大象传媒

Dathlu G诺yl Chanukah

Canhwyllau Chanukah

G诺yl Chanukah

Neal Belkin sy'n sgrifennu am 糯yl 'Nadoligaidd' yn Israel - G诺yl Chanukah

Fel y Nadolig, g诺yl goleuadau yw Chanukah sy'n digwydd yn y gaeaf.

Mae'n ddiddorol iawn i Iddewon a Christnogion fel ei gilydd bod yr 糯yl yn dal i gael ei dathlu, ers dros dwy fil o flynyddoedd. Mae'n 糯yl ddeiniadol iawn gyda goleuadau prydferth yng nghanol y gaeaf.

Gyda'r nosau yn hir, mae'n bosibl fod y bobl ers talwm yn ofni fod yr haul yn marw ac roedden nhw am ei gynorthwyo i gael ei eni eto trwy gynnau canhwyllau.

Mae crefyddau eraill yn dathlu gwyliau goleuadau yn y gaeaf hefyd. Mae'r Hindwiaid yn dathlu Diwali ddiwedd mis Hydref gyda th芒n gwyllt a'r Rhufeiniaid, cyn y cyfnod Cristnogol, gyda g诺yl o'r enw Saturnalia, a oedd yn cynnwys canhwyllau.

Wyth diwrnod

Mae Chanukah yn 诺yl sy'n parhau am wyth diwrnod rhwng Rhagfyr 8 a'r 16 yn 2012 a chyneuir canhwyllau bob nos.

Ar y noson gyntaf, un gannwyll, ar yr ail noson, dwy gannwyll ac yn y blaen nes bod wyth cannwyll ar y noson olaf.

Mae canhwyllbren arbennig, Chanukiah, i ddal y canhwyllau.

Dydy hwn ddim yr un peth 芒'r Menorah ond yn dal naw cannwyll yn hytrach na saith.

Mae'r gannwyll ychwanegol yn cael ei galw'n 'shamash' - y gair Hebraeg am 'gofalwr' - sy'n cael ei ddefnyddio i gynnau'r canhwyllau eraill.

Cysylltiadau hanesyddol

Fel y Nadolig, mae cysylltiad rhwng dathlu'r 诺yl heddiw a digwyddiadau hanesyddol a chrefyddol.

Yn y flwyddyn 168 CC, roedd Israel wedi ei meddiannu gan y Syriaid ag addolai'r duwiau Groegaidd. Cafodd y Deml Iddewig yng Nghaersalem ei throi yn allor ar gyfer y duwiau hynny.

Dan eu harweinydd, Yehudah Macabi, gwrthryfelodd yr Iddewon yn erbyn y Syriaid ac yn y flwyddyn 165 CC, fe wnaeth yr Iddewon ryddhau Caersalem a'r Deml.

Roedd y Macabiau eisiau adfer y Deml i'w defnydd blaenorol a chynnau'r fflam arferai losgi'n barhaol yno.

Ond doedd dim digon o olew sanctaidd - dim ond un botelaid, digon am un diwrnod gyda'r cyflenwad newydd o olew yn daith wyth diwrnod i ffwrdd.

Serch hynny, fe gyneuo nhw'r fflam a digwyddodd gwyrth - fe losgodd yr olew am yr wyth diwrnod nes i'r olew sanctaidd newydd gyrraedd.

Felly, mae'r Iddewon yn dathlu eu buddugoliaeth a'r wyrth yma trwy oleuo canhwyllau am wyth noson.

Ac oherwydd bod y Deml yn cael ei hailgysegru adnabyddir yr 糯yl wrth y gair Hebraeg am ailgysegru, Chanukah.

Rhannu anrhegion

Er bod gwasanaethau crefyddol yn y Synagog ar gyfer Chanukah, yn y cartrefi mae'r prif ddathliadau, eto fel y Nadolig.

Rydym yn rhannu anrhegion ymysg y teulu - yn enwedig i'r plant - ac yn cynnau'r canhwyllau yn y nos yn ein cartrefi, pan fo'r teulu i gyd gyda'i gilydd.

Darperir bwydydd arbennig, yn enwedig rhai sy'n cael eu paratoi ag olew, fel toesenni a levivot neu latkes - crempogau sy'n cael eu gwneud o datws.

Mae hyn er mwyn ein hatgoffa o'r wyrth pan losgodd yr ychydig bach o olew am wyth diwrnod.

Amser llawen

Cyfnod llawen yw Chanukah, yn enwedig i blant ac yn Israel heddiw dydyn nhw ddim yn mynd i'r ysgol yn ystod yr wyth diwrnod a hynny'n creu awyrgylch ddymunol o wyliau yn y gweithleoedd ac ar y strydoedd.

Unwaith, pan ddychwelais i Israel o ymweliad tramor yn ystod Chanukah, roedd merched yn y maes awyr yn cynnig toesenni i bawb oedd yn cyrraedd y wlad. Croeso cynnes a melys, yn wir!

Cyhoeddwyd yr erthygl hwn yn wreiddiol ar wefan 大象传媒 Cymru'r Byd.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.