|
Tlws Mary Vaughan Jones a Gwobrau Tir na n-Og Un o uchelbwyntiau Cynhadledd Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau Llandrindod yr wythnos hon fydd cyflwyno Tlws Mary Vaughan Jones i Elfyn Pritchard.
Mae hon yn un o brif wobrau Cymru i awduron llyfrau plant ac yn cydnabod cyfraniad arbennig i lenyddiaeth plant dros nifer o flynyddoedd.
Mae Elfyn Pritchard yn awdur llyfrau i oedolion yn ogystal 芒 phlant ac yn gynharach eleni enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol am nofel i oedolion, Pan Ddaw'r Dydd ?
Prifathro Ganwyd ef ym mhentref Gwyddelwern ac wedi ei addysg gynradd mynychodd Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Y Bala (Ysgol Ty Tan Domen), a Choleg Prifysgol Bangor lle graddiodd mewn Cymraeg a Hanes ac yna ennill tystysgrif addysg.
Bu'n athro a phrifathro cynradd ac yna'n Ymgynghorydd Addysg Gynradd yn ne Gwynedd cyn ymddeol yn gynnar yn 1993.
Ond mae'n dal i weithio rhyw gymaint ar brosiectau addysgol.
Mae'n briod 芒 Nansi ac mae ganddyn nhw ddwy o ferched, Sioned a Gwenan, a chwech o wyrion a wyresau, Catrin, Llio, Rhys, Osian, Deio ac Elin.
Sefydlu siop Roedd yn un o sefydlwyr siop llyfrau Cymraeg Awen Meirion, Y Bala, bu'n olygydd Allwedd y Tannau, cylchgrawn y Gymdeithas Gerdd Dant, am 17 mlynedd, yn gyn-gadeirydd Panel Llyfrau Darllen Cydbwyllgor Addysg Cymru ac yn aelod hefyd o Bwyllgor Llenyddiaeth Cyngor y Celfyddydau.
Bu'n Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau 1997 a Chadeirydd y Pwyllgor Llenyddiaeth.
Mae wedi beirniadu yn y Genedlaethol bump o weithiau ac wedi cyhoeddi nifer o nofelau a straeon i blant a'r arddegau, nofel antur i oedolion a chyfres darllen ar y cyd gydag Emily Hughes.
Mae ganddo ddiddordeb mewn cerddoriaeth, criced, cerdded, darllen, yr Eisteddfod a dram芒u.
Siaradwyr o bwys Cynhelir y gynhadledd llyfrau plant y gwobrwyir Elfyn Pritchard ynddi yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod, o nos Wener tan ddydd Sadwrn Tachwedd 7 i 8.
Cyflwynir y ddarlith agoriadol ar y nos Wener gan Alan Gibbons, enillydd y Blue Peter Award yn 2000 am ei gyfrol Shadow of the Minotaur a fu hefyd ar restr fer gwobr Carnegie yn 2001 a'i nofel The Edge ar restr fer Carnegie yn 2003.
Ceir cyflwyniadau hefyd gan nifer o nofelwyr ifanc gan gynnwys Gwyneth Glyn, Caryl Lewis, Nia Jones, Anwen Francis ac Aled Richards yn trafod eu profiadau yn ysgrifennu.
Gwobrau Tir na n-Og Yn ogystal 芒 chyflwyno ei dlws i Elfyn Pritchard bydd enillwyr Gwobrau Tir na n-Og yn cael eu anrhydeddu hefyd.
Cyhoeddwyd enwau enillwyr gwobrau Tir na n-Og yn fyw ar raglan arbennig ar ar S4C yr wythnos ddiwethaf.
Enillydd Ffuglen Orau'r Flwyddyn oedd Bethan Gwanas am y gyfrol 厂驳么r (Y Lolfa), nofel llawn hiwmor ar gyfer yr arddegau am fachgen yn symud i fyw o'r gogledd i'r de.
Enillwyr y wobr am Lyfr Gorau'r Flwyddyn ac eithrio Ffuglen oedd Rhiannon Ifans a Margaret Jones am Dewi Sant (Y Lolfa eto), cyfrol safonol sy'n gyfuniad o stor茂au am fywyd Dewi Sant gyda darluniau a diwyg sy'n gweddu i'r cyfnod.
Mae'r tair wedi ennill gwobr Tir na n-Og o'r blaen - Bethan Gwanas yn 2001 gyda Llinyn Tr么ns, Rhiannon Ifans a Margaret Jones gyda'r gyfrol Chwedlau o'r Gwledydd Celtaidd. Dyma'r pedwerydd tro i Margaret Jones ennill.
Dyfarnwyd y wobr am y llyfr Saesneg gorau i Rob Lewis am y llyfr stori-a-llun, Cold Jac (Pont/Gomer), nofel wedi'i lleoli ar fferm yng Nghymru. Ganed Rob Lewis yn Llundain a bu'n astudio Dylunio Graffig yng Ngholeg Politechnig Bryste. Mae'n awr yn byw ar fferm ger Llandrindod.
"Gyda'r holl awduron hyn yn bresennol yn y Gynhadledd, fe fydd hi'n siwr o fod yn gynhadledd arbennig,' meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru.
"Y mae'r gynhadledd bob amser yn gyfle gwych i bobl sydd 芒 diddordeb mewn llenyddiaeth plant ddod at ei gilydd, ac i roi sylw penodol i'r maes pwysig hwn."
Cysylltiadau Perthnasol
Holi awdur
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|