Cofio Eisteddfod Penbedw
topIn order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
William Morris yn cofio achlysur 'cadeirio' Hedd Wyn yn Eisteddfod Penbedw 1917, hanner canrif yn ddiweddarach.
05 Tachwedd 2008
Magwyd Ellis Humphreys Evans (1887 -1917) ar fferm Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd, Gwynedd. 'Roedd yn fugail ac yn fardd a mabwysiadodd yr enw barddol, Hedd Wyn.
Yn 1917 cafodd alwad i ymuno 芒'r fyddin ac fe anfonwyd ef i Ffrainc gyda'r Royal Welch Fusiliers. Y flwyddyn honno Yr Arwr oedd testun y gadair yn Eisteddfod Penbedw ac fe anfonodd Hedd Wyn ei awdl o Ffrainc o dan y ffugenw, Fleur-de-Lis.
Dyfarnwyd y gerdd yn fuddugol, ond fe laddwyd y bardd ym mrwydr Cefn Pilkem cyn iddo gael y cyfle i dderbyn ei gadair. Gan fod yr enillydd wedi marw, gorchuddiwyd y gadair gyda lliain du.
Darlledwyd y darn hwn yn wreiddiol ar y rhaglen Yr Arwr ar 31/07/1967.
Cysylltiadau eraill:
Straeon Digidol
Perthyn
Stori am dynfa deuluol i Ffrainc lle lladdwyd aelod o'r teulu yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gogledd ddwyrain
Rhuthun a'r Rhyfel Mawr
Collodd y dref farchnad 101 o filwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf.