Fe ddaeth y ffilm a enwebwyd am Oscar ym 1992 芒 Hedd Wyn i sylw'r byd.
Hedd Wyn oedd oedd Bardd y Gadair Ddu yn 1917 ac enw barddol y bugail o Drawsfynydd, Ellis Humphrey Evans.
Ar 么l bwrw ei brentisiaeth mewn eisteddfodau lleol a dod yn ail yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, rhoddodd Hedd Wyn ei fryd ar ennill Cadair Penbedw (Birkenhead) ym 1917.
Ond roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn ei anterth yn Ffrainc a rhoddwyd pwysau ar ffermwyr Cymru i anfon eu meibion i faes y frwydr gan nad oedd yr awdurdodau yn tybio bod angen mwy na dau adref i ffermio. Gan mai Ellis oedd yr hynaf o feibion fferm yr Ysgwrn, fe ymunodd 芒 Phymthegfed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ac fe'i hanfonwyd i Ffrainc.
Er gwaethaf amgylchiadau erchyll bywyd yn y ffosydd, daliodd ati i ganu a gorffen y gerdd Yr Arwr ar y ffordd i Fflandrys. Fe'i hanfonodd o'r ffosydd dan y ffug enw Fleur-de-Lis. Defnyddiodd ei brofiadau fel milwr i ddisgrifio realilti'r rhyfel i'r milwyr ac i'w teuluoedd gartref.
Pan gyhoeddwyd enw'r bardd buddugol o'r llwyfan ym Mhenbedw, bu distawrwydd llethol. Roedd Hedd Wyn wedi'i ladd chwe wythnos ynghynt ym mrwydr Pilckem Ridge, Ypres. Yn 么l adroddiad un o ohebwyr y Western Mail: "Yn lle'r seremoni gadeirio arferol rhoddwyd lliain du dros y gadair mewn distawrwydd llethol, a daeth y beirdd ymlaen mewn prosesiwn hir i dalu teyrnged ar fesur englyn neu gwpled i'r gadair ddu er cof am y bardd marw."
Ar 么l y Rhyfel, anfonwyd deiseb at Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad a chaniatwyd rhoi'r geiriau Y Prifardd Hedd Wyn yn ogystal 芒'i enw E H Ellis ar ei fedd.
Fe godwyd cofgolofn efydd iddo hefyd yng nghanol pentref Trawsfynydd ac fe'i dadorchuddiwyd gan ei fam ym 1923. Fel arysgrifiad arni defnyddiwd englyn a luniodd Hedd Wyn ei hun er cof am gyfaill a fu farw yn y ffosydd:
Ei aberth nid 芒 heibio - ei wyneb
Annwyl nid 芒'n ango
Er i'r Almaen ystaenio
Ei dwrn dur yn ei waed o
Mae medalau Hedd Wyn i'w gweld yn Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghaernarfon ynghyd 芒 lluniau a ffilm fer amdano fo a beirdd rhyfel eraill.
Mwy
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn