Nos Iau oer ar ddiwedd mis Hydref a beth well i dwymo'r galon na diod fach a noson o adloniant ysgafn yng nghwmni un o bobl ifanc mwyaf talentog Cymru, Fflur Dafydd.
Mae Fflur yn adnabyddus ers blynyddoedd fel bardd a llenor llawn potensial, ond yn ddiweddar mae wedi ymddangos fwy fwy ar lwyfannau cerddorol Cymru a thu hwnt gyda'i band 'y Barf'. Wedi dweud hynny, ei gwaith fel awdur a gipiodd y penawdau yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe eleni wrth iddi ennill y Fedal Lenyddiaeth. Roedd felly'n argoeli'n noson ddifyr wrth iddi gyfuno'r holl dalentau hyn ym Mhontrhydfendigaid.
Cyn dechrau perfformio eglurodd Fflur mai ond y dim a llwyddo i'w gwneud hi i'r Bont a wnaeth gan ei bod wedi dioddef o 'donsilitis' yn ystod y dydd. Ymddiheurodd o flaen llaw am safon ei llais o ganlyniad i hyn, ond wrth iddi daro'r nodau cyntaf o'i set daeth yn amlwg fod dim ganddi i boeni amdano yn hynny o beth. Dechreuodd gyda chwpl o ganeuon o'i halbwm llwyddiannus Coch Am Weddill fy Oes ac er mai cynulleidfa fach oedd yno roeddent yn rhoi gwrandawiad da iddi.
Yna penderfynodd amrywio pethau rhywfaint gan ddarllen cerdd a ysgrifennwyd ganddi rhai blynyddoedd ynghynt. Darn o nofel fuddugol y Fedal Lenyddiaeth, Atyniad, oedd i ddod nesaf, ond cyn hynny rhoddodd beth o gefndir yr ysgogiad i ysgrifennu'r gwaith, yn cynnwys y cyfnod y treuliodd ar Ynys Enlli fel bardd preswyl.
Er bod y darlleniadau llenyddol yn cael eu gwerthfawrogi, roedd yn amlwg mai'r ochr gerddorol i'r noson yr oedd y gynulleidfa'n ei fwynhau fwyaf. Cafwyd cymysgedd o ganeuon o'i halbwm cyntaf, yn cynnwys yr hyfryd Gwir am Gelwydd, ac hefyd rhai o'i caneuon cynharaf nad oedd yn 么l Fflur 'cweit yn ddigon da i gael lle ar yr albwm', ond a oedd hi yn fwy ffond ohonyn nhw o ganlyniad.
Penderfynodd ddarllen darn doniol arall o Atyniad gan roi cipolwg i fewn i feddyliau rhai o'r cymeriadau. Gyda'r llais i'w weld yn para'n dda, roedd rhaid cael c芒n i orffen y noson, a Wordrob Gefn ddaeth a'r adloniant i derfyn a'r gynulleidfa'n amlwg wedi eu plesio'n fawr.
Hon oedd y gyntaf o'r nosweithiau Bontcwstig fydd yn cael eu cynnal ym Mar y Pafiliwn bob mis, gyda'r canwr-gyfansoddwr Ryan Kifft a 'Pictiwrs yn y Pub' yn diddanu ym mis Tachwedd.
Gyda rhywfaint o lwc bydd y gair wedi lledu am safon yr adloniant gyda Fflur Dafydd a bydd cynulleidfa fwy yno'n y dyfodol.
Owain Schiavone
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Mwy am Bafiliwn Bont yma
|