|
|
'Maen
ddirgelwch!'
Golwg newydd ar neges carreg fedd Llangadwaladr
Ebrill 2003 |
Whispering Reeds, o waith Charles Thomas, gan Oxbow Books. 拢12.95.
Adolygiad gan Gwyn Griffiths
Ar fur gogleddol corff eglwys Llangadwaladr ar arfordir de-orllewin
Ynys M么n mae carreg fedd ac arni arysgrifen Ladin hynod glodforus
o'r brenin Cadfan (brenin Gwynedd rhwng oddeutu 614 a 628,gyd a'i
lys yn Aberffraw ychydig filltiroedd i fyny'r hewl).
Cyfeirir
at y garreg yn llyfr John Davies ar Hanes Cymru lle mae'n casglu fel
y gwnaeth eraill o'i flaen fod yn rhaid bod Cadfan
yn dipyn o ddyn i haeddu'r fath glod ag sydd ar y maen.
Ond dydi awdur llyfr newydd ddim mor siwr. Yn Whispering Reeds
dywed archeaolegydd o Gernyw, Charles Thomas, fod i'r arysgrifen
ensyniadau cudd sy'n bwrw'r sen mwyaf ar goffadwriaeth y brenin.
Yn wir, o dderbyn ymresymu rhyfeddol Charles Thomas, mae'r arysgrifen
yn ymylu ar fod yn bornograffi!
Hynafol a charbwl
Mae ffurf y llythrennau yn hynafol - carbwl hyd yn oed - ond yn 么l
y ditectif geiriau o Gernyw, mae i hynny, hyd yn oed, arwyddoc芒d.
Dyma ddywed yr ysgrifen ar y garreg:
CATAMANUS
REXSAPIENTISI
MUSOPINATISM
USOMNIUMREG
UM
Wrth y geiriau naddwyd croes a honno wedi ei gosod ar ei hochr.
Mae'r geiriau wedi eu torri mewn ffordd sy'n awgrymu hwyrach fod y
naddwr bron yn anllythrennog ac yn dilyn rhywbeth a roddwyd iddo i'w
gopio gan rywun arall.
Y mae hyn oll yn rhywbeth a ddyfalwyd cyn diddordeb Charles Thomas
bu Syr Ifor Williams a Nash Williams yn crafu eu pennau am y garreg
gyda Syr Ifor yn methu deall y cam sillafiad Catamanus.
I wneud synnwyr ohonynt, fodd bynnag, rhaid torri'r geiriau fel hyn:
CATAMANUS REX SAPIENTISIMUS OPINATISIMUS OMNIUM REGUM.
Sef yn llythrennol: Catamanus (Cadfan) Frenin, doethaf ac enwocaf
o'r holl frenhinoedd.
Y bumed a'r wythfed ganrif
Yn 么l Charles Thomas mae cerrig o'r fath, gydag arysgrifen Lladin
bron yn ddieithriad yn dyddio o'r cyfnod rhwng y bumed a'r wythfed
ganrif OC ac yn gyffredin yn Iwerddon ac gorllewin Prydain.
Yr hyn sy'n anghyffredin am y garreg arbennig hon, meddai, yw ardderchogrwydd
y disgrifiad o frenin cymharol ddi-nod.
Yn 么l Thomas mae'r ffurf Ladin o Cadfan a ddefnyddir - CATAMANUS -
yn anghywir. Gellid disgwyl CATUMANUS, CATUMANDUS neu hyd yn oed CATUMANNUS.
Mae
o'n gweld arwyddocad arbennig i hyn o safbwynt dehongli'r ysgrifen
a thorri c么d y mae o'n gredu sydd ynghudd yn y llythrennau.
Rhaid darllen y llyfr i ddeall yn union ei ddadansoddiad cymhleth.
Digon yw dweud yma fod Thomas yn gweld, o edrych ar y garreg o'r ochr
dde tuag at y groes amlinell ffalig ei natur o ddyn -gyda'r groes
ei hun yn ben iddo.
Haws gweld hyn o droi'r llun ar ei draed fel petai.
Mae'r llythyren A ddwywaith wedi ei thorri'n anghelfydd yn debyg i'r
gwagle ym mhelfis y corff ac yn y lle cywir, meddai.
O ail osod y llythrennau mewn pedair llinell gyflawn mae o'n cael:
C A T A M A N U S R E X
S A P I E N T I S I M U
S O P I N A T I S I M U
S O M N I U M R E G U M
O gysylltu'r llythrennau sydd yr un fath ceir darlun arall nad yw
gweddustra'n caniatau ei ddatgelu nac ymhelaethu arno yma - digon
yw dweud ei fod yn ffurf soffistigedig iawn o'r math o b么s a geir
yn gyffredin mewn llyfrau posau.
Ffantasiol?
Mae'r cyd-ddigwyddiadau'n llawer rhy niferus i'w hanwybyddu yn 么l
Charles Thomas - sy'n arbenigwr ar archaeoleg a hanes y cyfnod Cristnogol
cynnar ac yn gyn-Athro Astudiaethau Cernywaidd ym Mhrifysgol Caerwysg
(Exeter).
Rhywiol a thwp
Heb ymhelaethu, felly, beth yw'r neges gudd mae o'n ei gweld yn ysgrifen
y garreg? Wel, fod Cadfan yn berson o archwaeth rywiol anghyffredin,
yn hoff fenywod a bechgyn; a'i fod cyn dwped ac mor ystyfnig ag asyn.
Ac yn 么l Thomas llwyddodd y sawl 芒 luniodd y garreg i guddio ei enw
ei hun ymhlith y llythrennau.
Drwy weithio tuag at yn 么l o ddiwedd yr arysgrif a nodi'r seithfed
llythyren bob tro, canfyddir yr enw Issiu a oedd yn esgob o
Wyddel a gysylltir ag eglwys Patrishow ym Mannau Brycheiniog.
Yn Llyfr Llandaf yr enw oedd Merthir Issiu!
Dywed Charles Thomas na fuasai Issiu wedi adnabod Cadfan ond bu yn
llys Brenhinoedd Gwynedd yng nghyfnod ei fab Cadwallon a'i wyr Cadwaladr.
Dyfelir mai ar gais Cadwallon y bu iddo lunio arysgrif i'w gosod dros
weddillion Cadfan. Maentumia Thomas mai Issiu ei hun a dorrodd y llythrennau
"carbwl" ar y garreg.
Egluro pam
Ond pam? Nid yw Charles Thomas yn gwneud unrhyw ymdrech i gynnig rheswm.
Rhoddaf gynnig arni. Yn dilyn cyfnod cymharol heddychlon Cadfan cododd
Cadwallon yn erbyn Edwin, brenin y Saeson, a chyda cymorth Penda,
brenin Mersia, adenillodd diroedd Northumbria i'r Cymry am flwyddyn.
Doedd Penda ddim yn Gristion ac er bod Cadwallon yn proffesu bod yn
Gristion, yn 么l y croniclwr gwrth-Gymreig hwnnw, Beda, nid oedd yn
ddim amgen na anwariad.
Lladdwyd Cadwallon yn fuan wedyn gan Oswald yn 634. Roedd Oswald wedi
teulio cyfnod yn alltud yn Iwerddon a chan y mynaich yno y cafodd
ei addysgu yn y ffydd Gristnogol. Yn wir, wedi iddo ddod yn frenin
anfonodd am fynaich o Iwerddon i ddod i addysgu'r Saeson.
Ymddengys, felly, y bu i Gadwallon yn ystod ei deyrnasiad,
gydweithio gyda'r pagan Penda, tra roedd Saeson eraill yn gyfeillgar
gyda'r Gwyddelod.
Hwyrach y buasai hynny'n egluro atgasedd Issiu tuag at Gadwallon -
atgasedd a fynegodd ar y garreg yn eglwys hynafol Llangadwaladr.
Eglwys Llangadwaladr
|
|
|