大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Enillwyr gyda'u tlysau a'u tystysgrifau Diwrnod Maes y Ffermwyr Ifanc
Ebrill 2007
I'r rhai ohonoch na 诺yr beth yw Diwrnod Maes y Ffermwyr Ifanc peidiwch 芒 phoeni dim. Tan wythnos yn 么l, roeddwn i fy hun yn yr un cwch 芒 chithau.

Gofynnwyd i mi yn ddiweddar i gymryd rhan yng nghystadlaethau'r dydd am y tro cyntaf eleni, er mawr syndod i mi, oherwydd yr oeddwn wedi credu erioed mai diwrnod i'r ffermwyr go iawn oedd hwn, i'r rhai nad oedd yn berchen ar b芒r o welis gl芒n, ac a fynychai'r Sioe Fawr yn Llanelwedd er mwyn cystadlu yn ogystal 芒 mynychu'r Members a'r Pentre Ieuenctid!

Ar ddiwedd mis Mawrth eleni oedd y diwrnod mawr, ac fe'm synnwyd i weld y croestoriad amrywiol o bobl a oedd yno. Roedd yno rywbeth i bawb, o'r cystadlaethau amaethyddol traddodiadol fel y barnu stoc a'r ffensio i'r cystadlaethau mwy cyfoes fel cystadleuaeth hyrwyddo clwb a dawnsio.

Mentro i'r gystadleuaeth cyflwyno rhaglen radio i hyrwyddo'r clwb wnes i eleni, a hynny ond wedi un ymarfer y noson cynt, yng ngwir draddodiad y mudiad. Wedi'r cyfan, roedd y cwbl yn fwy ffres fel hynny! Roedd y beirniad Geraint Lloyd i weld yn hapus iawn 芒'r arlwy a gyflwynwyd iddo, ac er mawr syndod, fe'm gwobrwywyd yn ail mewn cystadleuaeth o safon uchel.

Rhoesom gynnig ar bron i bob cystadleuaeth, sy'n dipyn o gamp i glwb mor fach 芒 ninnau yn Nhroed-yr-Aur. Fe gystadlodd nifer dros y clwb am y tro cyntaf yn y cystadlaethau barnu stoc a'r cwis natur, a llwyddodd yr aelodau newydd yma i ddod 芒 llawer o bwyntiau i'r clwb.

Mentrodd ein dwylo mwy profiadol, yn 么l eu harfer, ar y gystadleuaeth ffensio. Er, ni fuont mor llwyddiannus ag arfer eleni. Ond, llwyddodd y clwb ennill y gystadleuaeth effeithiolrwydd a diogelwch am y bumed tro yn olynol eleni, a llongyfarchiadau mawr iddynt. Llongyfarchiadau hefyd i Rhys am ennill cystadleuaeth y Mini Digger.

Ar ddiwedd y dydd fe ddaeth pawb yn 么l i'r mart yn Nhregaron er mwyn aros yn eiddgar i weld pwy aeth 芒 hi. Ac eleni, am y tro cyntaf, ein tro ni, Troed-yr-Aur oedd cipio'r wobr gyntaf, a ninnau ddaeth i'r brig!

Ar 么l diwrnod i'w gofio, roedd yn rhaid dychwelyd i Dregaron y noson honno i ddathlu'r fuddugoliaeth ac i lenwi'r cwpan. Roedd hi'n noson a hanner, a braf oedd gweld y clybiau eraill i gyd yn uno i longyfarch clwb mor fach ar eu camp sylweddol.

Lowri Thomas

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy