|
|
Cychwyn
oedd
yn plesio
Ymateb da i gynhyrchiad cyntaf cwmni newydd
Ebrill 2004
|
Yn
Debyg Iawn i Ti a Fi
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru
Ymateb i'r noson gyntaf
Gweler hefyd -
Adolygiad
gan Jon Gower
Yr oedd y bodlonrwydd yn amlwg ar wynebau criw cwmni newydd Theatr
Genedlaethol Cymru yn dilyn eu perfformiad cyntaf un.
Nid yn unig cafwyd cynulleidfa deilwng o ran nifer ym mhrif awditoriwm
Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug ond yr oedd hi hefyd yn gynulleidfa hynod
werthfawrogol.
Ac wedi'r perfformiad dywedodd Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, Cefin
Roberts, iddo yntau gael ei blesio'n fawr gan yr ymateb a'r perfformiad
ei hun.
"Mae'r actorion wedi rhoi y perfformiad oeddwn i eisiau," meddai.
Ac o holi rhai o'r gynulleidfa wrth iddi adael y theatr prin iawn
oedd y feirniadaeth o'r cynhyrchiad o ddrama ysgytwol Meic Povey,
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi, yn darlunio cyflwr teulu y mae un
aelod yn sgitsoffrenig.
Nodedig
Yr oedd cytundeb cyffredinol inni gael perfformiadau nodedig gan Glyn
Pritchard fel Derec y sgitsoffrenig a Bryn Fon fel Glyn, y brawd y
mae Derec yn byw gydag ef a'i wraig, Elin (Siw Hughes).
Yr unig gymeriad arall oedd Olwen (Gwenno Elis Hodgkins), chwaer Derec
a Glyn, sydd yno o Loegr ar gyfer cynhebrwng eu mam ac i benderfynu
beth fydd tynged Derec yn awr bod Mam wedi mynd.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gynyrchiadau Cymraeg yn Theatr Clwyd llwyddodd
Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru i ddwyn persw芒d i lwyfannu Yn Debyg
Iawn i Ti a Fi yn y brif theatr yn hytrach nag yn Theatr Emlyn
Williams, llawer iawn llai, ac yr oedd y rhan fwyaf o'r seddau wedi
eu gwerthu ar gyfer y noson agoriadol gyda dros 400 o docynnau wedi
mynd ymlaen llaw.
Chwyddwyd yr elfen ifanc yn y gynulleidfa gan lond bws o fyfyrwyr
ysgol berfformio, Ysgol Glanaethwy ger Bangor.
"Yr oeddem yn awyddus fod cynhyrchiad cyntaf y cwmni ar brif lwyfan
er mwyn delwedd y cwmni fel y prif gwmni cenedlaethol," meddai John
Gwynedd Jones, rheolwr cyffredinol y cwmni newydd.
Yn ystod, ac wedi'r perfformiad, yr oedd ymateb y gynulleidfa yn frwd
i ddrama sy'n sicr a llithrig ei deialog a chydag elfennau cynhyrchu
oedd yn plesio gan gynnwys set drawiadol gan Setfree.
Cychwyn calonogol
Heb amheuaeth, bu'n gychwyn calonogol i'r cwmni newydd ac yn arwydd
o'r safon y gall cynulleidfaoedd ei disgwyl yn y dyfodol.
"Hwn oedd fy nghynhyrchiad i ac yr oedd yr actorion wedi rhoi y perfformiad
oeddwn i eisiau ac mi rydw i'n ddiolchgar iddyn nhw am wneud hynny
mor dda ac mor sensitif," meddai Cefin Roberts wrth dalu teyrnged
i'r actorion pan yn siarad am ei gynhyrchiad gyda 大象传媒 Cymru'r Byd
yn syth wedi perfformiad.
"Os nad yw'r genedl eisiau y cynhyrchiad hwn fyddan nhw ddim
eisiau dim byd gen i," ychwanegodd.
Dywedodd
na fu'n anodd dewis y ddrama arbennig hon ar gyfer eu cynhyrchiad
cyntaf.
"Yr oedd yn hawdd, oherwydd mae'n chwip o ddrama - yn ddrama rymus,"
meddai gan gyfeirio'n arbennig at yr her yr oedd yn ei chynnig i actorion
a chynulleidfa.
"Yr oedd yn her inni gyd - ac mae hynny'n well na bod yn rhy s芒ff
- ac fe gymerodd yr actorion yr her ac mae hynny gymaint gwell na
chynnig rhywbeth hawdd dygymod 芒 fo," meddai.
Canmoliaeth seiciatrydd
Hyd yn oed cyn y perfformiad yr oedd y ddrama wedi ennill cymeradwyaeth
un o seiciatryddion amlycaf Cymru, y Dr Dafydd Alun Jones.
Ond yn ogystal 芒 chanmol y portread o'r claf ei hun canmolodd hefyd
y modd y creodd Meic Povey y cymeriadau eraill:
"Sylweddolais fod yr awdur hefyd yn dangos agweddau o bersonoliaeth
a meddwl y tri chymeriad arall, sy'n dangos mor agos at ffin yr abnormal
y maent hwythau hefyd yn medru bod," meddai yn rhaglen y cynhyrchiad.
Yr oedd hynny yn arbennig o wir am Glyn gyda pherfformiad Bryn Fon
yn gymysgedd iasol o'r teimladwy a'r sinistr.
"Nodwedd o sgitsoffrenia ydi'r ymddatod sy'n digwydd yng nghlymau
a rhediad y meddwl, a'r llacio yn y gafael ar realiti. Mae'r ddrama
hon yn dangos mor agos, o'r ochor arall, ydi'r cymeriadau eraill hefyd
at y ffin honno," meddai Dr Dafydd Alun Jones.
Denu pobl yn 么l
Dyna felly, gychwyn taith i ddenu cynulleidfaoedd yn 么l theatrau Cymru.
"Does dim dwywaith fod yna drai wedi bod ar gynulleidfaoedd y Theatr
Gymraeg yn ystod y 1990au, ond mae sawl arwydd fod pethau'n gwella,
rydym yn hyderus y bydd y cwmni'n gallu cryfhau'r don ddiweddaraf
sydd eisoes wedi troi'r trai yn llanw pendant, ac elwa ar y profiad,"
meddai Cefin Roberts gan ychwanegu mai'r her fydd cynnig amrywiaeth
o theatr o safon yn ei holl amrywiaeth.
"Beth bynnag fo'r arddull, ein nod yw ymgyrraedd at y safon uchaf
posib gyda rhaglen mor amrywiol a phosib.
Addawodd hefyd wrando ar farn cynulleidfaoedd:
"Mae gan y gynulleidfa lais hefyd, wrth gwrs, a'n gwaith ni fydd rhoi
clust i'r farn honno, beth bynnag y bo," meddai.
Gweddill y daith:
Theatr Torch, Aberdaugleddau - Ebrill 29 - Mai 1
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth - Mai 6-7
Theatr Taliesin, Abertawe - Mai 13 - 15
Theatr Gwynedd, Bangor - Mai 20 - 22
Theatr Sherman, Caerdydd - Mai 27 - 29
Adolygiad
gan Jon Gower
|
|
|