|
Angharad Devonald Awdur Graffiti - nofel Chweched Dosbarth
Enw Angharad Devonald
Beth yw eich gwaith? Awdur
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Ysgrifennu dram芒u a sgriptiau yn bennaf, gan gynnwys Not Getting Any, Jarra, Pobol y Cwm, Seren Seibr, The Morals of Modern Day Myths. Ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfres o gart诺ns, Bywyd Cudd Sabrina.
O ble'r ydych chi'n dod? Llantrisant.
Lle'r ydych chin byw yn awr? Caerdydd.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Ar y cyfan. Er tuag at ddiwedd fy ngyrfa ysgol ffindes i unrhyw esgus i beidio mynd. Wedi joio yn y coleg!
Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf? Nofel yn olrhain hanes criw chweched dosbarth wrth iddynt arbrofi, dysgu a datblygu ffyrdd o gynllunio yn erbyn yr athrawon!
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Dyma'r cyntaf.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Anodd dweud, o'n i'n ffan mawr o Roald Dahl. Hefyd Y Wenynen Fach Drachwantus. Roedd gen i ofn y lluniau!
A fyddwch yn edrych arno'n awr? Byddaf o bryd i'w gilydd.
Pwy yw eich hoff awdur? Dim un penodol. Hoffi amrywiaeth, yn dueddol o hoffi pwy bynnag dwi'n darllen ar y pryd! Hoff iawn o ddramodwyr Americanaidd gan gynnwys Tennessee Williams, Arthur Miller, David Mamet ayyb.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Sawl un am resymau gwahanol. The Tin Drum, Anna Karenina, Life of Pi, East of Eden, A Suitable Boy, i enwi ychydig...
Pwy yw eich hoff fardd? Ddim yn darllen lot o farddoniaeth, ond R.S Thomas, Sylvia Plath, Phillip Larkin, Shakespeare, Yates...
Pa un yw eich hoff gerdd? "Let me not to the marriage of true minds admit impediments..." Doeth iawn, a tres rhamantus!
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Do not stand at my grave and weep, I am not there, I do not sleep.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Hoffi ffilmiau gyda straeon! Y Tu Mama Tambien yn ffefryn! Yn hoff iawn o gyfresi cynnar Teachers, E.R a'r anfarwol Little Britain wrth gwrs!
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Hoff gymeriad Blanche DuBois. Cas gymeriad Y Gacynen Ddrwg!
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? S'dim iws codi pais ar 么l piso.
Pa un yw eich hoff air? Ansbaradigaethus, ond anodd iawn ffeindio defnydd cyson.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Gallu arlunio.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Byr, trefnus, hunanol!
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Mwy na digon!
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Dad, am frwydro.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Chwyldro Celfyddydol Paris ddechrau'r ugeinfed Ganrif.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Yn bersonol, Tadcu i glywed y storis! Fel arall Mandela yn sicr yn foi licen i gael sgwrs gyda! Shakespeare yn un arall!
Pa un yw eich hoff daith a pham? Y siwrne rhwng y Maes Awyr a chanol dinas Dulyn. Mae'r daith ei hun yn llwyd a diflas, ond dwi'n gwybod fy mod i ar y ffordd i gwrdd 芒 ffrindiau.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Ffysi iawn gyda mwyd, ond mae cwmni da wastad yn gwella'r blas!
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Darllen, mynychu'r theatr, treulio amser gyda ffrindiau, dysgu Sbaeneg, teithio, nofio ayyb.
Pa un yw eich hoff liw? Coch.
Pa liw yw eich byd? Amryliw, heddi!
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Dwy l么n i gerddwyr ar strydoedd siopa prysur, un i bobl sy'n mynd i rywle a'r llall i bobl sy'n 'crwydro' / stopio'n ddi-rhybudd ayyb.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Dim ar hyn o bryd.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? Amser maith yn 么l... ?! Ddim yn si诺r iawn, yn newydd i'r broses yma!
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|