大象传媒

Iddewiaeth

Canhwyllau

Rheinallt Thomas yn trafod Iddewiaeth

Hanes

Iddewiaeth yw'r enw a roddir ar grefydd yr Iddewon.

I'r Iddewon, pedwar g诺r yn arbennig fu'n gyfrifol am sefydlu'r grefydd, sef:

  • Abraham,
  • Isaac,
  • Jacob a
  • Moses.

Roedd Abraham yn byw tua 2000 CC mewn rhan o'r byd sydd heddiw yn rhan o Irac.

Gellir darllen amdano yn Llyfr Genesis o'r Hen Destament ac yno hefyd y ceir hanes Isaac a Jacob.

Mae hanes Moses i'w gael yn bennaf yn llyfr Exodus ac ef arweiniodd y bobl o wlad yr Aifft o'u "caethiwed" i Wlad yr Addewid.

Ef hefyd roddodd iddynt Y Deg Gorchymyn (Exodus 20)

Man addoli

Bydd Iddewon yn addoli mewn Synagog. Mae'r enw'n golygu man cyfarfod a bydd pobl yn cyfarfod yno i gydwedd茂o ac i rannu eu credoau crefyddol.

Gyda'r Iddewon yn adeiladu mwy a mwy o synagogau yr oedd nifer fawr ohonynt erbyn amser geni Iesu.

Seren Dafydd

Gall synagogau fod ar unrhyw ffurf, ac o unrhyw faint ond bydd Seren Dafydd ar bob un ohonynt, fel arwydd mai synagog ydyw.

Seren Dafydd hefyd yw arwydd cenedlaethol Israel.

Yn y synagog bydd addolwyr yn wynebu Jerusalem wrth wedd茂o ac yng ngwledydd Prydain mae hynny'n golygu wynebu tua'r dwyrain.

Arch a Bimah

Prif nodweddion y synagog yw'r Arch a'r Bimah.
Fel rheol cwpwrdd yw'r Arch lle cedwir sgroliau'r Gyfraith Iddewig a elwir yn Torah.

Hefyd yn y cwpwrdd cedwir copi o'r Deg Gorchymyn a thynnir llen ar ei draws pan na ddefnyddir y sgroliau.

O bob ochr i'r Arch gwelir yn aml ganwyllbren saith braich a elwir yn Menorah.

Mae'r Bimah y tu blaen i'r cwpwrdd.

Math ar lwyfan yw hwn, lle bydd y Rabbi (offeiriad ac athro) yn annerch y gynulleidfa.

Yn aml bydd merched a dynion yn eistedd ar wah芒n yn ystod y gwasanaeth.

Ysgrythyrau sanctaidd

Mae gan yr Iddewon Feibl sydd wedi ei rannu'n dair prif ran:

  • Y Torah;
  • Y Proffwydi;
  • Yr Ysgrfeniadau.

Y Torah yw'r rhan sy'n dweud wrth gredinwyr sut berthynas ddylai fod rhyngddynt 芒 Duw ac mae'n cynnwys pum llyfr Y Gyfraith sef pum llyfr cyntaf y Beibl.

Yn adran Y Proffwydi ceir hanes y genedl Iddewig ac yn yr ail ran, hanesion a phroffwydoliaethau proffwydi fel Eseia, Jeremia ac eraill.
Yn Yr Ysgrifeniadau ceir hanes y genedl Iddewig ac yn ogystal lyfrau fel Llyfr y Salmau.

Credoau

Mae'n debyg mai'r Shema, sydd i'w chael yn y Torah, sy'n crynhoi credoau'r Iddewon orau.

Mae i'w gweld yn llyfr Deuteronomium Pennod 6. adn 5-7.

Mae

  • Caru cymydog,
  • Y Deg Gorchymyn,
  • Credu yn Nyfodiad y Meseia,
  • Yn Atgyfodiad y Meirw a Bywyd wedi Marwoaleth

i gyd yn gredoau allweddol.

Dylai dynion neilltuo amser i wedd茂o yn y bore, ganol dydd a gyda'r nos a byddant yn gwisgo cap corun - Yarmulkah - wrth wedd茂o.

Mae deddfau bwyd yn rhan annatod o'u credoau a rhaid i gig gael ei baratoi yn 么l deddfau Kosher.

Gwyliau

Mae'r Flwyddyn Newydd yn adeg bwysig iawn i Iddewon ac fe'i dethlir (yn dibynnu ar y lleuad) fis Medi/Hydref.

Rosh Hasanah yw diwrnod cyntaf y flwyddyn newydd a gorffennir y dathlu gyda Yom Kippur.

Gwyliau pwysig eraill yw: G诺yl y Pebyll neu 糯yl y Tabernaclau;
Chanukah - G诺yl y Bara Croyw neu'r Pesach a
Pentecost.

Bar-Mitzvah

Y Bar-Mitzvah yw'r achlysur pan ddaw bechgyn yn ddynion yn y grefydd Iddewig.

Digwydd y ddefod ar y Saboth (y dydd Sadwrn) agosaf i ben-blwydd y bachgen yn 13.

Bydd y plentyn yn cael ei hyfforddi gan y Rabbi gan ddysgu digon o Hebraeg i allu darllen o'r ysgrythurau Sanctaidd.

Ar ddiwedd y gwasanaeth disgwylir i'r bachgen fyw yn unol 芒'r gyfraith Iddewig am y gweddill o'i fywyd.

I'r teulu mae hon yn ddefod hollbwysig yn natblygiad y bachgen, a cheir parti mawr.

Ar gyfer genethod ceir Bat-Mitzvah sy'n digwydd yn agos i'w pen-blwydd yn 12 oed.
Felly disgwylir i enethod gadw at y gyfraith Iddewig flwyddyn yn gynharach na bechgyn.

Iddewon a Chymru

Mae Iddewon ar hyd y canrifoedd wedi teithio o'u gwlad ac ymsefydlu mewn gwledydd eraill.

Gwyddom am y miliynau yng ngwlad P诺yl a'r Almaen a ddioddefodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Daeth llawer i Brydain a Chymru.

Ym mhob gwlad maent wedi bod yn weithwyr diwyd ac yn fasnachwyr llwyddiannus.

Yn Ngogledd Cymru mae enwau fel Polecoff, Wartski a Schwartz yn rhai cyfarwydd a chofir am y modd y bu Jack Polecoff, nid yn unig yn fasnachwr llwyddiannus, ond yn Faer Tref Pwllheli ac yn siarad Cymraeg.

Sefydlwyd synagogau mewn nifer o leoedd gan gynnwys Bangor a Llandudno yn y Gogledd a Chaerdydd ac Abertawe yn y De ac mae dau synagog gweithredol yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.