Cyfrifiadur Newydd Wini Llygoden newydd i'r gath
Adolygiad Lowri Rees o Cyfrifiadur Newydd Winii gan Sioned Lleiniau. Gomer. 拢4.99.
Bydd rhai o blant Cymru wrth eu boddau yn clywed bod llyfr newydd yn y gyfres Wini'r Wrach wedi ei gyhoeddi'n ddiweddar.
Addaswyd hanes Wini a'i chath, Mali, gan Sioned Lleiniau o'r llyfrau gwreiddiol gan Korky Paul a Valerie Thomas.
Tro yma cawn hanes Wini yn gwirioni'n l芒n pan ddaw cyfrifiadur newydd i'w chartref.
Ond mae Mali ychydig yn gymysglyd o gael ei chyflwyno i'r llygoden sydd ynghlwm wrth y peiriant bondigrybwyll.
Mae Wini wth ei bodd yn syrffio'r We ac yn archebu ffon hud newydd, ond Mali yn parhau i geisio tarfu ar y llygoden ac yn cael ei hel allan i'r glaw.
O dipyn i beth caiff y cyfrifiadur ei ddefnyddio i gadw swynion Wini gyda'r hen lyfr swynion a'r hen ffon hud yn cael eu taflu i'r bin sbwriel.
Mae ychydig yn amlwg beth fydd yn digwydd, ond diolch i'r drefn mae'r ffon hud newydd yn cyrraedd mewn pryd i achub Wini a'r gath.
Gwers yn y llyfr Efallai fod gwers yn y llyfr hynaws hwn i oedolion am y perygl o ddibynnu'n ormodol ar gyfrifiadur - yn enwedig i rywun di-lun fel minnau sydd yn pwyso y botymau anghywir yn amlach na'r rhai cywir.
Mae'r llyfr ychydig yn hirwyntog ar adegau i blant dan chwech a bydd rhai yn colli diddordeb yn yr hanes.
Hefyd, ar gyfer plant sy'n dysgu darllen mae'r print ychydig yn f芒n ac wedi'i osod blith draphlith ar draws y tudalennau sy'n beryg o beri dryswch.
Wedi dweud hynny; gall rhywun dreulio oriau yn byseddu'r llyfr sydd o faint A4 yn craffu ar y lluniau lliwgar.
Mae'r tudalennau gyda chlwstwr o luniau bach hefyd gyda manylion byr all gadw plant yn ddiddig am oriau.
Mae ebychiadau'r gath yn ddoniol iawn gan beri i riant yn ogystal 芒 phlentyn chwerthin.
Ymateb plant Wrth ddarllen llyfrau plant yr wyf, wrth gwrs, yn seilio fy sylwadau ar ymateb fy mhlant sydd dan chwech oed.
Efallai byddai plentyn ychydig yn h欧n, yn gwirioni ar y stori a'r syniadaeth, ond roedd y rhai acw yn dueddol o roi'r llyfr oi'r neilltu ac estyn am lyfr arall.