大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Richard James Adolygiad o gig Richard James
Roedd Richard James o'r Gorky's Zygotic Mynci yn perfformio yn y C诺ps yn Aberystwyth ar Ebrill 26, 2006. Roedd Owain Schiavone yno ...
Lle a phryd
Tafarn y C诺ps, Aberystwyth - 26ain Ebrill 2006

Y bandiau
Richard James, Pwsi Meri Mew a Steady Eddy Steady

Awyrgylch
Tywyll a tanddearol fel arfer yn y C诺ps. Roedd cynulleidfa dda yno o ddechrau'r noson a'r lle'n reit llawn erbyn y brif eitem gyda phawb yn ymateb yn dda i'r holl artistiaid.

Trac y noson
Gallen i enwi nifer o ganeuon Richard James gyda My Heart's on Fire yn gofiadwy, ond am ryw reswm Malu Awyr gan Steady Eddy Steady sy'n aros yn y cof fwyaf. C芒n fachog gyda backtrack effeithiol.

Disgrifiwch y perfformiadau

Steady Eddy Steady:
Steady Eddy SteadyCanwr-gyfansoddwr cymharol newydd i'r s卯n ydy Steady Eddy Steady a dwi'n cofio ei weld o'n perfformio dan yr enw Endaf Ilan rhyw flwyddyn n么l. Roedd ei set o'n dechrau ffwrdd mewn arddull acwstig draddodiadol gyda dim ond s诺n git芒r a llais ac mae hi wastad yn anodd dal sylw'r gynulleidfa fel hyn. Ar gyfer y caneuon olaf mi wnaeth o gyflwyno backtrack a roedd hyn yn creu s诺n llawer llawnach oedd yn creu mwy o argraff. Llais da a caneuon bachog.

Pwsi Meri Mew
Pwsi Meri MewMae Pwsi Meri Mew yn un o regulars Aberystwyth erbyn hyn yn perfformio yno'n gyson a fel arfer roedden nhw'n hynod o ffynci a hwyliog. Dechreuodd y set gyda cwpl o ganeuon acwstig swynol cyn mynd mewn i'w harddull ffynci/affrobitaidd adnabyddus. Roedd ychwanegiad y bongos ac effeithiau technegol gan Rhys 'Spikes' yn effeithiol. Y gan Gadael sy'n sefyll allan fel un o ganeuon gorau'r set.

Richard James
Mae Richard yn enw a wyneb cyfarwydd iawn i ddilynwyr cerddoriaeth, yn bennaf fel un o aelodau'r Gorkys Zygotic Mynci ac roedd yn amlwg wedi denu llawer iawn o'r gynulleidfa'n arbennig. Ni gawsom ein siomi wrth iddo roi perfformiad gwych yn cynnwys nifer o ganeuon o'i albwm newydd. Cerddoriaeth swynol a hamddenol gyda dylanwad cerddoriaeth gwlad yn amlwg. Roedd y g芒n Tir a M么r yn wych gyda'r gynulleidfa'n gwrando'n astud.

Digon o amrywiaeth yn arddull cerddorol y bandiau yn cynnal diddordeb y gynulleidfa.

Uchafbwynt y noson
Richard James yn perfformio yn Aberystwyth...oes angen gwell uchafbwynt?

Peth gwaethaf am y noson
Rhai pobl oedd yn mynnu siarad wrth y bar yn ystod y perfformiadau. Er nad ydy hyn yn beth anghyffredin mewn gigs yn Nghymru yn anffodus, mae'n dal i fod yn siomedig i'w weld.

Achlysur Roc A R么l
Amser dechrau'r gig yn cael ei wthio n么l oherwydd trafferthion gyda'r trydan. Roedd ond y dim iddi fod yn gig acwstig unplugged!

Beth sy'n aros yn y cof?
Alaw hyfryd My Heart's on Fire.

Talent gorau'r noson
Richard James heb os, ond mae llawer o botensial i'r ddau arall.

Marciau allan o ddeg
9 - pob perfformiad yn ychwanegu i noson dda

Un gair am y gig
Hyfryd

Gan: Owain Schiavone o Aberystwyth

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy