| |
|
|
|
|
|
|
|
Holi Geraint Lewis Geraint Lewis, nofelydd a dramodydd yn ateb cwestiynau Llais Ll锚n
Eich Enw? Geraint Lewis
Beth yw eich gwaith? Ysgrifennwr
O ble'r ydych chi'n dod? Tregaron
Lle'r ydych chi'n byw yn awr? Caerdydd
Pam sgrifennu llyfr? Mae'n rhywbeth gymharol newydd i mi sgrifennu llyfrau. Wy'n mwynhau'r cynfas eang sydd gyda chi mewn ffurf fel y nofel a'r rhyddid sydd gyda chi i sgrifennu yr hyn ry'ch chi wir moyn o'i gymharu a'r byd teledu sydd, yn ei hanfod, yn fwy o waith tim.
Dwedwch rywbeth am eich llyfr diweddara? Mae Daw Eto Haul yn nofel gyfoes am flwyddyn ym mywyd Bryn James ym mhrifddinas ei wlad. Cymro yn tynnu tua'r deugain yw Bryn ac mae e wedi cyrraedd rhyw fath o drobwynt yn ei fywyd. Mae'n gweithio fel ecstra ac fel traethydd y stori mae ganddo ryw hiwmor sych (gobeithio).
Pwy yw eich hoff awdur? Yn y Gymraeg, Wiliam Owen Roberts, yn y Saesneg Jonathan Coe.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Cofio darllen Dyddiadur Dyn Dwad (gan Dafydd Huws) yn fy arddegau a gweld bod hi'n bosib bod yn ddoniol iawn yn y Gymraeg.
Pwy yw eich hoff fardd? Dylan Thomas (er gwaethaf heip y diwydiant twristiaeth sydd wedi ei herwgipio bron)
Pa un yw eich hoff gerdd? Fern Hill gan Dylan Thomas. Er ei bod hi yn Saesneg ei hiaith, mae'n gerdd sy'n fy atgoffa o'm mhlentyndod gwledig yng Ngheredigon.
Pa un yw eich hoff ffilm? Wy'n ffan mawr o ffilmiau The Godfather Francis Ford Copolla ac hefyd ei Apocolypse Now Yn fwy diweddar cefais flas ar ffilm o'r Almaen o'r enw Goodbye Lenin oedd yn delio 芒 phwnc dwys (cwymp Wal Berlin) mewn ffordd ddoniol a chrafog.
Pa un yw eich hoff raglen deledu? Unrhyw b锚l-droed neu rygbi byw.
Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf at y gwir? Deuparth gwaith yw ei ddechrau.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n bwriadu bod yn awdur? Dal ati.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Y ddawn i redeg am rai milltiroedd heb deimlo'n stiff y diwrnod canlynol.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Prysur Mympwyol Obsesiynol
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Martin Luther King, am ei ddewrder a'i weledigaeth.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi'n hoffi bod yn rhan ohono? Darganfod ymbelydredd ond heb farw o'r sgil-effeithiau fel y gwnaeth Marie Curie druan. Cofio gweld y gyfres ddrama amdani ar y 大象传媒 gyda Jane Lappatoire yn chwarae Marie a chael fy swyno'n llwyr.
Pa un yw eich hoff daith a pham? Rhedeg wrth ymyl yr afon Taf yng Nghaerdydd, am ei fod yn medru bod yn brofiad gwledig a dinesig ar yr un pryd.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Pasta, yn enwedig gyda saws Puttenesca.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Cerdded, rhedeg, mynd i'r sinema neu i'r theatr, gwylio t卯m p锚l-droed Caerdydd.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Oes, nofel arall ond mae'n ddyddiau cynnar eto. Wy hefyd yn gweithio ar ddrama lwyfan, gwaith comisiwn gan Sgript Cymru a'r Coleg Cerdd Drama yng Nghaerdydd, i'w pherfformio yn Ionawr 2005.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|