|
Gwraig Orau o'r Gwragedd Adolygiad o Gwraig Orau o'r Gwragedd gan Enid Pierce Roberts. Gwasg Pantycelyn. 拢5
Mae hwn yn llyfr sy'n haeddu gwell. Yn haeddu gwell diwyg a chyflwyniad, a chydag ychydig mwy o luniau a mymryn o ddychymyg gallai fod yn gyfrol hynod o hardd.
Fel ag y mae, gyda'i glawr llipa nid yw ond megis llyfryn bron yn bamffledaidd ei wedd.
Trueni, gan fod y sgerbwd yma ar gyfer cyfrol frasterog - foethus hyd yn oed. Collwyd cyfle.
Uchelgais pob merch Darlunio mae'r gyfrol ffordd o fyw yn Nhrefaldwyn yn ystod y cyfnod cyn y Chwyldro Diwydiannol pan oedd "gwybod sut i gadw ty yn fedrus, yn ddarbodus ac yn llwyddiannus" yn uchelgais pob merch
Achos fel yr eglura'r awdur, "i hynny y magwyd hi ac yr hyfforddwyd hi, hyd yn oed merch o deulu uchelwrol."
Ac erbyn yr oeddan nhw'n 15 oed yr oedd disgwyl iddyn nhw fod yn gwybod sut i wneud pob gwaith ty "ac yn fwy na dim, fedru coginio'n dda."
Un o'r rhai a oedd wedi rhagori yn hyn o beth oedd Merryell Williams, meistres ystad eang Ystumcolwyn gyda thiroedd ym mhlwyfi Meifod, Cegidfa, Lanfechain, Llansan-ffraid a'r Trallwng.
A phan yw'n darlunio Merryell Williams fel gwraig ty mae Enid Pierce Roberts yn golygu llawer iawn mwy na rhywun efo dystar, polish a barclod.
Yr oedd hi'n ferch a allai nid yn unig gadw trefn ar ystad fel hon ond ei rhedeg o ddydd i ddydd.
Treuliodd ei hoes yno ac yno y bu farw 13 Ionawr 1702/3, yn 74 oed.
Tair rhan Rhennir y llyfr yn dair prif ran; y rhan gyntaf yn rhoi'r cefndir i arferion a ffordd y fyw y cyfnod, yr ail ran ym ymwneud a dulliau paratoi a choginio bwyd a'r drydedd ran yn gasgliad eithriadol o ddiddorol o risetiau gan gynnwys rhai meddyginiaethau achos yn y cyfnod hwn yr oedd disgwyl i wraig ty nid yn unig wybod am rinweddau llysiau a phlanhigion ond wybod sut i'w paratoi ar gyfer gwella pob math o anhwylderau.
At bigyn clust y feddyginiaeth fyddai nionyn mewn papur brown wedi ei rostio mewn marwydos gydag olew almonau melys mewn twll yn ei ganol.
"Yna gwasgwch y nionyn drwy liain, cymryd yr hyn a ddaw allan, a rhoi 2 neu 3 diferyn yn y glust ddwywaith."
Mae meddyginiaethau i liniaru'r gowt hefyd, at ffitiau ac "i wneud gwin Saets, sy'n dda iawn at unrhyw wendid yn y gewynnau."
Pethau wrth law Byd felly oedd o gyda'r bobl yn gymharol dlawd yn byw ar "pa nwyddau a chynnyrch oedd wrth law" a chan mai cymdeithas wledig oedd hi gall rhai o'r prydau a ddisgrifir ymddangos fel gwleddoedd i ni heddiw sydd wedi newid ein ffordd o fyw a'r dulliau a ddefnyddir i gynhyrchu bwyd. Un peth arwyddocaol yw mai "cynnych lleol" yn ein ieithwedd fodern ni, oedd yr hyn a fwyteid.
"Hyd yn oed yn y plasau lle'r oedd y gwleddoedd mwyaf moethus, ychydig iawn o ddim a brynid ar wah芒n i winoedd a sbeis, ac yng nghefn gwlad, pysgod m么r. Yr oedd y cyfan bron yn gynnyrch yr ardd, y berllan a'r stad, a'r hyn a gynhyrchid gartref oedd i raddau helaeth yn penderfynu sadon byw."
Un canlyniad i hyn oedd nad oedd dim yn cael ei dyfu na ellid gwneud defnydd ohono.
"Rhoid blodau mewn salad a phastai a photes, a'u taenu ar ac o amgylch ambell saig . . . trochid rhai mewn dwr a siwgr i wneud melysion, a gwneid diodydd o amryw. Defnyddid saffron . . . tansi a phernel i liwio bwyd."
Blawd yn ddrud Camargraff, mae'n ymddangos yw'r syniad o Gymry yn byw ar fwydydd llwy fel uwd a llymru a bara ceirch.
Yn un peth yr oedd blawd yn ddrud a blawd ceirch ymhlith y pethau drutaf.
"Cig oedd y prif fwyd, yr oedd yn rhatach ac yn llawer haws ei gynhyrchu na bara" a dim ond yn ystod y ganrif ddiwethaf y newidiwyd arferion amaethu i godi grawn ac ydau.
"Wrth wneud hyn i gyd collodd llawer o anifeiliaid gwyllt, adar a physgod eu cynefin a'u lloches, ac amddifadwyd llafurwyr cyffredin o gyfran o'u cynhaliaeth."
Cyn hynny, mewn dyddiau pryd na wyddai pobl o ble'r oedd y dorth nesaf yn dod yr oeddynt diolch i Dduw am gwningod.
Paratoi ar gyfer y gaeaf Nid yn unig yr oedd disgwyl i'r gwragedd gorau o'r gwragedd yn nheitl y llyfr baratoi prydau yn eu tymhorau ond hefyd "ddarparu bwyd digonol i'r teulu a'r gwasanaethyddion ar gyfer hirlwm y gaeaf, a chynaeafu llysiau ar gyfer afiechydon, haint ba damweiniau."
"Y mae'n anodd i ni heddiw, sylweddoli'r niferoedd yr oedd rhaid i'r feistres ddarparu ar eu cyfer. Nid yn unig yr oedd teuluoedd yn llawer mwy . . . byddai meibion a merched dibriod yn aros yn y cartref ac weithiau fab a'i wraig a'i deulu . . . a galli fod yno fodrabedd, neiniau a gweddwon . . ."
Ar fferm gweddol fawr dywed y byddai angen tair dafad y dydd a dau fustach yr wythnos i fwydo pawb!
Dyma'r math o wybodaeth ddifyr sy'n gwneud Gwraig prau o'r Gwragedd yn llyfr mor flasus a diau y bydd ambell un yn cael ei demtio i roi cynnig ar ambell un o'r risetiau yna o'r oes o'r blaen.
Ond diau y bydd angen haneru a hyd yn oed chwarteru rhai o'r mesuriadau ar gyfer gofynion heddiw. Er enghraifft mae'r riset "I wneud dwr Oren "yn gofyn am bedwar chwart o frandi" a'r un faint o ddwr!Glyn Evans
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|