Lansiwyd y CD aml-gyfrannog Dan y Cownter yn steddfod yr Urdd llynedd, roedd o mor boblogaidd - penderfynwyd lansio Dan y Cownter 2.
Huw Stephens, cyflwynydd C2 ar 大象传媒 Radio Cymru ac ar Radio 1 sydd eto wedi dewis 10 o ganeuon sy'n dangos cymaint o amrywiaeth sydd o fewn y s卯n roc Gymraeg dyddie yma. Mae'r CD yn cynnwys hip hop, gwerin, roc a phop gydag enwau cyfarwydd a newydd.
O Radio Lux i Rich James, Swci Boscawen i'r Sibrydion. Cafodd yr albwm ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac roedd ar werth mewn amryw o stondinau yn cynnwys stondin Dan y Cownter ei hun.
Pan glywais Huw Stephens yn dweud ar C2 fod y CD ar werth roedd yn rhaid i mi ei gael felly es yn syth at y cyfrifiadur i ddanfon e-bost. Ar 么l tua wythnos cyrhaeddodd y CD a doeddwn methu aros i wrando arno.
Clawr yn adlewyrchu s卯n
Mae'r clawr yn ddeniadol iawn yn dangos llun o bobl yn dawnsio mewn gig gyda'u breichiau yn yr awyr, mae hyn i mi yn lun o'r S卯n Roc Gymraeg. Ac mae Dan y Cownter 2 a rhestr o'r artistiaid mewn ffont cyfoes a modern mewn gwyn a melyn. Clawr eithaf syml ond yn effeithiol.
Dywedodd Huw Stephens "Mae'n rhwydd iawn mwynhau Dan y Cownter 2 - rhowch y CD yn y peiriant a gadewch i'r gerddoriaeth wneud gweddill y gwaith. Fe ddewisais y traciau a'r artistiaid am eu cryfderau. Mae llawer yn digwydd gyda cherddoriaeth gyfoes Gymraeg yn barhaol", a chytunaf yn llwyr!
Gan fod cymaint o artistiaid gwahanol mae'n addas ar gyfer pobl o bob oed a bob chwaith cerddorol. Mae'n CD gallwch wrando arni i ymlacio, i baratoi i fynd allan neu i godi ysbryd.
Pwrpas yr albwm oedd i adlewyrchu bwrlwm a chyfoeth byd cerddoriaeth gyfoes Gymraeg a thynnu sylw at y datblygiad a'r diddordeb yn y byd yma yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf. Credaf ei fod wedi cyflawni hyn yn llwyr ac wedi denu sylw at gerddoriaeth Cymraeg cyfoes. Hefyd mae wedi denu cynulleidfa ehangach i gerddoriaeth Gymraeg cyfoes.
Y caneuon
Y caneuon sydd ar y CD ydy Radio Luxembourg - 'Pwer y Fflwer', Swci Boscawen - 'Adar y Nefoedd', Mim Twm Llai - 'Rhosyn Rhwng Fy Nannedd', Genod Droog - 'Breuddwyd Oer', Stiches - 'Dan Do', Rich James - 'Tir a M么r', Sibrydion - 'Blithdraphlith', Y Diwygiad - 'Mewn Can Mlynedd', Ryan Kift - 'Gola Ola', Acid Casuals - 'Y Ferch ar y Cei yn Rio'.
Fy ffefryn i ar y CD ydy 'Adar y Nefoedd' gan Swci Boscawen. Mae'n g芒n feddal ac ymlaciedig sy'n hawdd i wrando arni.
Credaf mai'r g芒n sy'n gwneud i chi eisiau dawnsio iddi fwyaf ydy 'Blithdraphlith' gan Sibrydion.
Rwy'n credu fod tri pheth yn gyffredin i bob artist sydd ar y CD, sef bod gyda nhw dalent, yn brysur ac yn creu cerddoriaeth wych. Ond y siom fwyaf cefais oedd mai dim 'Lisa, Magic a Porfa' oedd ar y CD fel c芒n Radio Lux.
I orffen credaf fod Dan y Cownter 2 yn CD ardderchog sy'n dangos amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg sydd ar gael ar y foment. Gallwch archebu eich copi am ddim drwy e-bostio post@danycownter.com a gofyn yn neis am gopi!