21 Ionawr 2010
Mae diwrnod y cariadon yn cael ei ddathlu yng Nghymru ar Ionawr 25, sef Dydd Santes Dwynwen, sy'n cyfateb i 诺yl San Ffolant a ddethlir ar Chwefror 14.
Yn 么l yr hanes, roedd Dwynwen yn byw yn y bumed ganrif yn un o ferched prydferthaf y brenin Brychan Brycheiniog. Mae sawl fersiwn o'r stori sy'n egluro sut y daeth Dwynwen yn nawddsant cariadon Cymru.
Yn y fersiwn fwyaf cyffredin mae Dwynwen yn syrthio mewn cariad 芒 Maelon Dafodrill ond mae ei thad eisoes wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Mae Maelon mor gandryll o glywed hyn mae'n treisio Dwynwen.
Mae Dwynwen yn dianc i'r goedwig i alaru. Yno, mae'n gwedd茂o ar Dduw i'w helpu i anghofio Maelon. Pan mae'n syrthio i gysgu, mae angel yn ymweld 芒 Dwynwen ac yn rhoi diod arbennig iddi sy'n gwneud iddi anghofio am Maelon a'i droi i fewn i dalp o rew. Yna mae Dwynwen yn cael tri dymuniad. I ddechrau, mae'n dymuno i Maelon gael ei ddadmer, yn ail, bod Duw yn gwireddu holl freuddwydion a gobeithion unrhyw un sy'n glaf o gariad ac yn olaf na fyddai hi fyth yn priodi.
Gwireddwyd ei thri dymuniad ac i ddiolch am hynny, cysegrodd Dwynwen ei bywyd i Dduw gan fyw fel lleian ar ei phen ei hun ar Ynys Llanddwyn a sefydlu eglwys yno.
Ystyr Llanddwyn ydy Llan + Dwyn sef Eglwys y Sant, neu Santes, Dwyn neu Dwynwen. Mae olion yr eglwys i'w gweld ar yr ynys hyd heddiw.
Daeth yr eglwys a'r ffynnon gerllaw yn fan pererindota a thros y blynyddoedd bu pobl yn ymweld 芒'r ffynnon er mwyn cael eu hiach谩u.
Nawddsant cariadon
Er mai dim ond yn lled ddiweddar mae Dydd Santes Dwynwen wedi dod yn boblogaidd fel g诺yl y cariadon, gyda sefydliadau fel Bwrdd yr Iaith yn annog pobl i ddathlu'r diwrnod fel achlysur mwy 'Cymreig' na g诺yl San Ffolant, mae Dwynwen wedi cael ei hadnabod fel santes y cariadon ers canrifoedd.
Mae disgrifiad o gleifion yn cael eu hiach谩u wrth ei ffynnon mewn barddoniaeth o'r 16eg ganrif gan Dafydd Trefor ac mae Dafydd ap Gwilym hefyd yn gofyn i Dwynwen fynd yn llatai drosto at wrthrych ei serch, Morfudd, yn y 14edd ganrif.
Mae sawl fersiwn gwahanol o'r stori i'w gael, yn eu mysg, fersiwn yn llawysgrifau Iolo Morgannwg (1747 - 1826) sy'n honni i Maelon dorri'r dywedd茂ad ac i Dwynwen dorri ei chalon. Yn y fersiwn hwn mae Maelon yn cael ei rewi fel cosb gan Dduw.
Hefyd, mae cyfeiriad at Dwynwen yn 1494 mewn tair gweddi Ladin a ychwanegwyd at Lyfr Offeren Bangor sy'n dweud iddi gerdded dros F么r Iwerddon oherwydd fod arni ofn Maelgwn Gwynedd.