yn cael canmoliaeth am iaith sydd yn hollol fudr - ac mae gen i ofn hynny ac mae gen i ofn hefyd yngl欧n ag ambell i ddrama lwyfan. Yr oedd yna bobl yn cerdded allan o ambell i beth eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol oherwydd yr iaith fras yma."
Dibynnu ar y cymeriad
Ond dadleuodd Aled Jones Williams fod yn rhaid i lenor sgrifennu mewn ffordd sy'n gydnaws a'i gymeriadau.
"Mae'n dibynnu ar gymhelliad yr awdur - hynny ydi, os ydych chi'n sgrifennu i gymeriad a'r cymeriad yna yn defnyddio y math yna o iaith yna mae'n rhaid i'r awdur fod yn driw i hynny," meddai.
"Bod yn driw i'w gymeriadau yw prif beth awdur nid poeni am ei gynulleidfa," meddai gan ddweud na fu iddo ef erioed boeni am gynulleidfa wrth sgrifennu.
Llyfrau s芒l a da
Ychwanegodd nad yw iaith anweddus o anghenraid yn arwydd o lyfr s芒l mwy nad yw iaith l芒n yn arwydd o lyfr da.
"Mi fedrwch chi gael llyfr yn llawn o regfeydd ac yn goblyn o lyfr s芒l. Mi fedrwch chi hefyd gael un lle mae'r cymeriadau wedi eu gweithio yn gynnil ac yn dda sydd yn defnyddio'r math yma o iaith ac sy'n llyfr tan gamp - ac mi fedrwch gael llyfr gl芒n sydd yn llyfr s芒l ac mi fedrwch chi gael llyfr gl芒n sydd hefyd yn llyfr da," meddai.
Hollol bornograffig
Yn feirniad y Fedal Ryddiaith eleni dywedodd John Gruffydd Jones fod un nofel anfonwyd i mewn yn "hollol bornograffig".
"Beth fyddai wedi digwydd pe byddem ni wedi rhoi gwobr i'r llyfr hwnnw?" holodd.
Ychwanegodd mai ei ofn mawr yw i bobl ifainc sy'n dechrau sgrifennu ystyried cyfrolau fel hyn fel rhai i'w hefelychu.
"A'u bod nhw i gyd yn dweud, 'Wel, fel hyn y mae sgwennu; fel hyn mae cael enw yn y Gymraeg - sgwennu'n fudr', meddai.
Ond dadleuodd Aled Jones Williams y bydd llenorion ifainc go iawn yn dod o hyd i'w llais trwy arbrofi fel hyn.
"Os ydyn nhw yn wir lenorion fe fyddan nhw yn tyfu gyda, a thrwy, eu harddull ac fe fydd yna bwynt pan fydd hynny i gyd yn diflannu ac arddull wahanol yn dod i fod - os ydyn nhw yn wir lenorion," meddai.
"Ond os mai dim ond y math yna o sgwennu [allan nhw wneud] yna rhaid ichi gwestiynu wedyn pa fath lenor sydd yma," meddai.
"Os ydyn nhw eisiau eu llais eu hunain bydd yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i'w geirfa a'u harddull eu hunain a dyna fel arfer sydd yn digwydd," meddai.
Dosbarth canol - ac elitiaeth
Cytunodd John Gruffydd Jones fod "ambell i reg" yn dderbyniol ond ofnai y gall y peth hefyd fynd yn fwrn.
Ond disgrifiodd Aled Jones Williams Gymraeg "dderbyniol" a saff fel un sy'n apelio at y dosbarth canol yn unig.
"Ond mae yna fath arall o Gymreictod a dwi'n meddwl bod yna rhyw densiynau rhwng y ddau," meddai gan ychwanegu ei fod yn pryderu y gallai hynny arwain at "elitaeth".
"Yr ydych chi eisiau ystod eang o sgrifennu yn y Gymraeg fel sydd yna yn Saesneg - does neb yn poeni am hyn yn Saesneg," meddai.
"Mae yna rywbeth am burdeb Cymraeg a dydw i ddim yn si诺r iawn am beth mae hwnna; felly mae angen ystod o bethau hollol wahanol ac weithiau mae pethau'n mynd i fynd dros ben llestri.
"Ond ychydig ydyn nhw ac os oes yna wir lenorion mae'r rheini yn mynd i ddod trwy hwn beth bynnag," meddai.