|
|
Tanio'r
llosgfynydd
Cynhyrchiad newydd yn arwyddbost i'r dyfodol
Ebrill 2004
|
Yn
Debyg Iawn i Ti a Fi
Cynhyrchiad cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru
Adolygiad gan Jon Gower
Ewch hefyd i ddarllen am
Yr ymateb
i'r noson gyntaf
Meddai Jon Gower:
Mae 'na rywbeth folcanig am waith Meic Povey - tensiynau a chyfrinachau'n
ffrwtian fel lafa dan yr wyneb, yn mud-ferwi nes bo pethau'n rili
chwythu'i fyny.
Yn ei ddrama, Yn Debyg Iawn i Ti a Fi mae teulu'n dod at ei
gilydd ar ôl claddu'r fam a'r broblem fawr i'w datrys yw pwy sy'n
mynd i edrych ar ôl y mab sy'n dioddef o sgitsoffrenia.
Bydd y mynydd yn chwythu, sdim dowt am hynny…
Yn nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru roedd yr actorion yn chwarae
cyn dynned ag unrhyw bedwarawd llinynnol.
Pitsio'n berffaith
Glyn Pritchard oedd yn chwarae'r anffodusyn, Derec, gan smocio, neu
o leia danio sigarets yn ddiddiwedd.
Gallai
fod wedi hawlio pob golygfa gan efelychu Dustin Hoffman yn Rainman
ond roedd Glyn Pritchard wedi pitsio'r rhan yn berffaith, yn stumio
heb ddwyn y sylw.
Doedd ei chwaer Olwen (Gwenno Hodgkins) heb fod i'w weld ers hydoedd
a dim lle yn ei bywyd dosbarth canol ar y Wirral i frawd sy'n llenwi
ei drôns a hithau bron wedi ei pharlysu gan y ddilema.
Dynes oer, nid o ran natur ond o ran dosbarth - sy'n medru bod yn
waeth.
Portread cyhyrog
Roedd y brawd arall, Glyn (Bryn Fon) wedi dewis aros ym mro ei febyd
a'i rwystredigaethau a'i genfigen wedi creu dyn tanllyd, treisgar.
Cafwyd portread cyhyrog o ddyn sy'n eitha sâl ei feddwl ynddo ef ei
hun.
Mae ei wraig, Elin, yn glwtyn llawr a Siw Hughes yn ei chwarae hi'n
angylaidd o oddefgar.
Marciau llawn i Cefin Roberts, y cyfarwyddwr artistig hefyd am greu
noson wirioneddol theatrig gan ychwanegu at dduwch y sgwennu.
Rhythmau a sain
Cadwodd rythmau'r ddrama yn fyw a gwneud yn hollol siwr fod y gynulleidfa'n
cael noson bleserus o anghysurus wrth weld pob peth ym mynd ar chwâl
yn yr hen dy Cymreig ar lethr mynydd.
Roedd yr effeithiau sain a'r defnydd o gorws i gyfleu y lleisiau ym
mhen Derec yn hynod effeithiol a'r set ei hun - wedi ei ysbrydoli
gan un o fythynnod Mynydd Llandygai yn ychwanegu at glawstroffobia'r
sefyllfa.
Arwyddbost
Nid noson gyntaf gyffredin mo hon ond yn hytrach rhyw fath o arwyddbost
at ddyfodol cwmni cenedlaethol newydd.
Fel un sydd wedi ei sbwylio gan bethau gwych ar lwyfan eleni - Eugene
Onegin y Cwmni Opera Cenedlaethol a Brian Wilson yn perfformio'r
albwm cudd Smile mae'n rhaid dweud fod y cynhyrchiad hwm yn
brofiad llawn cystal.
Byddaf yn mynd i weld Ti a Fi eto yn ystod ei thaith, sy'n
gymeradwyaeth ynddi'i hun.
Gweddill y daith:
Theatr Torch, Aberdaugleddau - Ebrill 29 - Mai 1
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth - Mai 6-7
Theatr Taliesin, Abertawe - Mai 13 - 15
Theatr Gwynedd, Bangor - Mai 20 - 22
Theatr Sherman, Caerdydd - Mai 27 - 29
Ymateb i'r
noson gyntaf
|
|
|