|
|
Yr
hangofyrs
gorau erioed!
Mynd amdani'n llwyddiannus efo
merched tynnu rhaff
Gorffennaf 2003
|
Dal Hi! gan Caryl Lewis. Lolfa.
Adolygiad gan Elin Meredith
Mae hi bron yn amhosib peidio 芒 chymharu Dal Hi! gyda mam chic-lit
Cymraeg diweddar, sef Amdani! gan Bethan Gwanas.
Mae'r naill yn darlunio criw o ferched o gymuned wledig yn y de yn
tynnu rhaff a'r llall yn disgrifio criw o ferched o gymuned wledig
yn y gogledd yn chwarae rygbi.
Gyda'r ddwy nofel 芒'u teitlau ebychol yn dilyn hynt a helynt merched
sy'n chwarae'n galed ar y cae ac oddi ar y cae, mae'r fformiwla yn
debyg iawn.
Ei llais ei hun
Ond wedi dweud hynny, mae gan Caryl Lewis ei llais clir ac unigryw
ei hun, yn arbennig yn ei deialog a'i disgrifiadau .
Mae yma ymdrech fwriadol i ddefnyddio tafodiaith, bratiaith a rhegfeydd
sy'n swnio'n hollol naturiol. Er nad oes neb lawer yn s么n am ladettes
y dyddiau yma - nofel am ladettes Cymraeg ydi hi.
Darlunio sleisen o fywyd merch ifanc sydd yn y limbo hwnnw rhwng gadael
coleg a gorfod penderfynu beth i'w wneud efo'i bywyd mae hi.
Genod cefn gwlad
Heledd ydy'r prif gymeriad. Mae hi'n byw adre ar fferm ei rhieni,
led cae oddi wrth ei ffrind gorau, Nerys, a fwy a mwy hyd braich oddi
wrth ei chariad, Si么n.
Rydyn ni'n cael darlun o griw o genod cefn gwlad yn stryffaglu drwy
garwriaethau bl锚r, nosweithiau meddw, dewisiadau anodd a sefyllfaoedd
caled a hwyl gwaith t卯m gan fod yn driw i'w gilydd drwy'r cyfan.
Mi gawn ni'r melys a'r chwerw efo sleisen iach o hiwmor, pinsied bach
o drasiedi a joch go dda o gariad at ffrindiau, teulu a bro.
O, a fersiwn Ceredigion o Mr D'Arcy i gadw'r diddordeb rhywiol.
A diolch byth am hynny gan mai ychydig iawn o bynciau sy'n llai rhywiol
na thynnu rhaff ond o leiaf mae'n ffordd effeithiol o gysylltu'r cymeriadau,
yn llythrennol a throsiadol, efo'i gilydd.
Geiriau soniarus
Roedd dau o'r cymeriadau yn neidio allan imi - Les yr hyfforddwr caled
a mam barablus Heledd.
Mae'r fam yn defnyddio geiriau fel "sachabwndi" ac yn dannod bod gwallt
ei merch yn gwneud iddi edrych fel coeden fale.
Mae'r dafodiaith yn gallu bod yn soniarus iawn, hyd yn oed os ydych
chi'n hen 'og' sydd ddim yn deall bob gair, bob tro.
Dau gymeriad sy'n gwneud ichi feddwl eu bod wedi eu seilio ar bobl
mae'r awdur yn eu hadnabod.
Llifo a bownsio
Mae'r sgwrsio'n llifo ac yn bownsio a'r disgrifiadau o ddeffro efo
hangofyr ymysg y gore rydw wedi eu darllen erioed!
Hefyd, mae'r defnydd o negeseuon testun yn effeithiol a chyfoes gan
ddweud llawer mewn ychydig eiriau a fyddai fel arall wedi gofyn am
baragraffau hir.
Mae hi'n nofel sy'n addo rhialtwch, sbort ac ychydig o hanci-panci
ond ar y cyfan mae hi'n eitha difrifol. Does dim modd osgoi'r gymhariaeth
ag Amdani! ond mae hi'n llwyddo i ddal ei thir 'run fath.
Dal Hi!
|
|
|