Roedd Manawydan a'i wraig Rhiannon, a Pryderi a'i wraig Cigfa, yn byw yn Nyfed ac yn ffrindiau pennaf. Pan oeddynt ar ben Bryn Arberth un diwrnod disgynnodd llen o niwl drostynt, a phan gododd y niwl roedd pawb a phopeth ond hwy ill pedwar wedi diflannu.
Wedi byw yn unig am ddwy flynedd aethant i fyw i Henffordd a dechrau gwneud cyfrwyau, rhai mor wych nes bod y cyfrwywyr eraill yn eiddigeddus ohonynt ac yn cynllwynio i'w lladd. Newidiodd y pedwar eu crefft a gwneud tarianau. Digwyddodd yr un peth eto.
Penderfynodd y ffrindiau symud i dref arall a dilyn crefft y crydd. Roedd eu gwaith mor hardd a chywrain, ni phrynai neb yn y dref yr un esgid oni bai ei bod wedi ei llunio gan Manawydan. Cynllwyniodd y cryddion eraill i'w ladd, a bu'n rhaid i'r ffrindiau ffoi i Arberth.
Un bore aeth Pryderi a Manawydan allan i hela. Pan ddaeth eu helgwn at berth arbennig cawsant fraw mawr a rhedeg yn 么l at eu meistri. Cododd baedd claerwyn o'r berth a rhuthrodd y c诺n arno a'i ymlid. Rhedodd y baedd i gastell mawr mewn man lle nad oedd castell wedi bod erioed o'r blaen, a rhuthrodd y c诺n ar ei 么l.
Gwyliodd Pryderi a Manawydan y castell rhyfedd o ben bryn, a gwrando'n hir am yr helgwn. Yn groes i gyngor Manawydan aeth Pryderi i'r castell i chwilio amdanynt.
Gyda'r nos, a Pryderi heb ddychwelyd i'r llys, aeth Rhiannon i chwilio amdano. Aeth i mewn i'r castell. Dyna lle'r oedd Pryderi yn sefyll yn llonydd ar garreg farmor a'i ddwylo wedi glynu mewn cawg hardd.
Rhedodd Rhiannon i'w helpu, a digwyddodd yr un peth iddi hithau. Disgynnodd niwl oer drostynt, a diflannodd y ddau gyda'r castell.
Wylodd Cigfa yn hidl pan glywodd yr hanes, ond addawodd Manawydan ofalu amdani. Aeth y ddau i Loegr a gweithio crefft y crydd er mwyn prynu gwenith i ddod yn 么l i Arberth.
Gartref, heuodd Manawydan yr had mewn tri chae, a dyna'r gwenith gorau a dyfodd neb erioed. Amser cynhaeaf gwelodd Manawydan y cnwd yn aeddfed braf ac aeth ati i'w fedi. Ond pan gyrhaeddodd y cae yn gynnar yn y bore roedd rhywun wedi dwyn y tywysennau a gadael dim ond y coesau gwellt yno'n llwm.
Roedd yr ail gae yn barod i'w fedi. Ond pan aeth Manawydan i'w gynaeafu drannoeth nid oedd yno chwaith ddim ond gwellt. Aeth i edrych ar y trydydd cae. Roedd y gwenith yn aeddfed a'r tyfiant yn gryf.
Gwyliodd Manawydan y cae y noson honno i weld pwy oedd yn dwyn ei wenith. Ar hanner nos rhuthrodd pla o lygod i'r cae, dringo i fyny'r gwellt, torri'r tywys, a dianc.
Ni fedrai Manawydan eu dal, ond gwelodd lygoden feichiog a neidiodd ar honno. Rhoddodd hi yn ei faneg a rhwymo genau'r faneg 芒 llinyn.
Drannoeth dringodd Manawydan i ben Bryn Arberth er mwyn crogi'r llygoden. Daeth clerigwr tlawd ato a chynnig punt iddo am ei gollwng. Gwrthododd. Yna daeth offeiriad ar gefn ceffyl ato a chynnig teirpunt iddo am ei gollwng. Gwrthododd.
Fel yr oedd Manawydan yn barod i grogi'r llygoden daeth esgob ato a chynnig seithbunt iddo am ei gollwg. Gwrthododd. Cynigiodd yr esgob bedair punt ar hugain. Gwrthododd. 'Dyma fy mhris,' meddai Manawydan. 'Rhyddhau Rhiannon a Pryderi, a chodi'r niwl a'r hud sydd ar saith cantref Dyfed.'
Cytunwyd ar hynny. Ar y gair daeth Rhiannon a Pryderi tuag atynt, a rhyddhawyd y llygoden feichiog. Trodd hithau yn wraig ifanc hardd.
Mwy
Cysylltiadau'r 大象传媒
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Chwedlau Myrddin
Straeon a gemau
Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.