|
Gary Slaymaker Awdur Y Sach Winwns
Enw? Gary Slaymaker
Beth yw eich gwaith? Cyflwynydd, adolygwr... oh ie, ac awdur.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Labro, barman, bownsar, clerc, siop fidio, siop gomics...a sawl jobyn "dodgy" i ennill ceiniog neu ddwy.
O ble'r ydych chi'n dod? Cwmann, ger Llanbedr Pont Steffan
Lle'r ydych chin byw yn awr? I loves Kairdiff, me.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Blydi hel, naddo!!
Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf? Cyfuniad o b锚l-droed a hud a lledrith Affrica...ac yn fwy doniol na Cysgod y Cryman ('jyst abowt').
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Hon yw'r nofel gynta - rwy'n wyryf llenyddol.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Hanesion T. Llew Jones am Twm Sion Cati (Y Ffordd Beryglus, Dial o'r Diwedd etc.)
A fyddwch yn edrych arno'n awr? Dim ers rhyw ddwy flynedd...ond mae'n hen bryd agor y cloriau eto.
Pwy yw eich hoff awdur? Joe R Lansdale - brodor o ddwyrain Texas sy'n athrylith ym maes arswyd, cowboi, a "pulp noir".
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Fear & Loathing in Las Vegas gan Hunter S Thompson (hedd i'w lwch..y loony talentog ag e).
Pwy yw eich hoff fardd? Fear & Loathing in Las Vegas gan Hunter S Thompson (hedd i'w lwch..y loony talentog ag e)
Pa un yw eich hoff gerdd? Bodnant. Oh sori, gerdd...dim gardd. Uh....pass!
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? O rhyfeddodau mawr y byd, y mywaf ydyw hwn; paham ma mul yn cachu'n sgwar a'i dwll ei din e'n grwn (Pontshan).
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? The Italian Job (1969) a WWE Raw - ond gewch chi ateb gwahanol wythnos nesa, wy'n siwr.
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Repairman Jack yn nofelau F Paul Wilson ...a Bridget b.... Jones (hen horwth grintachllyd).
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Paid pechu neb ar y ffordd lan, achos fyddi di'n cwrdda nhw 'to ar y ffordd lawr ( un i'r cyfryngis).
Pa un yw eich hoff air? Hemo (term gorllewinol am ddyrnu rhywun e.e "Weles di Gwyn a Dai nithwr? O nhw'n hemo'i gilydd yn sensles").
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Y ddawn i dorri calonnau.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Alla'i neud e mewn 2 air - trysor...cenedlaethol.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Weithie wy'n teimlo bo fi bach yn RHY berffaith.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Muhammad Ali: athletwr, diddanwr, gwleidydd, llysgennad ac eicon.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Brwydyr yr Alamo: i gael ymladd ochor yn ochor 'da Davey Crockett a Jim Bowie.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Y Brenin Harold (nath golli ei goron i Wiliam y Concrerwr). Wy'm ishe gofyn dim byd, jyst gweiddi Duck!
Pa un yw eich hoff daith a pham? O'n sedd, i'r bar, ac yn 么l i'r sedd...os ishe gofyn pam?
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Os nag i chi erioed wedi cal 'asado' traddodiadol ym Mhatagonia, chi'm yn gwbod beth yw byta...bendigedig.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Darllen, gwylio chwaraeon, cerdded, ffilmiau (odi mae e'n hobi hefyd), a blasu gwin - wy'm yn arbenigwr cofiwch, ond alla'i gladdu pedair botel mewn noson yn ddigon rhwydd.
Pa un yw eich hoff liw? Glas (yn enwedig lliw glas Cardiff City FC).
Pa liw yw eich byd? Du a gwyn...s'dim lle am unrhyw lwydni yn fy myd bach i.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? I ni ffili hela cadnoid bellach, wedyn deddf i adael i ni hela "chavs"...achos fydde bobol ddinesig yn gallu cymryd rhan wedyn.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Croesi bysedd ar hyn o bryd...ma 'na driniaeth wedi ei ddanfon gerbron y cyngor llyfrau; wedyn cawn weld.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? "Tynna dy ddilad Miriam, ma' 'da fi gythrel o syrpreis i ti fan hyn" Heb feddwl am y linell nesa, ond wy'n 'excited' wyllt yn barod!
Cysylltiadau Perthnasol
Mwy am Gary
Adolygiad Y Sach Winwns
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|