大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Mentro gyda llyfrau sain Cymraeg
Mae'r cryno ddisgiau cyntaf erioed o lyfrau Cymraeg yn awr ar gael.


Cwmni newydd o'r enw Tympan sydd wedi eu cynhyrchu ac un o'r llyfrau yw nofel Angharad Price, O Tyn y Gorchudd, a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, 2002.

Ar CD arall bydd un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru T. Llew Jones yn darllen ei waith ei hun.

Straeon i blant gan Catherin Aran fydd ar y drydedd.

Y tu 么l i'r fenter uchelgeisiol hon o roi llyfrau Cymraeg ar CD am y tro cyntaf mae Eleri Hopcyn a fu, pan yn gynhyrchydd gyda'r 大象传媒, yn gyfrifol am nifer o ddarlleniadau o lenyddiaeth Gymraeg.

"Ymgais i ymateb i'r bwlch yn y farchnad Gymraeg yw'r symbyliad tu 么l i fenter Tympan a'r bwriad yw cyflwyno llenyddiaeth Gymraeg i ystod eang o brynwyr gan gynnwys pobl na fyddant, fel rheol, yn prynu neu fenthyg llyfrau Cymraeg," meddai.

"Mewn byd lle mae llai a llai o amser i oedi a darllen mae llyfr sain yn ffordd hwylus o agor y drws i fyd ll锚n," ychwanegodd.

Os bydd yr arbrawf hwn yn llwyddiannus dywedodd mai bwriad Tympan yw symud ymlaen i gyhoeddi deunydd amrywiol ac eang ei ap锚l yn y dyfodol agos gan gynnwys gweithiau clasurol, llenyddiaeth boblogaidd a llyfrau gosod arholiadau.


Clawr Lleuad yn OlauY tri llyfr cyntaf i'w cyhoeddi ar CD ydi:
Lleuad yn Olau gyda T. Llew Jones, wedi ei recordio yn ei gartref, yn darllen rhai o'i hoff chwedlau o'r casgliad lliwgar hwn.

"Roedd e mor frwdfrydig ag erioed," meddai Eleri, "a'i lais e fel cloch."


O, Tyn y Gorchudd: Clawr O Tyn y Gorchuddyr actores Betsan Llwyd sy'n darllen cyfrol Medal Ryddiaith Angharad Price am Rebecca Jones a theulu Tynybraich o Gwm Maesglasau, yn Sir Feirionnydd.

Mae hwn yn cael ei ystyried yn waith addas iawn ar gyfer y cyfrwng yma gan ei fod yn ymwneud a dallineb.

Storiau Pum Munud: Clawr Storiau Pum Munuddetholiad o straeon gwerin hwyliog i blant yn cael eu darllen gan Catherin Aran, sy'n gyfarwydd neu adroddwraig straeon yng Ngwynedd.

Mae hwn yn faes y mae gwerthu mawr ynddo yn Saesneg a dywedodd Eleri Hopcyn i ddwy filiwn o bobl brynu llyfrau sain ym Mhrydain yn ystod 2002.

"Mae hynny'n fwy nag sy'n mynd i weld opera a bale neu sy'n perthyn i glwb tenis neu glwb hwylio," meddai Eleri sy'n gobeithio y bydd yr yr arfer yn cydio yng Nghymru hefyd.

O! tyn y gorchudd Pecyn CD x 3 Pris yn y siop: 拢16.99 i gynnwys TAW
Lleuad yn Olau Pecyn CD x 2 Pris yn y siop: 拢13.99 i gynnwys TAW
Stor茂au Pum Munud CD sengl Pris yn y siop: 拢11.99 i gynnwys TAW

Ar gael o siopau llyfrau ledled Cymru ac oddi ar wefan y Cyngor Llyfrau -

Cysylltiadau Perthnasol

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy