| |
|
|
|
|
|
|
|
Holi Eigra Lewis Roberts Holi Eigra Lewis Roberts un o brif lenorion Cymru
Enw Eigra Lewis Roberts
Beth yw eich gwaith? Awdur
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Dysgu am gyfnod byr, yng Nghaergybi, Llanrwst a Dolwyddelan.
O ble'r ydych chi'n dod? Blaenau Ffestiniog
Lle'r ydych chi'n byw yn awr? Dolwyddelan
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Ar brydiau, ond mae'r hen air sy'n dweud mai ysgol brofiad yw'r un orau yn ddigon gwir.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano? Yr ysfa sgrifennu sydd bob amser yn rheidrwydd ac yn fwynhad, waeth beth fo'r cyfrwng. Er bod hanes streic Chwarel y Penrhyn, Bethesda (1900-03) wedi ei gofnodi'n fanwl ym mhapurau newydd y cyfnod, nofel, nid dogfen hanesyddol, yw Rhannu'r Ty. Gyda chymdeithas gyfan yn cael ei rhannu, ni all neb sefyll o'r naill du. Mae'n effeithio ar yr oll o'r cymeriadau. Yn y 'rhannu' hwn, gwelir pobl ar eu gorau a'u gwaethaf, yn ceisio ymdopi nid yn unig 芒'r frwydr allanol ond 芒'r frwydr fewnol sy'n bygwth dinistrio gobeithion, perthynas a chyfeillgarwch, am byth.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? BRYNHYFRYD : 1959 Y LLE I MI : 1965 TŶ AR Y GRAIG : 1966 Y DRYCH CREULON : 1968 CUDYNNAU : 1970 DIGON I'R DIWRNOD : 1974 SIWGWR A SBEIS : 1975 BYD O AMSER : 1976 FE DDAW ETO : 1976 MIS O FEHEFIN : 1980 PLENTYN YR HAUL : 1981 MERCH YR ORIAU MAWR : 1981 RHAGOR O LESTRI TE : 1983 HA BACH : 1985 SEREN WIB : 1986 LLYGAD AM LYGAD : 1988 CYMER A FYNNOT : 1988 KATE ROBERTS : 1994 DYDDIADUR ANNE FRANK : 1996 DANT AM DDANT : 1996 RHOI'R BYD YN EI LE : 1999 BLITS : 2002 MORDAITH AR Y TITANIC : 2002
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Llyfr Mawr y Plant a llyfrau Enid Blyton.
A fyddwch yn edrych arno'n awr? Byddaf, weithiau.
Pwy yw eich hoff awdur? Yn Gymraeg, Islwyn Ffowc Elis. Ar hyn o bryd, yn Saesneg, Margaret Forster a William Trevor.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Mae sawl un wedi gwneud argraff ond heb ddylanwadu.
Pwy yw eich hoff fardd? T.H.Parry-Williams, a Gwenallt yn ail agos.
Pa un yw eich hoff gerdd? 'Yr Esgyrn Hyn', T.H.Parry-Williams
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Tybed fy mod i, O Fi fy Hun, Yn myned yn iau wrth fyned yn hyn?
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Ffilmiau : Ryan's Daughter; The Killing of Sister George; The Full Monty Teledu : Fifteen to One; University Challenge; The Premiership ar nos Sadwrn.
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Hoff gymeriad : Rhy niferus i'w henwi. Cas gymeriad : Lora Ffennig yn Y Byw sy'n Cysgu
Pa ddywediad, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? 'Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun?
Pa un yw eich hoff air? Heddwch
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Dawn i greu pethau eraill yn ogystal 芒 llenyddiaeth, a'r gallu i ganu.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Goddefgar; Aflonydd 'Workaholic' (does yna'r un cyfieithiad addas)
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Oes, ond mae'n well gen i ei gadw i mi fy hun.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Iesu Grist, oherwydd ei onestrwydd a'i ddewrder.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Ar hyn o bryd, streic Chwarel y Penrhyn.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Iesu Grist. Sut mae troi'r foch arall?
Pa un yw eich hoff daith a pham? Yn 么l adra, gan mai yno yr ydw i eisiau bod.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd. Tatws wedi'u ffrio, wy a betys.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Darllen, arlunio, chwarae Scrabble ar y cyfrifiadur a siarad efo'r wyrion.
Pa un yw eich hoff liw? Yn amrywio yn 么l yr hwyl.
Pa liw yw eich byd? Amrywiol iawn.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Deddf fyddai'n sicrhau dyfodol Cymru a'r iaith Gymraeg.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Oes, mwy nag un.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall? 'Os am wybod pa mor bwysig ydych i'r byd, rhowch eich bys mewn pwll o ddwr a'i dynnu allan. A yw'r twll yn dal yno?' (Cyfieithiad o ddyfyniad yn un o gyfrolau hunangofiannol Maya Angelou)
i ddarllen am Rhannu'r Ty
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|