| |
|
|
|
|
|
|
|
Medi 2007 Rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o'r llyfrau sy'n gwerthu orau
Yn amlwg mae Gwasg Carreg Gwalch wedi taro ar wyth茂en boblogaidd iawn gyda'r trydydd yn awr o lyfrau natur wedi ei gyhoeddi mewn cysylltiad 芒 Iolo Williams.
Eisoes cyhoeddwyd gydag ef addasiad Cymraeg o un o'r llyfrau poced gorau sydd ar gael am adar a thoc wedyn cyhoeddwyd un arall tebyg am flodau gwylltion.
Yn awr, mae Llyfr Natur Iolo yn cwmpasu nid yn unig y ddau faes hwnnw ond holl gwmpas byd natur o drychfilod i famaliaid ac o goedydd i frwyn a glaswellt!
Y cyfan wedi ei argraffu ar bapur sglein gyda lluniau o'r radd flaenaf a chwta dwy neu dair brawddeg o eglurhad cryno am bopeth a ddarlunnir.
"Dyma hoff lyfr natur Iolo Williams a'i ddewis personol ef ar gyfer ei addasu i'r Gymraeg," meddir ar y clawr ac er yn 拢14.50 bydd yn si诺r o dderbyniad gwresog. Mae eisoes ar ben rhestr werthu y Cyngor Llyfrau ar gyfer Medi.
Cyfres newydd sydd i'w gweld am y tro cyntaf yw un ddeniadol dros ben o fonograffau gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion.
Awdur monograff am Rhy Gethin, un o gadfridogion Glynd诺r ydi Cledwyn Fychan ac y mae Dylan Iorwerth yn olrhain hanes y cymeriad rhyfeddol, John Griffith 'Y Gohebydd'.
O argraffiad cain mae'n amlwg fod llygad y cyhoeddwyr ar gasglwyr cyfresi.
A chan bori yn yr un tir mae'r wasg yn cyhoeddi llyfr gan E Wyn James yn trafod agweddau ar y portread o Owain Glynd诺r yn llenyddiaeth y cyfnod modern - Glynd诺r a Gobaith y Genedl
A chan Wasg Gomer mae cyfrol am Lynd诺r yn y gyfres Cip ar Gymru yn wythfed ar y rhestr.
Dyma'r rhestr gyflawn o werthwyr Medi:
1. Llyfr Natur Iolo, Paul Sterry. Addasiad Iolo Williams a Bethan Wyn Jones.
(Gwasg Carreg Gwalch) 9781845271312 拢14.50
2. Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor Pws, Dewi Pws Morris
(Y Lolfa) 9780862439972 拢3.95
3. Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor Pontsh芒n, Eirwyn Pontsh芒n
(Y Lolfa) 9780862439767 拢3.95
4. Pwy oedd Rhys Gethin? Yr Ymchwil am Gadfridog Owain Glynd诺r, Cledwyn Fychan
(Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120580 拢6.99
5. Gohebydd yng Ngheredigion yn Ystod y Flwyddyn Fawr - Hanes John Griffith (Y Gohebydd) ac Etholiad 1868, Dylan Iorwerth
(Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120573 拢6.99
6. Rhoi Cymru'n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru, Richard Wyn Jones
(Gwasg Prifysgol Cymru) 9780708317563 拢18.99
7. Glynd诺r a Gobaith y Genedl: Agweddau ar y Portread o Owain Glynd诺r yn Llenyddiaeth y Cyfnod Modern, E. Wyn James
(Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120641 拢9.99
8. Cyfres Cip ar Gymru / Wonder Wales: Owain Glynd诺r, Aeres Twigg
(Gwasg Gomer) 9781859029046 拢2.99
9. Lle i Enaid Gael Llonydd ... ?, Robert M. Morris
(Clwb y Bont) 8888048596 拢4.00
10. Codi'r Cwpan
(Cyhoeddiadau'r Gair) 9781859945872 拢0.99
LLYFRAU PLANT
1. Dot-i-Ddot Deinosoriaid, Karen Bryant-Mole
(Dref Wen) 9781855967526 拢3.99
2. Dot-i-Ddot Byd Natur, Karen Bryant-Mole
(Dref Wen) 9781855967533 拢3.99
3. Un Noson Oer, M. Christina Butler
(Gwasg Gomer) 9781843238089 拢4.99
4. Tractors Gwych!, Dawn Sirett
(Dref Wen) 9781855967755 拢7.99
5. Hwyl M么r-Ladron: Pethau i'w Gwneud, Rebecca Gilpin
(Dref Wen) 9781855967557 拢4.99
6. Owain yn Mynd i'r Ysgol, Ian Whybrow
(Gwasg Gomer) 9781843238539 拢4.99
7. Llyfrau Poced: Tomos a'i Ffrindiau: Persi'n Chwarae Triciau
(Dref Wen) 9781855967700 拢4.99
8. Siwan yn Mynd i Sglefrio, Ian Whybrow
(Gwasg Gomer) 9781843238096 拢4.99
9. Elfed a'r Enfys, David McKee
(Dref Wen) 9781855967663 拢4.99
10. Olion yn yr Eira, Mei Matsuoka
(Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120658 拢5.99
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|